Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol. |
|
Ethol Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Dinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd, o ran cynnig y Cynghorydd Chris Holley, a eiliwyd gan y
Cynghorydd Graham Thomas, y dylid ethol Peter Black i swydd Arglwydd Faer Dinas
a Sir Abertawe ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. Cafodd Peter Black ei arwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol yr Arglwydd Faer. Cafodd Mrs Angela Black ei harwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol yr
Arglwydd Faeres. Gwnaeth yr Arglwydd Faer y Datganiad Derbyn Swydd a’i lofnodi. Y Cynghorydd P M Black (yr Arglwydd Faer) fu'n
llywyddu |
|
Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd, o ran cynnig y Cynghorydd Des Thomas, a eiliwyd gan y
Cynghorydd Christine Richards, y dylid ethol Mark Child i swydd Dirprwy
Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2019-2020. Cafodd Mark Child ei arwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol y Dirprwy
Arglwydd Faer. Cafodd Mrs Marion Child ei harwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol y Dirprwy
Arglwydd Faeres. Gwnaeth y Dirprwy Arglwydd Faer y Datganiad Derbyn Swydd a'i lofnodi. |
|
Anerchiad Agoriadol Yr Arglwydd Faer. Cofnodion: Diolchodd yr Arglwydd Faer i’r cyngor am ei ethol a llongyfarchodd y
Cynghorwyr David Phillips a Sybil Crouch am eu tymhorau llwyddiannus fel
Arglwydd Faer ac Arglwydd Faeres. Anerchodd y
cyngor a diolchodd i'r aelodau am ei ethol. Dywedodd ei fod wedi penodi'r
Parchedig Ian Drew Jones fel ei Gaplan a chyhoeddodd mai elusennau'r Arglwydd Faer
ar gyfer ei dymor fydd Unity in Diversity, Crisis a'r RSPCA (Llys Nini). |
|
Arglwydd Faer Sy'n Ymddeol. Cofnodion: Penderfynwyd o ran cynnig y Cynghorydd June Burtonshaw,
a eiliwyd gan y Cynghorydd Fiona Gordon, y dylid diolch i'r Cynghorydd David
Phillips am dymor llwyddiannus fel yr Arglwydd Faer a'r Cynghorydd Sybil Crouch
fel yr Arglwydd Faeres. Cyflwynodd yr Arglwydd Faer fedaliynau ar ran y cyngor i'r Arglwydd Faer
a'r Arglwydd Faeres sy'n ymddeol. Diolchodd y
Cynghorydd Phillips i'r cyngor am ei gefnogi yn ystod ei dymor mewn ymateb i'r
cynnig o ddiolch. Myfyriodd hefyd am ei
holl ddyletswyddau yn ystod ei dymor fel Arglwydd Faer. |