Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

Y Cynghorydd C A Anderson – Personol - Cofnod Rhif 51 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig - Nissan NV200 - rwy'n adnabod yr ymgeisydd. 

 

Y Cynghorydd N J Davies - Personol - Cofnod Rhif 54 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - KSR. Rwy'n adnabod yr ymgeisydd yn broffesiynol. Gadawodd y Cynghorydd N J Davies y cyfarfod cyn ystyried yr eitem.

 

Swyddogion

 

Samantha Woon - Personol - Cofnod Rhif 55 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais AJR am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd Samantha Woon y cyfarfod cyn ystyried yr eitem.

49.

Cofnodion: pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2018 yn gofnod cywir.

50.

Cais i dynnu isafswm maint yr injan/angen capasiti. pdf eicon PDF 176 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn ceisio diddymu isafswm maint injan/gofyniad cynhwysedd.

 

Manylodd ar yr wybodaeth gefndirol, y sefyllfa bresennol, y cynnig, yr ymchwil, yr ystyriaethau a’r argymhellion.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Penderfynwyd diddymu'r amod sy'n gofyn bod maint injan cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat cyfyngedig yn llai na 1500cc.

51.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig - Nissan NV200 - NK12 FHW. pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo trwydded cerbyd hurio preifat cyfyngedig Mr Harris mewn perthynas â'r Nissan NV200, rhif cofrestru NK12 FHW, a'i hadnewyddu yn ôl teilyngdod.

 

52.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

53.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - MC.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais MC i gael ei eithrio o gludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat.

 

Esboniodd MC yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais MC i gael ei eithrio o gludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat, tan fis Tachwedd 2021.

54.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KSR.

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod y mater wedi'i ohirio o'r cyfarfod ar 9 Tachwedd, 2018 er mwyn i KSR drefnu cynrychiolaeth gyfreithiol. 

 

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais KSR am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Esboniodd KSR yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais KSR am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

1.     Nid oedd yr aelodau'n fodlon bod KSR yn berson addas a phriodol;

2.     Mae'r canllawiau'n nodi bod rhaid i gyfnod o o leiaf dair blynedd heb euogfarnau mewn perthynas â thrais fynd heibio cyn yr ystyrir cais;

3.     Ni ddarparwyd rhesymau argyhoeddiadol gan yr ymgeisydd dros fynd yn groes i'r canllawiau;

4.     Ni dderbyniodd yr ymgeisydd unrhyw fai am y troseddau.  

55.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - AJR.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais AJR am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Esboniodd AJR yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais AJR am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

1.     Nid oedd yr aelodau'n fodlon bod AJR yn berson addas a phriodol;

2.     Mae'r canllawiau’n ddewisol o ran a ddylid cymeradwyo trwydded ar ôl i drwydded yrru'r DVLA gael ei hadfer yn dilyn gwaharddiad;

3.     Ystyriodd y pwyllgor yn yr achos hwn fod nifer yr euogfarnau am oryrru o fewn cyfnod byr, tair euogfarn o fewn 12 mis, a bod hyn yn dangos patrwm difrifol o droseddu gan warantu ymagwedd gryfach.  

4.     Ystyriodd y pwyllgor na fu troseddau pellach yn ystod y tair blynedd diwethaf, fodd bynnag ni ddangosodd yr ymgeisydd ei fod wedi dysgu o'i gamgymeriadau blaenorol.