Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. 

35.

Cofnodion: pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2018 fel cofnod cywir.

 

36.

Tai Cydweithredol. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Geoff Bacon, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo, adroddiad yn amlinellu'r gwaith dod o hyd i ffeithiau a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a oedd yn ystyried mentrau posib a chynllunio polisi newydd. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad blaenorol i'r pwyllgor ar 8 Mawrth 2018 yn Atodiad A, a amlinellodd gefnogaeth yr awdurdod am amrywiaeth o fathau a daliadaethau o gynlluniau tai cydweithredol ymarferol a rhai a arweinir gan y gymuned.

 

Ychwanegodd fod gweithgareddau hyd yma wedi cynnwys cysylltiad diweddar gan grŵp cyhoeddus bach a oedd wedi mynegi diddordeb mewn sefydlu cynllun 'llawr gwlad' a arweinir gan y gymuned ar dir y cyngor. Roedd Atodiad B yn cyflwyno'r Polisi Tai Cydweithredol drafft.

 

Cyfeiriodd at gynllun cydweithredol llwyddiannus yn Sir Gâr ac at gynllun posib y gallai'r awdurdod ei arwain a dywedodd fod gwaith i nodi safleoedd yn parhau.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Yr awdurdod yn sefydlu datblygiadau ar ei dir, gan hyrwyddo tir y cyngor a sicrhau elw digonol ar gyfer y tir;

·       Yr egwyddor ar gyfer cynlluniau llawr gwlad a'r ymagwedd orau atynt;

·       Ymateb agored yr awdurdod i'r holl gysylltiadau a gafwyd. 

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Cytuno ar y Polisi Tai Cydweithredol drafft a'i drosglwyddo i'r Cabinet i'w gymeradwyo.

37.

Cartrefi fel Gorsafoedd Pwer.

Cofnodion:

Cyflwynodd Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd, y diweddaraf ar lafar ynghylch Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer i'r pwyllgor.

 

Nodwyd mai hon oedd 1 o 3 elfen drawsbynciol o 11 elfen y Fargen Ddinesig sy'n cael eu rhoi ar waith ar draws y 4 awdurdod. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r awdurdod arweiniol a lluniwyd achos busnes fis Gorffennaf diwethaf a drosglwyddwyd i Lywodraeth y DU i'w gymeradwyo. Roedd y prosiect yn cael ei reoli trwy'r Bwrdd Strategaeth Economaidd a'r cyd-bwyllgor.

 

Amlinellwyd y cynigion yn fanwl, gan gynnwys yr agwedd allweddol o fynd i'r afael â thlodi tanwydd a sut byddai'r cartrefi'n gweithredu. Byddai'r cartrefi yn hunangynhaliol ac yn gwerthu unrhyw ynni dros ben yn ôl i'r Grid Cenedlaethol. Ar ben hynny, yn allweddol i'r prosiect oedd cyflogi contractwyr lleol/rhanbarthol er mwyn sicrhau y byddai economi'r rhanbarth yn elwa.

 

Darparodd fanylion y cartrefi cam cyntaf ar Colliers Way a'r cynnigion ôl-osod ar gyfer cartrefi sydd eisoes yn bodoli. Y nod oedd adeiladu 2,500 o dai newydd ac ôl-osod 7,500 o dai. Ychwanegodd fod angen sefydlu datblygiadau ynghylch cartrefi sector preifat/perchnogion eiddo a Llywodraeth Cymru.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Bod cost darparu ynni adnewyddadwy yn y fan a'r lle yn rhatach na dosbarthu ynni;

·       Yr her a wynebir ynglŷn â storio ynni'n ganolog;

·       Ymweliad safle â'r cynllun peilot yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;

·       Cynnwys datblygu sector preifat yn natblygiadau a diweddaru polisi cynllunio/arweiniad/rheoliadau adeiladu er mwyn darparu ar gyfer newidiadau;

·       Datblygiadau i ddeunyddiau adeiladu e.e. toeau, gwelliannau o ran storio ynni.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf;

2)    Trefnu ymweliad safle â'r cynllun peilot yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer mis Ionawr 2019.

 

38.

Polisi Seilwaith Gwyrdd. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Lleoedd nodyn briffio ar Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd Abertawe. Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys y prif egwyddorion, y ddeddfwriaeth a'r cynnig.

 

Mynegodd mai canol y ddinas oedd y flaenoriaeth a roddir ar waith yn y flwyddyn nesaf. Ychwanegodd fod y cyngor yn gobeithio penodi ymgynghorydd arbenigol a byddai ef yn cyflwyno manylion pellach yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y nodyn briffo;

2)    Darparu diweddariad yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

39.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynllun gwaith 2018-2019 wedi'i ddiweddaru;

2)    Ychwanegu Isadeiledd Gwyrdd Abertawe ar gyfer cyfarfodydd mis Rhagfyr 2018 a mis Ionawr 2019;

3)    Ychwanegu adborth ar goridor yr afon at gyfarfod mis Ionawr 2019.