Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datgeliadau o gysylltiadau - Chris Holley. |
|
Nodiadau cyfarfodydd blaenorol PDF 113 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfodydd blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Mawrth a 26 Mawrth yn gofnod cywir o'r cyfarfodydd. |
|
Cwestiynau'r Cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Y Diweddaraf am Gynllun Gwella'r Gwasanaethau i Oedolion PDF 247 KB Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion Cofnodion: Rhoddodd Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, y diweddaraf am Gynllun Gwella'r Gwasanaethau i Oedolion. Pwyntiau trafod: · Nid yw'r panel yn cytuno â'r fethodoleg arbedion sy'n cael ei defnyddio ac mae'n pryderu bod arbedion yn cael eu hystyried fel incwm yn hytrach na chostau gohiriedig. · Cyflwynwyd cais i gefnogi pum Cydlynydd Ardal Leol (CALl) a dirprwy arweinydd tîm. Bydd tri'n cael eu penodi cyn gynted â phosib a dau arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn. · Hoffai'r panel weld dangosyddion perfformiad sy'n dangos gwerth Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a'r gwerth y maent yn ei ychwanegu. Mae'r awdurdod am weld a all fewnforio 'teclyn Wiltshire' er mwyn ei alluogi i wneud hyn. Cytunodd Aelod y Cabinet i ddarparu adroddiadau academaidd er mwyn profi bod CALl yn arbed ddwywaith eu cost. Camau Gweithredu: · Bydd Aelod y Cabinet yn darparu adroddiadau academaidd am arbedion Cydlynwyr Ardaloedd Lleol. |
|
Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth Peter Field, Prif Swyddog - Ataliaeth, Lles a Chomisiynu, waith dilynol ar gynnydd gydag argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ar gomisiynu gwasanaethau llety ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Pwyntiau trafod: · Roedd y broses ail-dendro yn agored i'r holl ddarparwyr ond nid oedd unrhyw un newydd wedi cyflwyno cais. · Roedd y panel yn teimlo bod angen map llwybr syml (diagram) ar y gwasanaethau amrywiol sydd ar gael i gefnogi pobl ag anableddau dysgu. · Roedd yr awdurdod wedi ceisio cynnwys defnyddwyr gwasanaeth 'anodd eu cyrraedd' yn yr ymgynghoriad. Cysylltwyd â'r holl ddefnyddwyr gwasanaeth a gwahoddwyd iddynt gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chafodd eiriolwyr annibynnol eu cynnwys. · Hoffai'r panel wybod beth y mae'r awdurdod yn ei gomisiynu ar hyn o bryd a gofynnwyd am wybodaeth bellach am hyn. · Gofynnodd y panel am gynnwys gofalwyr. Mae Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau ar waith ar hyn o bryd, ac fe'i hysbyswyd gan y Ganolfan Gofalwyr fod gofalwyr a rhieni'n pryderu am gynnwys gweithwyr cymdeithasol. Mae'r panel yn edrych ymlaen at weld yr adroddiad wedi'i gwblhau. Camau Gweithredu: · Bydd gwybodaeth bellach am yr hyn y mae'r awdurdod yn ei gomisiynu ar hyn o bryd yn cael ei chyflwyno i'r panel er gwybodaeth. |
|
Amserlen Rhaglen Waith PDF 110 KB Cofnodion: Ystyriodd y panel y rhaglen waith a'r eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod cyntaf y flwyddyn ddinesig newydd. |
|
a) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 19 Chwefror 2019) Cofnodion: Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel. |
|
Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Ebrill 2019) PDF 173 KB |
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Ebrill 2019) PDF 331 KB Dogfennau ychwanegol: |