Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Nodiadau a llythyrau cynullyddion PDF 152 KB Nodiadau a llythyrau cynullyddion o gyfarfod y panel ar 17/10/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd
nodiadau a llythyrau'r Cynullydd. |
|
Y Diweddaraf am Gynnydd Addysg Heblaw yn yr Ysgol PDF 134 KB Cofnodion: Yn bresennol i
drafod yr eitem hon oedd y Cyng. Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella
Addysg, Dysgu a Sgiliau, Mark Sheridan, Pennaeth yr Uned Cefnogi Dysgwyr ac
Amanda Taylor, Pennaeth yr Uned Atgyfeirio Disgyblion. Darparwyd
adroddiad er mwyn rhoi'r diweddaraf i'r panel am y gwaith a wnaed i ailwampio
darpariaeth y Gwasanaeth Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r
Ysgol (EOTAS) a chyflwyno gwasanaeth wedi'i ailfodelu mewn adeilad newydd a
ddyluniwyd at y diben. Mae'r pwyntiau
allweddol a nodwyd yn cynnwys: ·
Un
ffactor allweddol o ran llwyddiant ailwampio'r ddarpariaeth bresennol yw'r
gefnogaeth a roddir i ysgolion i'w galluogi i nodi anghenion plant ag
anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad (ACEY) yn gynharach, a mwy o
allu a chefnogaeth i reoli anghenion yn yr ysgol. ·
Yn strategol ac yn weithredol, cafwyd cydweithio gwell
rhwng y Tîm Cefnogi Ymddygiad (TCY), y Tîm Tŷ Hanner Ffordd dros dro a'r
tîm Tiwtora Gartref.
Maent bellach yn cael eu rheoli gan yr un rheolwr llinell. ·
Roedd
y panel yn falch o glywed bod y Tŷ Hanner Ffordd wedi cyflwyno'r nifer
uchaf o ddisgyblion yn dychwelyd i ddarpariaeth brif ffrwd ers sawl
blwyddyn. Y llynedd, cefnogwyd 19
ohonynt i ddychwelyd i'w hysgol brif ffrwd. Mae hyn wedi arwain at gyflawni'r
gostyngiad cynlluniedig yn nifer y plant sy'n derbyn darpariaeth gynradd, a
fydd yn unol â lleoedd cynradd cynlluniedig yn yr adeilad newydd. Yn seiliedig
ar hyn, mae'r gweithdrefnau derbyn yn cael eu hadolygu i gynnwys derbyniadau
rhan-amser i rai disgyblion, lle y bo'n briodol, a bydd hyn yn helpu i leihau'r
amser y mae angen ei dreulio yn yr UAD. ·
Erbyn
hyn mae prosesau a systemau clir ar waith i sicrhau y caiff cefnogaeth ei
throsglwyddo'n llyfn o'r Tŷ Hanner Ffordd a'r TCY i ddisgyblion ac ysgolion,
ac i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn galluogi
disgyblion i barhau i gael eu cefnogi wrth symud o UAD yn ôl i ddarpariaeth
brif ffrwd a, lle y bo'n briodol, atal disgyblion rhag cael eu hatgyfeirio i'r UAD. ·
Adolygwyd
a diwygiwyd yr hyfforddiant sydd ar gael i ysgolion ac mae hyn bellach yn
ffurfio cynnig mwy cydlynol i ysgolion yn ogystal ag adrannau addysg eraill. ·
Mae
Gwasanaeth Cwnsela'r Gyfnewidfa wedi cytuno i roi cefnogaeth a hyfforddiant i
ysgolion er mwyn eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth o fodel sy'n seiliedig ar
wydnwch, a chaiff hwn ei gyflwyno i bob ysgol gynradd ac unrhyw ysgolion
uwchradd a dargedir. ·
Datganolwyd
£700,000 i ysgolion uwchradd i'w cefnogi i ddatblygu darpariaeth fewnol er mwyn
eu galluogi i ddiwallu anghenion disgyblion ACEY yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae
pob ysgol yn cyflwyno adroddiad monitro sy'n esbonio sut maent yn defnyddio'r
arian hwn, ac ymwelwyd â rhai ysgolion i weld sut mae hyn wedi datblygu. Er y cafwyd effaith fechan ar y niferoedd a atgyfeiriwyd i UAD o ganlyniad i hyn, mae yna dystiolaeth i
awgrymu bod y rheiny sydd bellach yn cael eu hatgyfeirio'n
bodloni'r meini prawf ar gyfer yr UAD, neu'n rhagori ar hyn. ·
Adolygwyd a diwygiwyd yr arweinyddiaeth yn llawn yn yr
UAD. Yn y gorffennol, cafwyd effaith negyddol o ran dibynnu ar secondio swyddi
arweinyddiaeth am gyfnodau byr. Ni ddefnyddir secondiadau cyfnod byr bellach ar
ôl penodi Pennaeth a Phennaeth ar Ddyletswydd, a phenodwyd Pennaeth Dros Dro
yng nghanolfan Step Ahead, Pennaeth yng nghanolfan Arfryn a Phennaeth ar gyfer CA4. Mae hyn hefyd wedi arwain
at ailddyrannu staff ar draws y gwasanaeth er mwyn gallu darparu tîm
arweinyddiaeth mwy cadarn, cynaliadwy a phrofiadol. Roedd y panel yn falch o
glywed bod y sefyllfa wedi cael ei datrys, ac edrychai ymlaen at ymagwedd fwy
cyson wrth symud ymlaen. ·
Mae
pob canolfan bellach yn cydweithio gan ddilyn polisïau a rennir, a gwnaed
cynnydd sylweddol o ran datblygu arferion a rennir. Cynhelir hyfforddiant ar y
cyd ar draws canolfannau, ac mae staff wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu
gweledigaeth ar y cyd a chynllun gwella a rennir. ·
Cyflwynwyd Bagloriaeth Cymru ym mis Medi 2017 sydd wedi
arwain at 70% o ddisgyblion CA4 yn ennill Tystysgrif Her Sgiliau BC. Adroddwyd
gan CBAC bod UAD Abertawe'n drydydd UAD orau Cymru
dros dro o ran canlyniadau a'r nifer sy'n ennill tystysgrif. ·
Mae
cefnogaeth lles yn cael ei chydlynu yn unol â'r Fframwaith Lles sydd ar waith
ar draws gwasanaethau eraill, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thlodi
a'i Atal. ·
Mae'r
gwasanaeth wedi adolygu ei ymagwedd at hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a rheoli
ymddygiad negyddol er mwyn sicrhau bod yr ymagweddau a ddefnyddir ar draws y
gwasanaeth yn gyson. ·
Er
mwyn datblygu dysgu mwy effeithiol mewn ysgolion sy'n unol â Donaldson a'r diwygiad newydd i'r cwricwlwm, rydym wedi
sefydlu rhwydwaith rhanbarthol lle gellir datblygu sgiliau, profiad a'r
cwricwlwm. ·
Mae
gwaith i gefnogi cynllunio'r adeilad newydd arfaethedig wedi mynd rhagddo'n dda, a chymeradwywyd yr achos busnes llawn gan y
Cabinet ar 28 Medi 2018. Cafwyd cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru a disgwylir
i waith adeiladu'r prosiect ddechrau ym mis Tachwedd 2018, gyda'r bwriad o'i
gwblhau a'i agor i ddisgyblion erbyn mis Ionawr/Chwefror 2020. Bydd yn cynnig 21 o leoedd cynlluniedig i
ddisgyblion cynradd, 28 o leoedd i ddisgyblion CA3, 60 o leoedd i ddisgyblion
CA4 ag ACEY a 35 o leoedd cynlluniedig i ddisgyblion sy'n dioddef o bryder ac
anawsterau iechyd meddwl. Bydd yn cynnig 14 o leoedd cynlluniedig yn y Tŷ
Hanner Ffordd, ond disgwylir i'r rhain fod yn lleoedd rhan-amser. ·
Bydd
yr adeilad cynlluniedig yn caniatáu ar gyfer datblygu cwricwlwm ehangach i bob
disgybl, gyda darpariaeth ddynodedig ar gyfer addysg gorfforol, dylunio a
thechnoleg, gwyddoniaeth, technoleg bwyd a chelf. ·
Bydd yn gartref i'r gwasanaeth 'cynhwysol' a fydd yn
darparu cefnogaeth aml-fedrus dros y ffôn, dros skype
ac wyneb yn wyneb i ysgolion er mwyn eu cefnogi i nodi anghenion disgyblion yn
gynnar, a'u cefnogi i adeiladu ar allu'r ysgol i reoli'r anghenion hynny. ·
Clywodd
y panel fod Tŷ Brondeg wedi cael ei gau'n
orfodol ar 19 Hydref a bod dim lleoliad ar gyfer y ddarpariaeth i 56 o
ddisgyblion CA4 ar hyn o bryd. Mae'r panel wedi ystyried pob adeilad gwag sy'n
eiddo i'r cyngor ond nid yw un ohonynt yn addas oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch
neu reoliadau cynllunio. Ni chytunwyd ar yr opsiynau tymor hir ar gyfer yr
adeilad eto, fodd bynnag y bwriad yw cynnal gwaith er mwyn ei wneud yn ddiogel
dros dro, ac er mwyn gallu ei ddefnyddio tan i'r gwaith ar yr adeilad newydd
gael ei gwblhau. ·
Achoswyd
cyn lleied o darfu â phosib i addysg y disgyblion hyn lle bo'n bosib. I
ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu mewn lleoliadau darparwyr allanol, rhentwyd
ystafelloedd at ddibenion addysgu, ac i'r disgyblion hynny nad ydynt yn mynd at
ddarparwyr allanol, rydym ar hyn o bryd yn chwilio am leoliadau i gyflwyno eu
haddysg. Yn y cyfamser, maent yn cael eu tiwtora
gartref. Adolygir hyn yn gyson. ·
Ystyriwyd
y niferoedd rhagamcanol ar gyfer y dyfodol a bydd
gennym ddigon o leoedd i ddiwallu'r anghenion hynny yn y dyfodol. Mae'n debygol
y bydd y cynnydd mwyaf yng nghanolfan Step Ahead. ·
Roedd
y panel yn falch o weld prynu i mewn strategol ar draws yr awdurdod lleol, a'r
ymagwedd tîm yn yr UAD, gan gynnwys hyfforddiant a rhannu gwybodaeth. ·
Mae'r
panel yn cefnogi'r gwaith sy'n cynnwys rhieni yn ogystal â phlant, ac yn teimlo
ei fod yn bwysig i weithio gyda phlant a'u teuluoedd. ·
Mae'r
nifer sydd wedi cymryd rhan yn y pecyn hyfforddiant ACEY wedi bod yn dda iawn, ac
mae angen cynnal mwy o hyfforddiant er mwyn gallu ateb y galw. ·
Roedd
y panel yn falch o glywed nad oes unrhyw arwahanu yn ysgolion Abertawe na'r
UAD, ac nid oes unrhyw uned arwahanu ar gael yn Abertawe, gan ddilyn
gwrthwynebiad Polisi Abertawe o ran unedau o'r fath. ·
Diolchodd
y panel i'r Cyng. Raynor, y Pennaeth a Phennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Dysgwyr
am yr adroddiad diweddaru cynhwysfawr a chadarnhaol hwn. |
|
Diweddariad ar Strategaeth Lles ac Ymddygiad PDF 288 KB Cofnodion: Yn bresennol i
drafod yr eitem hon oedd y Cyng. Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella
Addysg, Dysgu a Sgiliau, Mark Sheridan, Pennaeth yr Uned Cefnogi Dysgwyr ac
Amanda Taylor, Pennaeth yr Uned Atgyfeirio
Disgyblion. Darparwyd
adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r panel am ddatblygiad Strategaeth Lles
a Pholisi Ymddygiad. Roedd y pwyntiau
allweddol a nodwyd yn cynnwys: ·
Mae
is-grŵp ymddygiad a lles y Grŵp Llywio Continwwm Cefnogi Teuluoedd
wedi drafftio Strategaeth Lles Integredig ar gyfer PPI (Plant a Phobl Ifanc)
sy'n cynnwys disgrifiad a diffiniad o les, datganiad gweledigaeth ac
egwyddorion, yn ogystal â meysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt. Cytunodd y
panel yr hoffai weld copi o'r strategaeth pan fydd ar gael. ·
Datganiad
gweledigaeth y strategaeth yw, 'Bydd Abertawe'n
hyrwyddo, yn cefnogi ac yn meithrin lles pob plentyn a pherson ifanc. Mae hefyd yn hyrwyddo'r disgrifiad lles
canlynol, 'Mae ein lles yn cynnwys sawl ffactor gwahanol ar unrhyw adeg, yn
ogystal â newidiadau yn ystod ein bywydau.
Caiff ei effeithio gan ein profiadau a'n cefndir, sut rydym yn meddwl
ac yn teimlo, ein gallu i gyfathrebu a datrys problemau yn ogystal â'n hiechyd
corfforol a meddwl, perthnasoedd ac ymdeimlad o berthyn yn ein cymunedau' ·
Er
mwyn rhoi'r gefnogaeth orau i'r PPI rydym yn gweithio gyda nhw, clywodd y panel
ei fod yn bwysig asesu'r heriau o ran yr adnodau sydd ar gael i gefnogi,
hyrwyddo a meithrin eu lles. ·
Cyflwynodd
y strategaeth y Fframwaith Arwyddion Lles a oedd yn dilyn ymagwedd Tîm am y
Teulu eang a fabwysiadwyd eisoes gan Dlodi a'i Atal a'r Gwasanaethau
Cymdeithasol. ·
Mae'r
strategaeth yn nodi tair thema allweddol: Cynyddu ymwybyddiaeth, mapio
darpariaeth/dadansoddi bylchau a gweithredu. ·
Mae
angen gwneud mwy o waith i ddatblygu cynllun gweithredu sy'n seiliedig ar y
themâu hyn a'r blaenoriaethau cysylltiedig. ·
Yn ystod y drafodaeth i ddatblygu strategaeth lles,
clywodd y panel y byddai'n ormod o waith i gynnwys polisi addysg hefyd.
Cytunwyd felly i wahanu'r ddwy dasg a drafftio polisi ymddygiad ar wahân. ·
Mae'r
polisi ymddygiad drafft yn nodi ymagwedd Abertawe at hyrwyddo a chefnogi
ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion ac mewn lleoliadau addysg eraill. Mae'n
amlinellu'r ethos a'r egwyddorion sy'n hyrwyddo parch at ei gilydd a diogelwch
er mwyn i ddysgwyr gyflawni eu potensial llawn. ·
Disgwylir
cwblhau'r gwaith ar y ddwy ddogfen hon erbyn mis Rhagfyr 2018. Hoffai
Cynghorwyr weld y dogfennau hyn pan fyddant ar gael. |
|
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. PDF 94 KB Cofnodion: Derbyniwyd y rhaglen waith a nododd yr aelodau y cynhelir cyfarfod
ychwanegol ar 17 Rhagfyr i ystyried yr Adolygiad o Ysgolion Bach a'r
Drefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn
Addysg. |
|
Adroddiad Blynyddol Archwiliad o Ysgolion (er gwybodaeth) PDF 171 KB Cofnodion: Nodwyd yr
adroddiad gan y panel. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet |