Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Mynegodd y Cynghorydd M C
Child, D H Hopkins, A S Lewis, C E Lloyd, M Sherwood, R C Stewart a M Thomas
gysylltiad personol â chofnod 188 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol"; 2)
Mynegodd y Cynghorydd W Evans
gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 188
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" 3)
Mynegodd y Cynghorydd J A
Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 188
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi
cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros, siarad,
ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr
awdurdod lleol. |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2019; 2)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019. |
|||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu Cyfarfod Dywedodd yr Aelod
Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu
cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen
Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei
recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y
cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd
bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei
gyhoeddi ar-lein. |
|||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd P K Jones nifer o gwestiynau
mewn perthynas â Chofnod 190 “Datblygiad Eiddo’r Cyngor: Cronfa Gyffredinol Cam
2”, gan ymwneud yn benodol â Home Farm, Sgeti. Ymatebodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad drwy gadarnhau na fyddai’r cynnig
yn cael effaith ar Barc Singleton. |
|||||||
Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl i Oedolion. PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn amlinellu'r
gwaith a wnaed ar ran Bwrdd Iechyd PABM, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar
Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe
i ddatblygu Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl i Oedolion. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
gwaith sylweddol a wnaed i ddatblygu'r Fframwaith Strategol, gan gynnwys y cydgynhyrchu sylweddol â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr
a'r sector gwirfoddol; 2)
Nodi'r
broses gynnwys sylweddol yr ymgymerwyd â hi, yr adborth o'r broses ymgynghori
a'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a nodwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a
gofalwyr; 3)
Nodi hefyd fod y fframwaith yn gyson â bwriad strategol ehangach y cyngor i
hyrwyddo ymagwedd fwy ataliol gan gynnwys datblygiadau fel Tai'n Gyntaf; 4)
Cymeradwyo'r Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd Meddwl i
Oedolion (yr oedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin wedi cytuno
arno). |
|||||||
Sefydlu Gwasanaeth Troseddwyr Ieuenctid ar wahân i Abertawe PDF 199 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad a oedd yn darparu canlyniad yr
arolygiad diweddar o'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI) ac yn ceisio
cymeradwyaeth i wahanu GTI ar gyfer Abertawe o gydweithfa Gwasanaeth Cyfiawnder
Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae'r Gorllewin. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
adroddiad arolygu terfynol a ddeilliodd o'r arolygiad o'r GTI a chytuno hefyd
ar y cynllun gweithredu cychwynnol; 2)
Cyrraedd
cytundeb i wahanu'r trefniadau rhanbarthol ar gyfer y GTI a datblygu gwasanaeth
annibynnol ar gyfer Abertawe. |
|||||||
Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog
Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||
Hysbysiad o waredu man agored - tir yn Parklands View, Sgeti, Abertawe. PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fusnes, Trawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ystyried
yr ymateb i'r Hysbysiad o Le Agored mewn perthynas â thir yn Parklands View, Sgeti, a cheisiodd gymeradwyaeth i'w
waredu. Penderfynwyd: 1)
Ystyried
y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn perthynas â chael gwared ar y dynodiad lle
agored; 2)
Nodi,
yn unol â'r Cynllun Datblygu Unedol (CDU) blaenorol, nad ystyriwyd bod colli'r
lle agored hwn yn cael effaith negyddol ar ward etholiadol Sgeti gan fod digon
o le agored cyhoeddus ar gael yno. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gwarantu y byddai
caniatâd cynllunio'n cael ei roi yn unol â darpariaethau'r Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl) newydd; 3)
Awdurdodi
Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo i brynu'r safle er mwyn ei marchnata a'i waredu. |
|||||||
Datblygu Eiddo'r Cyngor: Cam 2 Cronfa Gyffredinol. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fusnes, Trawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn darparu
diweddariad manwl ynghylch cynnydd gyda'r prosiect peilot ‘Datblygu Eiddo'n
Uniongyrchol’. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Hysbysiad o Wybodaeth cyhoeddus i geisio
mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer Partner Menter ar y Cyd. |
|||||||
Gwahardd y cyhoedd. PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||
Caffael tir i hwyluso gwelliannau priffyrdd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio
caniatâd i brynu tir rhydd-ddaliad sy'n fwy na therfynau dirprwyedig
swyddogion. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |