Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

7.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

8.

Cofnodion pdf eicon PDF 211 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2024.

 

9.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

10.

Asedau Cymunedol - Agweddau diwydrwydd dyladwy, Risgiau, Rhwystrau, Arweiniad a Chefnogaeth pdf eicon PDF 150 KB

Gwahoddwyd y Cynghorydd David Hopkins (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad), Mark Wade (Cyfarwyddwr Lle) a Geoff Bacon (Pennaeth Gwasanaethau Eiddo) i fod yn bresennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y panel i Aelod y Cabinet Mr Hopkins a Geoff Bacon (Pennaeth Eiddo Corfforaethol) am ddarparu adroddiad ysgrifenedig ac am fod yn bresennol yn ystod y cyfarfod i drafod agweddau diwydrwydd dyladwy, risgiau, rhwystrau a chefnogaeth mewn perthynas â Throsglwyddo Asedau Cymunedol (TAC). Rhoddwyd diolch hefyd i Aelod y Cabinet y Cyng. Francis Davis a'r Swyddog Jamie Rewbridge (Rheolwr Strategol Partneriaethau Hamdden) am fod yn bresennol yn ystod y cyfarfod ac am drafod y materion hynny sy'n ymwneud ag agweddau o'r gwasanaethau diwylliannol. Roedd y drafodaeth yn seiliedig ar gyfres graidd o gwestiynau a anfonwyd cyn y cyfarfod.

 

Bydd nodiadau llawn a manwl o'r sesiwn hon yn ffurfio rhan o'r adroddiad canfyddiadau y bydd y panel yn ei ystyried wrth drafod ei argymhellion a'i gasgliadau tuag at ddiwedd yr ymchwiliad.

11.

Cynllun Prosiect pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai'r cyfarfod ar 25 Mawrth yn cael ei ohirio a byddai'r eitemau hyn yn cael eu trafod yn ystod y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 22 Ebrill 2024.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6.00pm

 

Cadeirydd