Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr Andrew Stevens, Paxton Hood-Williams a Chris Evans fuddiant personol â Chofnod Rhif 4.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim.

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

4.

Adroddiah Hawliau Tramwy Cyhoeddus pdf eicon PDF 664 KB

Y Cyng. Andrew Stevens – Aelod y Cabinet Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Paul Meller – Rheolwr Adran Amgylchedd Naturiol

Chris Dale – Arweinydd Tîm  Mynediad i Gefn Gwlad

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet a Swyddogion perthnasol yn bresennol i roi trosolwg o'u hadroddiad briffio ac i ateb cwestiynau gan aelodau'r grŵp. Trafodwyd y materion canlynol:

 

·       Manteision hawliau tramwy cyhoeddus, gan gynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl, manteision cymdeithasol, hwb i dwristiaeth ac ymwybyddiaeth o dreftadaeth. Codwyd pwysigrwydd y Cod Cefn Gwlad.

·       Mae dyletswyddau statudol y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad yn cynnwys rheoli, cynnal a chadw, amddiffyn, nodi a hyrwyddo hawliau tramwy cyhoeddus, llunio cynllun mynediad i gefn gwlad a gweithio gyda'r adran gynllunio.

·       Mae gwaith y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad yn cael ei oruchwylio gan Fforwm Mynediad Lleol Abertawe. Maent yn rhoi cyngor i'r cyngor ac i Gyfoeth Naturiol Cymru.

·       Mae gan hawliau tramwy cyhoeddus gyllideb cynnal a chadw o oddeutu £45,000 y flwyddyn gyda chyllid grant ychwanegol lle bo hynny'n bosib. Trafodwyd pwysau ar y gyllideb a staffio a gofynnwyd am ragor o eglurdeb ynghylch materion ariannol.

·       Mae gwahaniaethau rhwng y rheoliadau Cymraeg a Saesneg o ran y ffordd y mae'r gorchmynion dargyfeirio'n cael eu hysbysu.

·       Trafodir gweithio o fewn yr adran fewnol ac asiantaethau allanol lle bo hynny'n bosib.

·       Ymgynghorir y tîm wrth wneud gwaith cynllunio a pharatoi ymlaen llaw ar ddatblygiadau newydd i sicrhau bod y rhwydwaith llwybrau'n cael ei gynnal a'i gadw a'i wella, a'u bod wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith presennol a bod y cynllun datblygu'n cael ei adolygu.

 

5.

Trafodaeth a Chasgliadau

Gofynnwyd i Gynghorwyr drafod casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon

i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd i Aelod y Cabinet neu, os yw'n

briodol, adroddiad i'r Cabinet:

 

Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet (beth

yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon?

 

Oes gennych argymhellion i Aelod y Cabinet sy'n codi o'r sesiwn hon?

 

Oes unrhyw faterion pellach yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen

Graffu atynt sy'n codi o'r sesiwn hon?

Cofnodion:

Daeth aelodau'r Gweithgor i'r casgliadau canlynol a gwnaed yr argymhellion canlynol:

 

1.    Canmolodd yr aelodau'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad am ddarparu gwasanaeth ardderchog gydag adnoddau cyfyngedig.

2.    Gofynnodd yr aelodau i Aelod y Cabinet lobïo Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru mewn perthynas â gorchmynion dargyfeirio.

3.    Gofynnodd y Gweithgor am wybodaeth ariannol ychwanegol.

4.    Ystyried ymagwedd fwy integredig i'r rhwydwaith Teithio Llesol a'r map Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

5.    Gweithio mewn partneriaeth lle bo hynny'n bosib, gan gynnwys Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r timau Teithio Llesol i fwyafu'r cyfleoedd i rannu adnoddau.

6.    Anogir cynghorwyr i hyrwyddo llwybrau lleol.

7.    Datblygiad parhaus o farchnata lleol ac i gynnwys yr orsaf fysus, yr orsaf drenau a mannau sy'n boblogaidd ymhlith ymwelwyr ar gyfer hysbysebu.

8.    Cydweithio rhwng y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad a'r adran dwristiaeth i hyrwyddo gwyliau actif.

9.    Ystyried cynlluniau prentisiaeth i helpu gyda gwaith yn yr awyr agored a chysgodi swyddogion.

10. Os bydd nifer yr ymwelwyr a'r defnydd yn cynyddu, gallai hyn ddangos yr angen am gyllidebau uwch.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn, caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y gweithgor i Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau ac argymhellion y gweithgor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.31pm.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd pdf eicon PDF 127 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd pdf eicon PDF 262 KB