Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

58.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

 

59.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

60.

Cofnodion pdf eicon PDF 235 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

61.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

62.

Craffu cyn Penderfynu ar Adroddiadau'r Cabinet: Y Gyllideb Flynyddol

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Dolen i Bapurau'r Cabinet ar gyfer 15 Chwefror 2024 sy’n cynnwys papurau’r gyllideb.

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd a Ben Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Swyddog Adran 151 yn bresennol. Trafodwyd y canlynol:

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2027/28 (CATC)

·       Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i ragdybiaethau cynllunio ers i'r CATC drafft gael ei gyflwyno i'r Panel ym mis Ionawr.

·       Mae ansicrwydd a photensial ar gyfer newidiadau i'r CATC dros amser sy'n golygu bod rhagweld yn her.

·       Mae ardoll y gwasanaeth tân yn cyfateb i 1% o'r cynnydd arfaethedig o 5.99% yn Nhreth y Cyngor.

 

Cyllideb Refeniw 2024/25

·       Mae newidiadau posib i'r Gyllideb Refeniw, o ganlyniad i gyhoeddiadau pellach gan Lywodraeth Cymru a'r DU a roddwyd i'r Cyngor ym mis Mawrth.

·       Mae ysgolion yn derbyn swm ychwanegol untro gwerth £7m o gronfa wrth gefn TGCh yr Hwb. Nid yw hyn wedi dod o gronfeydd wrth gefn cyffredinol Ysgolion.

·       Bydd sylwadau ychwanegol o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i'r Cynghorwyr maes o law.

·       Mae ardoll y Cyd-bwyllgor Corfforaethol wedi cael ei lleihau 10%.  O ganlyniad i ofynion o ran cyflwyno rhaglenni gwaith ni ellid lleihau hyn ymhellach.

·       Nid oes unrhyw gynlluniau yn y Gyllideb Refeniw i wneud toriadau i Gydlynwyr Ardaloedd Lleol ond cyfeiriwyd at drafodaeth yn ystod y broses cyn craffu ar gyllidebau'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar 12 Chwefror lle dywedwyd bod risg i gyllid.

 

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2028/29

·       Mae'r rhaglen gyfalaf yn uchelgeisiol ond rhoddwyd sicrwydd bod cost gwasanaethu'r ddyled yn parhau i fod yn fforddiadwy gyda chynlluniau i aros i fenthyca rhagor nes y bydd cyfraddau llog wedi gostwng.

·       Mae'r tanwariant cyfalaf a'r arbediad cysylltiedig ar gostau cyllido cyfalaf refeniw naill ai wedi cael ei ddefnyddio i wrthbwyso'r gorwariant cyllideb refeniw neu wedi cael ei hychwanegu at y Gronfa wrth gefn Cyfartalu Cyfalaf. Mae benthyciadau posib o £50m yn y dyfodol wedi'u cynnwys yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig er bydd penderfyniadau yn y dyfodol o ran sut y bydd y £50m yn cael ei amseru ar gyfer benthyca allanol a sut y caiff ei ariannu dros dro yn y cyfamser.

·       Nid oes oedi penodol o ran y Rhaglen Adeiladu Ysgolion a bydd y cynlluniau presennol yn mynd rhagddynt yn ôl yr amserlen.

 

Cyllideb Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024/25 a Chyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2027/28

 

·       Rhoddwyd sicrwydd bod y cronfeydd wrth gefn presennol sydd wedi'u clustnodi yn ddigonol ar gyfer y CRT.

·       Nodwyd bod taliadau gwasanaeth ar gyfer tai cymdeithasol yn cael eu codi'n flynyddol yn ogystal â rhent.

 

Bydd adborth Aelodau’r Panel i’r Cabinet yn seiliedig ar eu trafodaethau yn cael sylw mewn llythyr at yr Arweinydd a’i gyflwyno i’r Cabinet gan y Cadeirydd ar 15 Chwefror 2024.

 

63.

Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

Gwaharddwyd y cyhoedd o’r cyfarfod am y rheswm y byddai’n cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i nodir ym Mharagraff 14 Adran 12A o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

64.

Craffu cyn Penderfynu ar Adroddiadau'r Cabinet: Y Gyllideb Flynyddol

65.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y Cynllun Gwaith.

 

66.

Llythyrau pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 177 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 154 KB