Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

67.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

68.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

69.

Cofnodion pdf eicon PDF 315 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

70.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

71.

Adroddiad Archwilio Cymru - ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru pdf eicon PDF 140 KB

Cllr David Hopkins- Cabinet Member for Corporate Services & Performance

Carol Morgan – Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod nesaf y Panel ar 9 Ebrill.

72.

Cyflawniad yn erbyn Blaenoriaethau Corfforaethol / Amcanion / Ymrwymiadau Polisi ar gyfer Datblygiad ac Adfywio pdf eicon PDF 163 KB

Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros FuddsoddiAdfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth

Paul Relf - Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol

Katy Evans - Arweinydd TîmCynllunio ac Adfywio’r Ddinas

 

Cofnodion:

Trafododd y Cynghorydd Robert Francis-Davies a Paul Relf yr adroddiad a oedd yn crynhoi'r meysydd gwaith a'r cyflawniadau o fewn yr adrannau cynllunio ac adfywio'r ddinas.

·       Mae gwaith ar y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol yn mynd rhagddo gyda chymorth ariannol yn cael ei ddarparu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r Gronfa Ffyniant Bro.

·       Mae nifer o grantiau strategol ar gael i alluogi sefydlogrwydd yn y sector preifat a'r trydydd sector, gyda chanol y ddinas yn elwa o fenthyciadau, creu lleoedd a grantiau strategol.

·       Mae gwesty newydd yn cael ei drafod a byddai'n cael ei leoli rhwng yr Arena a'r LC, mae’n debygol o fod yn westy 4 seren / o safon uchel.

·       Mae gan saith ardal y tu allan i ganol y ddinas gynlluniau creu lleoedd sy'n cael eu datblygu. Bydd y rhain yn cael eu datblygu cyn gynted â phosib gan ddefnyddio cyllid sydd ar gael, a chyda chyfyngiadau ar y gallu dylunio a chontractio.

·       Mae creu swyddi yn tyfu drwy grantiau dechrau busnes a datblygu/gwella busnes a chyllid ffyniant a rennir y DU. Trafodwyd hefyd gadw'r swyddi sydd wedi'u hariannu a denu cwmnïau newydd i'r ardal.

·       Gofynnodd y Panel gwestiynau, ac am ddiweddariadau datblygu am hen safle Debenhams, Sgwâr y Castell, Gwesty'r Dragon, Gwesty'r Dolphin, y Ganolfan Ddinesig a Bae Copr.

 

73.

Diweddariad ar Brosiect Adfywio - 71-72 Kingsway pdf eicon PDF 148 KB

Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros FuddsoddiAdfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth

Paul Relf - Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol

Katy Evans - Arweinydd TîmCynllunio ac Adfywio’r Ddinas

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Robert Francis-Davies a Katy Evans yr adroddiad. Nodwyd y canlynol:

  • Mae cwblhau'r safle yn ymarferol wedi cael ei ohirio ychydig wythnosau o'i darged gwreiddiol o ddiwedd mis Mawrth.

·       Mae trafodaethau gyda darpar denantiaid yn parhau a rhagwelir y bydd yr adeilad yn cael ei osod yn llawn o fewn cyfnod rhesymol o amser ond nid ar ôl ei gwblhau'n ymarferol.

  • Mae'r datblygiad wedi elwa o £13.7m o gyllid y Fargen Ddinesig.
  • Gofynnodd y Panel gwestiynau am Arcêd Picton, storio beiciau, y galw am swyddfeydd, marchnata a chyllid y Fargen Ddinesig.

 

74.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith gyda sôn am y newidiadau i agenda fis nesaf.

 

75.

Llythyrau pdf eicon PDF 177 KB

76.

Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

Gwaharddwyd y cyhoedd o’r cyfarfod am y rheswm y byddai’n cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i nodir ym Mharagraff 14 Adran 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

77.

Diweddariad ar Brosiect Adfywio - 71-72 Kingsway

Cofnodion:

Daeth y cyfarfod i ben am 11.32am.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth pdf eicon PDF 118 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth pdf eicon PDF 176 KB