Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

49.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

 

50.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

51.

Cofnodion pdf eicon PDF 234 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

52.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

53.

Cynigion y Gyllideb Ddrafft pdf eicon PDF 542 KB

 

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyng. Rob Stewart a Ben Smith yn bresennol. Trafodwyd y materion canlynol.

·       Yn gyffredinol, mae'r gyllideb yn dangos heriau ariannol yn 2024/25 ac i'r cynllun ariannol tymor canolig.

·       Er bod ffocws ar gynilion, mae £80m o gyllid ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y gyllideb dros y pedair blynedd nesaf.

·       Nid oes gan y Cyngor reolaeth dros ddyfarniadau cyflog awdurdodau lleol ac athrawon felly mae amcangyfrifon wedi'u cynnwys yn y gyllideb.

·       Cyngor swyddogion yw nad yw'r cyfraddau benthyca presennol yn fanteisiol ac y dylid oedi unrhyw fenthyca tan ddiwedd y cynllun ariannol tymor canolig.

·       Mae blynyddoedd blaenorol wedi arwain at danwariant mewn gwariant cyfalaf. Cyngor y Swyddog yw defnyddio'r tanwariant hwn yn 2024/25.

·       Mae'r gyllideb yn cynnwys defnyddio dros £8m mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2024/25. Mae hyn yn rhannu i ychydig dros £1m o'r Gronfa Cyfartaliad Cyfalaf a £7m a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer uwchraddio TG mewn ysgolion. Bydd y £7m hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ysgolion yn unig a chaiff ei ddefnyddio'n llawn yn 2024/25.

·       Bydd y gronfa ariannol wrth gefn yn cael ei lleihau o £5m i £3m er mwyn caniatáu i £2m ychwanegol fynd tuag at wasanaethau.

·       Mae'r Cyngor mewn sefyllfa gref o ran cronfeydd wrth gefn, ond nid yw defnyddio arian wrth gefn yn gynaliadwy yn y tymor hir.

·       Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto ar gyfraddau Treth y Cyngor.

·       Disgwylir cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, fodd bynnag, os oes unrhyw enillion ychwanegol o hyn, byddent yn rhy hwyr ar gyfer gosod cyllideb 2024/25.

·       Mae'n debygol y bydd ardoll y Gwasanaeth Tân dros £1m. Telir am hyn o gyllidebau'r cyngor.

 

54.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2 2023/24 pdf eicon PDF 339 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Cofnodion:

Roedd y Cyng. Rob Stewart a Ben Smith yn bresennol. Trafodwyd y materion canlynol.

·       Mae'r ail chwarter yn dangos gorwariant o oddeutu £7.5m.

·       Mae ymrwymiad o fewn cyfarwyddiaethau i gyflawni sefyllfa gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn.

·       Mae rhai cronfeydd wrth gefn wedi'u hailddosbarthu i bob pwrpas fel darpariaeth. Mae hyn yn dal i ganiatáu iddi fod ar gael yn y tymor byr at ddefnydd arian parod pe bai ei angen ar y Cyngor ond mae gwahaniaeth cyfrifyddu pwysig rhwng y ddau ddosbarthiad.

·       Mae gwahanol lwybrau'n cael eu harchwilio i ddarparu cludiant ysgol mewn ffyrdd mwy cost-effeithiol.

 

55.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2023/24 pdf eicon PDF 168 KB

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Richard Rowlands yn bresennol, a thrafodwyd y canlynol.

·       Aeth y swyddog ag aelodau'r Panel drwy gynllun newydd yr adroddiad.

·       Canmolodd y Panel y fformat newydd gan dynnu sylw at feysydd gwella o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

56.

Cynllun Rheoli Cyrchfannau Twristiaeth pdf eicon PDF 1 MB

Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros FuddsoddiAdfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth

Steve Hopkins – Rheolwr Twristiaeth a Marchnata

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Steve Hopkins yn bresennol, a thrafodwyd y canlynol.

·       Cytunodd y Cabinet ar Gynllun Rheoli Cyrchfannau 2023-26 ym mis Hydref 2023.

·       Canmolodd y Panel yr adroddiad ac ar y cyfan roeddent yn fodlon ar y canlyniadau.

·       Mae hyder cynyddol ym maes twristiaeth fod y diwydiant yn adfer o effeithiau'r Pandemig.

·       Trafododd y swyddog sawl canfyddiad a gafwyd drwy ymchwil a gynhaliwyd cyn y Cynllun Rheoli Cyrchfannau, gan gynnwys arolwg ymwelwyr, arolwg busnes lleol ac astudiaeth galw am westy.

·       Yn 2022 ymwelodd 4.2m o ymwelwyr ag Abertawe.

·       Y blaenoriaethau strategol yw ansawdd, creu cyrchfan drwy gydol y flwyddyn, annog cynaliadwyedd a gweithio mewn partneriaeth.

·       Mae deiliadaeth ystafelloedd gwestai yn Abertawe yn fwy na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Dangosodd yr astudiaeth galw am westai fod angen 3 gwesty arall ar Abertawe i ateb y galw.

·       Roedd ymatebion yr arolwg ymwelwyr yn dangos boddhad mawr yn gyffredinol.

·       Nododd ymwelwyr eu bod yn bennaf anfodlon ar argaeledd a glanweithdra toiledau cyhoeddus, ac mai hyn yw'r peth pwysicaf i'w wella Trafodwyd arwyddion i gyfeirio pobl at doiledau cyhoeddus hefyd.

·       Mae'r wefan croesobaeabertawe.com yn bodoli i hyrwyddo digwyddiadau i dwristiaid a phreswylwyr ac mae gwefan newydd hefyd yn cael ei datblygu.

 

57.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith, a chyfeiriwyd at gyfarfod y mis nesaf a fydd yn gyfarfod cyn craffu ar y gyllideb flynyddol ar 13 Chwefror cyn iddi fynd gerbron y Cabinet am gymeradwyaeth ar 15 Chwefror.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.14pm.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 167 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad pdf eicon PDF 223 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth pdf eicon PDF 147 KB