Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

29.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

30.

Cofnodion pdf eicon PDF 214 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

31.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2023/24 pdf eicon PDF 316 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a Ben Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151 yn bresennol i roi trosolwg a oedd wedi arwain at drafodaeth a chwestiynau am y canlynol.

·       Ar 19 Hydref, cymeradwyodd y Cabinet yr argymhelliad i atgyfnerthu'r angen i holl gyfarwyddwyr gwasanaeth gyfyngu ar eu gwario eleni.

·       Mae Ch1 yn dangos gorwariant a chaiff camau gweithredu pellach eu cadarnhau yn ystod y chwarterau sydd i ddod.

·       Mae llawer o adrodd wedi bod am bwysau ariannol mewn cynghorau eraill. Mae risgiau'n cynyddu ar gyfer y llywodraeth leol gyfan.

·       Penderfynwyd ar £6m ar gyfer y cyfraniad a gyllidebwyd o'r Gronfa Wrth Gefn ar gyfer 2023/24 fel y nodir yn adroddiad y gyllideb a gymeradwywyd gan y cyngor ym mis Mawrth 2023. Disgwylir i'r Gronfa Wrth Gefn gael ei ddyrannu'n llawn eleni.

·       Mae cyllideb 2023/24 yn cynnwys darpariaeth o £20m, yn benodol ar gyfer chwyddiant. Cynyddwyd hyn yn benodol oherwydd y lefelau o chwyddiant cyffredinol a ragwelwyd ar gyfer 2023/24 a'r cynnydd digynsail ym mhrisiau ynni.

·       Mae Olrhain Arbedion wedi cael ei ailgychwyn gyda rhagolwg o gyflawni 70% erbyn diwedd y flwyddyn ar hyn o bryd. Disgwylir i hyn wella.

·       Caiff y diffygion gweddilliol eu hariannu gan alldyniad ychwanegol o tua £20m o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

·       Mae'r Cyfrif Refeniw Tai dan fwy o bwysau nag yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at yr angen i gynyddu cyllidebau refeniw.

 

32.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd nifer o gwestiynau gan y cyhoedd mewn perthynas â Skyline. Aeth yr Arweinydd i'r afael â'r cwestiynau, fodd bynnag, ar 13 Tachwedd cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer Skyline ac o ganlyniad i faterion ffurfiol y broses gynllunio roedd ei allu i wneud sylwadau'n gyfyngedig.

 

33.

Diweddariad ar Brosiect Adfywio - Skyline pdf eicon PDF 98 KB

Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros FuddsoddiAdfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth

Phillip Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

Lee Richards – Arweinydd Tîm Canol y Ddinas

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a Lee Richards, Arweinydd Tîm Canol y Ddinas yn bresennol i roi'r diweddaraf am ddatblygiad Skyline. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y pwyntiau canlynol.

·       Mae gan Skyline gwmni yn y DU, Skyline (Swansea) Limited, ond mae ei riant-gwmni fwy, Skyline Enterprises Limited, yn gweithio fel gwarantwr o dan y brydles arfaethedig.

·       Nid oes unrhyw gyfyngiadau arfaethedig ar gyfer mynediad i Fynydd Cilfái.

·       Yn hwyrach y mis hwn, fel rhan o'i ddyletswyddau, bydd cyfnod ymgynghori hysbysiad man cyhoeddus agored yn dechrau a chaiff ei hysbysebu maes o law.

·       Bydd Skyline bellach yn symud ymlaen gyda'i gais cynllunio ac yn datblygu cam nesaf y cynllun gyda'r nod o ddechrau ar y gwaith ar y safle y flwyddyn nesaf.

·       Mae Skyline wedi cynghori bod cost y prosiect wedi cynyddu o £35m i £40m yn bennaf oherwydd chwyddiant.

 

34.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith.

 

35.

Llythyrau pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

36.

Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

Gwaharddwyd y cyhoedd o’r cyfarfod am y rheswm y byddai’n cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i nodir ym Mharagraff 14 Adran 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

37.

Diweddariad ar Brosiect Adfywio - Skyline

38.

Datblygiad Bae Copr (Llafar)

Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 122 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth pdf eicon PDF 96 KB