Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

21.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

22.

Cofnodion pdf eicon PDF 231 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

23.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

24.

Adroddiad Archwilio Cymru - Gosod Amcanion Lles pdf eicon PDF 162 KB

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau

Corfforaethol a Pherfformiad

Lee Wenham - Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

Swyddogion Archwilio Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Jeff Brown yn bresennol i gyflwyno adroddiad gan Archwilio Cymru a rhoddodd Richard Rowlands adborth i'r cyngor mewn ymateb i'r adroddiad. Nodwyd y canlynol –

         Mae'r adroddiad hwn yn rhan o raglen dreigl lle mae'n rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol asesu i ba raddau y mae cyrff wedi gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod eu hamcanion lles.

         Dywedodd Archwilio Cymru fod Cyngor Abertawe wedi cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod ei amcanion lles a bydd ymgorffori ei ddull o ymgysylltu a monitro perfformiad yn cryfhau hyn ymhellach.

         Darparodd Archwilio Cymru enghreifftiau o arfer da a meysydd i'w gwella gan Gyngor Abertawe fel crynodeb o'r adroddiad.

         Er bod yr adroddiad yn adlewyrchu nad oedd ymgynghoriad Cyngor Abertawe yn adlewyrchu amrywiaeth lawn y boblogaeth, roedd adlewyrchiad o ran y ffaith y gall cynnal ymgynghoriad cyhoeddus fod yn heriol ac nid oes unrhyw feincnodau ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd.

         Roedd y cyngor yn falch o'r adroddiad. Mae'n cydnabod y meysydd ar gyfer gwella ac mae wedi gwneud cynnydd o ran y rhain. Mae dulliau ymgysylltu yn cael eu cynyddu a'u hehangu ar hyn o bryd ac mae mesurau perfformiad wedi'u hadolygu'n ddiweddar ond byddai fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn fuddiol.

25.

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru - Adroddiad Perfformiad Blynyddol pdf eicon PDF 119 KB

Y Cynghorydd Elliott King - Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau

Karen Gibbins – Rheolwr y Gwasanaethau Llyfrgelloedd / Bethan Lee – Prif Lyfrgellydd

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elliott King yr adroddiad blynyddol gyda Karen Gibbin a Bethan Lee. Nodwyd y canlynol- 

         Cyflwynwyd i’r Panel Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, asesiad Llywodraeth Cymru ar gyfer Llyfrgelloedd Abertawe ar gyfer 2021-22 a chyflwyniad y gwasanaeth llyfrgell ar gyfer 2022-23.

         Mae Llyfrgelloedd Abertawe yn dal i wella o effeithiau pandemig COVID ac nid ydynt wedi cyrraedd lefelau cyn COVID eto, ond mae niferoedd y bobl sy'n defnyddio'r llyfrgelloedd yn cynyddu.

         Ailgyflwynodd Abertawe ddirwyon ar gyfer llyfrau llyfrgell ym mis Ebrill 2023 oherwydd targed incwm cyllideb refeniw ar gyfer dirwyon llyfrau hwyr.

         Amlygodd y gwasanaethau llyfrgell y canlynol: gwaith gyda sefydliad 'Good Things', y Rhaglen Addysg i Gleifion, cynnydd yn y defnydd o Wi-Fi dros y defnydd o gyfrifiaduron personol, gwasanaethau argraffu, gwasanaethau cadw, menter Lleoedd Llesol, gwaith gydag ysgolion a chynnydd mewn gwasanaethau dwyieithog ac adnoddau mewn ieithoedd eraill.

         Bydd y Llyfrgell Ganolog yn symud i'r Storfa, gyda chymorth grant o £300,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer silffoedd ac offer digidol newydd.

         Mae archwiliad o gyflwr adeiladau wedi'i gynnal ac mae'r gwaith hwnnw'n cael ei ystyried fel rhan o'r broses fapio ehangach o amgylch y model hybiau cymunedol

26.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith.

27.

Llythyrau pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad pdf eicon PDF 119 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau pdf eicon PDF 136 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau pdf eicon PDF 142 KB