Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau Personol a rhagfarnol.

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 133 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y Paneli Gwella Gwasanaethau a Chyllid a Datblygu ac Adfywio blaenorol.

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

5.

Alldro Ariannol Refeniw 2022/23 pdf eicon PDF 295 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ben Smith, Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151, a dilynwyd hyn gan gwestiynau a thrafodaeth.

·       Yn gyffredinol, mae'r Alldro yn dangos bod gan bob Cyfarwyddiaeth danwariant yn erbyn eu cyllidebau gwasanaeth, gyda cheisiadau am bron  £14m o danwariant gwasanaethau gwerth £18m i'w gario drosodd i 2023/24.

·       Mae tanwariant ar gostau refeniw gwasanaethu cyllid cyfalaf o £8.6m oherwydd llithriant, benthyca ar gyfraddau islaw 2% isel a rhoi arian dros ben ar fenthyg dros dro ar gyfraddau amrywiol sy'n uwch na 5%.

·       Mae £2m wedi'i dynnu o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ynghyd â £8m o gronfeydd wrth gefn ysgolion sy'n is na'r hyn a dybiwyd yn wreiddiol, ond nid yw'n sefyllfa ariannol gynaliadwy yn y dyfodol.

·       Dangosodd treth y cyngor warged bach o £32,000.

·       Mae Prosiect Oracle wedi cario £3.8m drosodd i'r flwyddyn ariannol hon.

·       Mae'r cyngor wedi cymeradwyo benthyca £50m pellach ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a £25m ar gyfer Cynllun Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol y Mwmbwls, ond nid oes cynlluniau i fenthyca hyn yn y tymor byr nes bod cyfraddau llog wedi gostwng yn sylweddol.

·       Mae pwysau chwyddiant sylweddol, parhaus, dyfarniadau cyflog heb eu datrys a chynnydd mewn costau ynni yn 2023/24.

 

6.

Alldro Refeniw 2022/23 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT) pdf eicon PDF 171 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Ben Smith yr adroddiad a dilynwyd hyn gan gwestiynau a thrafodaeth.

·       Mae llithriant ar y rhaglen gyfalaf wedi arwain at danwariant ar ariannu refeniw cyfalaf o oddeutu £6m, a bydd hyn yn cael ei gario ymlaen i'r flwyddyn nesaf.

·       Mae incwm rhent wedi cynyddu £1.2m o'i gymharu â'r gyllideb.

·       Mae'r Refeniw Tai bob amser yn cael ei glustnodi ar gyfer gwariant ar Dai Cyngor yn unig.

 

7.

Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol 2022/2023 pdf eicon PDF 117 KB

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad a Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, a dilynwyd hyn gan gwestiynau a thrafodaeth.

·       Mae'r adroddiad yn dangos gwelliant cyffredinol gydag effeithiau'r pandemig yn dal yn amlwg.

·       O ran perfformiad yn erbyn targedau, o 49 o ddangosyddion, roedd 25 wedi cyrraedd y targed neu wedi gwella arno, roedd 3 wedi methu eu targed ond roeddent o fewn 5%, ac roedd 8 wedi methu eu targedau. Doedd gan y 13 arall ddim targedau.

·       O ran perfformiad o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, o'r  49 o ddangosyddion, mae 22 yn dangos perfformiad sy'n gwella neu'n cynnal perfformiad, mae 2 yn dangos perfformiad sy'n dirywio ond o fewn 5% a 15 yn dangos tueddiadau perfformiad sy'n dirywio. Mae'r 10 dangosydd sy'n weddill yn newydd felly nid oes data hanesyddol.

·       Mae'r meysydd perfformiad heb dargedau na data hanesyddol yn ganlyniad i fframwaith perfformiad gwasanaethau cymdeithasol cenedlaethol newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

·       Mae diweddariad ar ymrwymiadau polisi wedi'i gwblhau ac adolygwyd dangosyddion perfformiad yn dilyn datblygu'r cynllun corfforaethol newydd. Adroddir am y set ddiwygiedig o chwarter cyntaf y flwyddyn newydd.

 

8.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 202/23 pdf eicon PDF 153 KB

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr David Hopkins a Richard Rowlands yr adroddiad a dilynwyd hyn gan gwestiynau a thrafodaeth.

·       Mae'r adroddiad hwn yn wahanol i eitem 7 am ei fod yn rhoi safbwynt ehangach sy'n edrych ar yr amcanion lles a'r cynllun corfforaethol. Mae'r adroddiad hefyd yn cyflawni dyletswyddau fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

·       Asesir cynnydd cyffredinol a'r rhagolygon am welliant gan ddefnyddio canlyniadau meini prawf ar gyfer pob un o'r chwe amcan lles gan ddefnyddio offer hunanfyfyrio gan bob Cyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaeth arweiniol sydd wedyn yn cael eu herio gan grŵp llywodraethu strategol.

·       Mae meysydd ar gyfer gwella a nodwyd y llynedd gan Archwilio Cymru, y tîm Craffu a Llywodraethu a'r Pwyllgor Archwilio wedi cael sylw yn  adolygiad eleni.

 

9.

Cynllun Gwaith Drafft 23/24 pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar y cynllun drafft ar gyfer 2023/24. Nododd y Cadeirydd y byddai ffocws ar brosiectau adfywio penodol a ddewisir gan y Panel yn hytrach nag adroddiad monitro chwarterol rheolaidd.

 

10.

Llythyrau pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.

Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

Gwaharddwyd y cyhoedd o’r cyfarfod am y rheswm y byddai’n cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i nodir ym Mharagraff 14 Adran 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

12.

Datblygiad Bae Copr (Llafar)

Cofnodion:

Darparodd Martin Nicholls, Prif Weithredwr ddatganiad a oedd yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, a dilynwyd hyn gan sesiwn gaeedig.

·       Ar 18 Awst, cyhoeddodd Buckingham Group hysbysiad o'i fwriad i benodi gweinyddwr. Aeth llawer o'r busnes i ddwylo'r gweinyddwyr yn ffurfiol ar 4 Medi. Ar adeg y cyfarfod hwn, nid oes unrhyw gysylltiad wedi'i wneud â'r gweinyddwr eto.

·       Bu heriau parhaus o ran darparu'r maes parcio fodd bynnag mae'r elfennau eraill wedi'u cwblhau a'u trosglwyddo. Mae cyngor cyfreithiol yn cael ei gymryd gyda'r bwriad o gwblhau'r prosiect cyn gynted â phosib.

·       Bydd swyddogion ac Aelodau yn gweithio i nodi contractwr ac amserlen addas i gyflawni'r gwaith sy'n weddill, gan ddefnyddio'r gyllideb sydd ar gael sydd ar ôl.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 122 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad pdf eicon PDF 121 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth pdf eicon PDF 93 KB