Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023
a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc, gyda chefnogaeth Arweinydd y Tîm
Comisiynu a Rheolwr yr Hwb adroddiad a oedd yn cyflwyno datblygiad y
gwasanaethau mewn perthynas â darpariaeth seibiannau byr i blant a theuluoedd. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu'r ymrwymiad, y weledigaeth a'r uchelgeisiau ar gyfer
gwasanaethau cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd mewn perthynas â
threfniadau seibiant byr ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau ac
anghenion ychwanegol a'u rhieni/gofalwyr.
Amlinellodd hefyd sut y maent yn bwriadu sicrhau bod anghenion
defnyddwyr gwasanaeth yn llywio arfer a sut y byddai gwasanaethau'n cael eu
datblygu a'u haddasu os neu pan fydd anghenion yn newid. Codwyd y sylwadau
a'r cwestiynau canlynol gan y Pwyllgor: ·
O ble
y cafwyd y ffynonellau ariannu amrywiol; ·
A
oedd cap ar nifer y seibiannau byr y gallai teulu/plentyn eu cymryd ac a oedd
unrhyw amseroedd aros; ·
A
oedd pob teulu yn ymwybodol o'r holl opsiynau oedd ar gael iddo; ·
Y
posibilrwydd o sesiynau arbenigol neu well mewn cyfleusterau diwylliannol, e.e.
Orielau ac Amgueddfeydd; ·
Nifer
y gwelyau sydd ar gael, sut y cawsant eu comisiynu, a oeddent yn cynnig gwerth
am arian ac a oeddent yn ateb y galw; ·
Sut y
defnyddiwyd taliadau uniongyrchol. Ymatebodd y swyddogion i bob pwynt yn
fanwl. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am
fod yn bresennol a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariad ar
ôl i'r Adolygiad Comisiynu gael ei gwblhau. Penderfynwyd bod Pwyllgor Trawsnewid y Gwasanaeth
Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi: 1)
yn nodi
cynnwys y broses adolygu sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd ac 2) yn rhoi eu barn ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn. |
|
Strategaeth Trechu Tlodi. (Cyflwyniad) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Prif
Swyddog y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi, gyflwyniad Powerpoint ar y gwaith a wnaed mewn perthynas ag adnewyddu
Strategaeth Trechu Tlodi’r Cyngor (2024-2028).
Byddai'n cael ei hadnewyddu mewn partneriaeth â phartneriaid a phobl
drwy gydweithio i fynd i'r afael ag achosion ac effaith tlodi ar bobl a
chymunedau, gan ddileu anghydraddoldebau i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan
dlodi. Eglurodd fod
arolwg cyhoeddus wedi'i gynnal rhwng Awst a Medi 2023 i roi adborth ar y
strategaeth a'r ffordd ymlaen.
Derbyniwyd dros 300 o ymatebion a rhannwyd sawl sylw a wnaed yn ystod yr
arolwg â'r Pwyllgor. Nodwyd y 7
blaenoriaeth allweddol sy'n dod i'r amlwg fel a ganlyn: ·
Cynhwysiad
digidol ·
Cefnogaeth
y gymuned ·
Gwybodaeth,
Cyngor ac Arweiniad ·
Stigma
a gwahaniaethu ·
Tlodi
Plant ·
Digartrefedd ·
Iechyd
a Lles Yna amlinellodd y
Prif Swyddog y ffordd ymlaen a oedd yn cynnwys: ·
Sicrhau'r
ymagwedd bod tlodi'n ‘berthnasol i bawb’ (ac nid cyfrifoldeb Cyngor Abertawe yn
unig) ·
Byddai
3 rhifyn gwahanol o'r strategaeth yn cael eu datblygu ·
Byddai'n
cael ei hadeiladu o amgylch y daith, nodweddion, dulliau a llwybrau ·
Byddai'r
cynllun gweithredu yn cael ei gyd-gynhyrchu â phobl â phrofiad personol; ·
Byddai
ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion allweddol yn cael ei gynnal. Gwnaeth y Pwyllgor
sylwadau a gofynnodd gwestiynau yr ymatebodd y Prif Swyddog iddynt yn unol â
hynny. Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog a Phennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi am roi'r wybodaeth ddiweddaraf a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach pan fyddant ar gael. |
|
Cynllun Gwaith 2023-2024. PDF 136 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023-2024. Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith. |