Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
To approve Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflawni
Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 11 Medi 2023 a'u
llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Model Cyflwyno Darpariaeth Gofal Preswyl Mewnol. PDF 484 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd y safbwyntiau. Cofnodion: Amlinellodd Amy
Hawkins, Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi, gyda chefnogaeth gan
Cathy Murray, Prif Swyddog Darpariaeth Gwasanaethau, y broses o roi'r
argymhellion gan Adolygiad Cartrefi Gofal Preswyl Pobl Hŷn 2018 ar waith.
Effaith COVID-19, ymateb ac adfer, sefyllfa bresennol, datblygiadau a
chynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol ar gyfer Darpariaeth Gofal
Preswyl i bobl hŷn. Roedd y
sylwadau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Roedd
y sylwadau a wnaed gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn Atodiad C a'r wybodaeth
astudiaeth achos yn Atodiad Ch yn galonogol gan ystyried yr holl anawsterau y
daethpwyd ar eu traws dros y tair blynedd diwethaf. ·
Gofynnwyd
a oeddem yn gallu recriwtio'r staff gofal cywir yr oedd eu hangen. Cadarnhawyd
bod yr Awdurdod yn gwneud popeth o fewn ei allu i gynnal a chadw a gwella a
chynyddu'r gweithlu gofal cymdeithasol, ond cadarnhawyd ei fod yn heriol a bod
nifer sylweddol o swyddi gwag, nid yn unig yn Abertawe ond ar draws Cymru; ·
Cadarnhawyd
bod yr Awdurdod yn darparu gofal preswyl tymor hir cymhleth yn hytrach na
lleoliadau nyrsio, dan y ddealltwriaeth os bydd anghenion pobl yn gwaethygu neu
os bydd eu hanghenion yn mynd yn fwy cymhleth ac y mae angen gofal nyrsio
arnynt, bydd yn eu cefnogi i ddod o hyd i leoliad nyrsio priodol hefyd. ·
Caiff
ailalluogi tymor byr a lleoliadau asesu eu cefnogi
hyd at 42 o ddiwrnodau. Cadarnhaodd Pennaeth
Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi bod y data yn y broses o gael ei
ddadansoddi ar y cyd â'r tîm perfformiad i ddysgu o'r profiad a'r wybodaeth a
gasglwyd. Penderfynwyd nodi barn y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi ar fodel cyflwyno Gofal Preswyl Mewnol ar gyfer Pobl Hŷn. |
|
Grant Galluogi Cymunedau. (For Information) PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mark
Gosney ac Anthony Richards adroddiad "Er Gwybodaeth" er mwyn rhoi'r
diweddaraf i'r pwyllgor ar y gweithdy diweddar ynghylch datblygu proses grant
newydd. Roedd y cynnig yn
ceisio cyfuno a lansio un grant o dan faner "galluogi cymunedau" a
fyddai'n galluogi sefydliadau i wneud cais am grantiau drwy un cynllun, ond
byddai'n caniatáu iddynt nodi'r elfennau o'r cynllun roeddent am wneud cais ar
eu cyfer. Dyma oedd y tri chynllun: Lleoedd Llesol Abertawe, COAST a Bwyd y
Gwyliau Cadarnhaodd y
swyddogion cymeradwywyd y cyllid ers y gweithdy ac roeddent yn y broses o
gynllunio lansio'r grant, a'i gyhoeddi ar 1 Tachwedd 2023. Diolchodd y swyddogion i'r Pwyllgor am eu cyfraniad i'r broses yn ystod adroddiadau blaenorol a'r gweithdy. |
|
Cyllun Gwaith 2023-2024. PDF 136 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023-2024. Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2023-2024. |