Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd H Lawson 17 Datgan Diddordeb Personol mewn Cofnod “Datblygu Polisi Gwirfoddoli Cyngor Abertawe.”. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y
Cynghorydd H Lawson gysylltiad personol â Chofnod 17 "Datblygu Polisi
Gwirfoddoli Cyngor Abertawe". |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf
2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Datblygu Polisi Gwirfoddoli Cyngor Abertawe. PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd
Anthony Richards adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi'r cefndir i
ddatblygiad Polisi Gwirfoddoli Cyngor Abertawe a fydd yn nodi egwyddorion ac
arfer cyson ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan ar draws y sefydliad. Mae'r polisi'n
ceisio creu dealltwriaeth gyffredin a diffiniad o wirfoddoli a chadarnhau rolau
a chyfrifoldebau i sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal yn gyson mewn
perthynas â rheoli gwirfoddolwyr o fewn Cyngor Abertawe wrth hefyd gydnabod
pwysigrwydd gwirfoddolwyr i Gyngor Abertawe. Croesawodd Julia Manser (CGGA) y polisi drafft ac amlinellodd a nododd ei
chyfraniad a'i mewnbwn gyda datblygiad parhaus y polisi a nododd y byddai'r
polisi'n fwy addas ar gyfer rolau gwirfoddoli ffurfiol o fewn y cyngor megis y
rheini mewn cartrefi gofal, ac yn llai addas ar gyfer gweithgareddau anffurfiol
megis casglu sbwriel yn y gymuned etc. Cynigwyd byddai
Polisi Gwirfoddoli Cyngor Abertawe yn cynnwys egwyddorion gwirfoddoli fel a
ddiffinnir gan CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru): · Mae gwirfoddoli'n cael ei wneud drwy ddewis. Mae gan unigolion yr hawl i wirfoddoli neu
beidio. · Er na ddylai gwirfoddolwyr fel arfer dderbyn na disgwyl gwobrau neu
gymhellion ariannol, dylid eu had-dalu am dreuliau rhesymol. · Dylai cyfraniad gwirfoddolwyr a staff cyflogedig gyd-fynd â'i gilydd Ni
ddylid defnyddio gwirfoddolwyr i gymryd lle staff cyflogedig nac i danbrisio eu
cyflog a'u hamodau gwasanaeth. Dylai
gwirfoddolwyr wella ansawdd gweithgareddau'r cyngor. · Dylai mecanweithiau effeithiol fod ar waith i gefnogi a datblygu
gwirfoddolwyr. · Dylai gwirfoddolwyr a staff cyflogedig allu cyflawni eu dyletswyddau mewn
amgylcheddau diogel ac iach sy'n rhydd o aflonyddwch, bygwth, bwlio, trais a
gwahaniaethu. Dylid trin pawb yn
sensitif o ran yr iaith o'u dewis. · Dylai gwirfoddolwyr gael mynediad at gyfleoedd priodol ar gyfer dysgu a
datblygu. · Dylid cael proses gydnabyddedig ar gyfer datrys problemau, ar gyfer staff a
gwirfoddolwyr. · Ni ddylid defnyddio gwirfoddolwyr i gwblhau gwaith staff cyflogedig yn
achos anghydfodau diwydiannol. · Dylai gwirfoddoli fod yn agored ac yn hygyrch i bawb · Lles Cyffredinol - dylai'r gwirfoddolwr a'r cyngor elwa o'r berthynas · Dylid cydnabod cyfraniad y gwirfoddolwr Atodwyd Polisi
Gwirfoddoli drafft presennol Cyngor Abertawe yn Atodiad A i'r adroddiad. Mae'r
polisi drafft hwn yn ystyried arfer gorau fel y nodwyd gan Gefnogaeth Trydydd
Sector Cymru ac felly'n diffinio gwirfoddoli, nodi safonau ac ymrwymiadau i
rolau a chyfrifoldebau, recriwtio a dethol, sefydlu a hyfforddi a chefnogi a
goruchwylio. Yn
dilyn cyfarfod y gweithgor datblygu gwirfoddoli yn ystod mis Mai, cyflwynwyd
Polisi Gwirfoddoli drafft Cyngor Abertawe i'r grŵp gweithredol diogelu
corfforaethol yn ystod mis Gorffennaf ar gyfer adolygiad a sylwadau
cychwynnol. Roedd
gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd ag adnoddau dynol a datblygu sefydliadol a
Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Cyngor Abertawe i ailddiffinio'r polisi drafft a
llywio datblygu Pecyn Cymorth ar gyfer Rheoli Gwirfoddolwyr a Llawlyfr i
Wirfoddolwyr, gan gynnwys adborth gan y grŵp gweithredol diogelu
corfforaethol. Sefydlwyd
Grŵp Llywio polisi gwirfoddoli hefyd sy'n cynnwys swyddogion o'r
gwasanaeth trechu tlodi, adnoddau dynol, a datblygu sefydliadol a Chyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Abertawe. Bydd y Grŵp Llywio'n cwrdd yn
ystod mis Medi er mwyn penderfynu ar y polisi drafft terfynol. Sicrhawyd
cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu'r adnoddau gofynnol er mwyn
cefnogi cwblhau'r gwaith hwn a'i roi ar waith yn ystod 2023/24. Rhagwelwyd y
byddai swydd swyddog datblygu gwirfoddoli'n cael ei sefydlu ar ddechrau 2024. Byddai'r
apwyntiad yn helpu gyda'r amserlenni tebygol ar gyfer rhoi'r polisi ar waith yn
2024 oherwydd y swm mawr o waith y mae angen ei wneud o ran datblygu'r Pecyn
Cymorth i Reolwyr a'r Llawlyfr i Wirfoddolwyr Unwaith bydd y polisi'n cael ei
benderfynu'n derfynol, caiff ei ailgyflwyno i'r pwyllgor i'w gymeradwyo. Byddai
Grŵp Llywio'r polisi gwirfoddoli'n parhau i weithio i gwblhau Polisi
Gwirfoddoli drafft Cyngor Abertawe a datblygu Llawlyfr i Wirfoddolwyr
corfforaethol a phecyn cymorth ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr fel yr amlinellir
yn y polisi drafft. Bydd
data gwaelodlin cyson ar gyfer yr holl wirfoddolwyr sy'n cael eu defnyddio ar
draws wasanaethau o fewn Cyngor Abertawe yn cael ei sefydlu yn ogystal ag
ymgysylltu â gwirfoddolwyr presennol i gwblhau mapio profiadau ac ymgysylltu a chydgynhyrchu parhaus. Gofynnodd
yr aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaed sylwadau am y cynigion ac ymatebodd y
swyddogion yn briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a'r diweddaraf. |
|
Cynllun Gwaith 2023-2024. PDF 220 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y Cynllun Gwaith a ddosbarthwyd ar gyfer 2023-2024 a nododd, yn
dilyn y gweithdy a fydd yn cael ei drefnu'n fuan ar Broses Grant Codi'r
Gwastad, bydd yr eitem yn cael ei hychwanegu at yr agenda ar gyfer cyfarfod mis
Rhagfyr. Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith diwygiedig fel yr
amlinellwyd uchod, |