Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023-2024. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
L V Walton yn Is-gadeirydd. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd L V Walton yn
Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 12
Mehefin 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Lee
Cambule, Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi, adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r diweddaraf
i’r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi ar y
cynlluniau i ddiwygio'r Strategaeth Trechu Tlodi a rhoi adborth ar themâu
cychwynnol. Dylid e-bostio unrhyw gyfraniadau at y broses gydgynhyrchu ac ymgysylltu er mwyn llywio drafft cychwynnol y strategaeth cyn ei chyfnod ymgynghori ffurfiol yn tacklingpoverty@abertawe.gov.uk. |
|
Proses a Meini Prawf Grant Codi'r Gwastad. (Cyflwyniad - Jane Whitmore/Mark Gosney) Penderfyniad: Nodwyd y dylid trefnu’r gweithdy. Cofnodion: Rhoddodd Jane
Whitmore a Mark Gosney gyflwyniad ar broses a meini prawf y grant Ffyniant Bro. Amlinellodd y
swyddogion gefndir, diben, meysydd blaenoriaeth, meini prawf, enghreifftiau, 4
opsiwn posib, effaith, amserlen arfaethedig a risgiau/rhyngddibyniaethau'r
broses. Gofynnwyd i'r
pwyllgor am eu barn ynghylch pa feysydd i'w targedu a gofynnwyd iddynt nodi'r
meini prawf ar gyfer ceisiadau. Darparodd y
pwyllgor rai safbwyntiau cychwynnol o ran yr opsiynau sydd ar gael, fodd bynnag
roeddent yn teimlo gan fod hwn yn benderfyniad pwysig, y dylid rhoi mwy o amser
i aelodau ystyried yr opsiynau ymhellach ac awgrymwyd y dylid trefnu gweithdy
ar gyfer mis Awst/Medi. Penderfynwyd: 1)
Bydd
y swyddogion yn darparu rhagor o wybodaeth am ganlyniadau clir ar sail estyn yr
amserlenni hyd at y flwyddyn ariannol nesaf; 2) Cynnal gweithdy ym mis Awst/mis Medi. |
|
Cynllun Gwaith 2023-2024 Drafft. PDF 220 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith drafft ar gyfer 2023-2024. Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Gwaith Drafft ar gyfer 2023-2024. |