Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023 a'u
llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Cylch gorchwyl. (Er gwybodaeth) PDF 256 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd y
cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaeth a oedd newydd eu
sefydlu er gwybodaeth. |
|
Trafodaethau Cynllun Gwaith. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Esboniodd y
Cadeirydd fod trafodaethau wedi’u cynnal â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol a Swyddogion Arweiniol gyda’r
eitemau canlynol i’w hystyried ar gyfer y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol: ·
Strategaeth
Gwirfoddoli; ·
Gwarcheidiaeth
Arbennig - diweddaru'r polisi; ·
'Pan
fydda i'n barod' - diweddaru'r polisi; ·
Seibiannau
byr - Rhieni / Gofalwyr - datganiad o ddiben; ·
Codi'r
Gwastad - meini prawf ariannu; ·
Strategaeth
Trechu Tlodi; ·
Galluogi
a hyrwyddo annibyniaeth; Rhoi'r Strategaeth Technoleg Gynorthwyol ar waith a
datblygu opsiynau teleofal/teleiechyd. ·
Darpariaeth
Gofal Preswyl Mewnol - model darparu / datganiad o ddiben. Pwysleisiodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod hon yn rhaglen waith drom i'r
Pwyllgor, felly byddai angen ystyried yr amserlen ymhellach i sicrhau bod
cyfarfodydd yn bwrpasol ac yn hylaw ar gyfer cynghorwyr a Swyddogion. Er bod
angen gwaith ar bob un o'r eitemau, efallai y bydd angen ymestyn rhai eitemau
i'r flwyddyn nesaf. Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn cymeradwyo cynnwys yr eitemau uchod yn rhaglen waith ar gyfer y dyfodol (amserlen i'w chadarnhau). |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol. (Trafodaeth) Penderfyniad: Penderfynwyd bod cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol yn cychwyn am 4 pm. Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddyddiad ac amser cyfarfodydd y dyfodol. Penderfynwyd y bydd yr holl gyfarfodydd yn y dyfodol yn dechrau am 4pm (yn hytrach na 3.30pm) |