Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 Y Cynghorydd L R Jones - Eitem 3 – Personol

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd L R Jones – Cofnod Rhif 28 – Personol gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt.

 

27.

Cofnodion. pdf eicon PDF 412 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y

Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr fel cofnod cywir.

 

28.

Yr Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg adroddiad "er gwybodaeth" ynghylch Yr Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir.

 

Roedd yr adroddiad a oedd yn dilyn adroddiadau blaenorol i'r pwyllgor yn amlinellu'r sefyllfa bresennol a datblygiadau posib yn y dyfodol.

 

Roedd fersiwn ddrafft o'r Cynllun Darpariaeth Ysgolion Strategol (CDYS) ynghlwm fel atodiad i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Cafodd cyd-destun a chefndir y cynllun drafft a'i botensial fel dogfen gyfeirio allweddol ar gyfer ysgolion ar draws Abertawe wrth symud ymlaen eu nodi a'u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Byddai ystadegau a data llawer mwy manwl yn cael eu hychwanegu at y cynllun drafft a’i atodiadau unwaith y byddai gwybodaeth Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion Ionawr 2024 wedi’i chyhoeddi ac ar gael i swyddogion.

 

Y nod oedd y byddai'r cynllun yn rhedeg ar y cyd â Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ac y byddai'n cwmpasu cyfnod o naw mlynedd gydag adolygiadau bob tair blynedd.

 

Manylwyd ar y meysydd a gwmpesir gan y cynllun drafft ac os cytunir arnynt gan y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau, gellid rhannu'r cynllun â swyddogion perthnasol i adolygu a gwella adrannau perthnasol.

 

Byddai ymgynghoriad eang ar y cynllun drafft yn allweddol i'w lwyddiant yn y dyfodol ac yna gellid mireinio drafft diwygiedig drwy Fwrdd Rhaglen AoS (Addysg o Safon)  y Cyngorgrŵp trawsbynciol gyda chynrychiolaeth o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a'r Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol, cyn y gellir hefyd wneud gwaith mireinio pellach drwy grwpiau ymgynghorol penaethiaid a chyfleoedd llais y dysgwyr.

 

 

Ymhellach i'r adroddiad a dosbarthwyd, rhoddodd ddiweddariad llafar i'r aelodau ar gynnwys y cynllun drafft, y ffactorau a'r dylanwadau allanol a fydd yn effeithio arno wrth symud ymlaen a'r ychwanegiadau a wneir iddo, unwaith y byddai'r data a'r ystadegau priodol ar gael.

 

Byddai drafft terfynol o'r cynllun yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau yn y dyfodol i'w gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo a'i weithredu.

 

Trafododd yr aelodau'r adroddiad a'r diweddariad llafar a gofynnwyd cwestiynau amrywiol ynghylch y materion a'r pynciau a nodwyd yn yr adroddiad a chyflwyniad y swyddog, ac awgrymwyd ychwanegiadau a diwygiadau posib gan gynnwys y defnydd o ddelweddau/graffiau, gwybodaeth am glybiau brecwast/ar ôl ysgol, effaith bosib y CDLl a datblygiadau tai, y broses ymgynghori a chyfranogiad rhanddeiliaid etc. Ymatebodd y swyddog yn unol â hynny.

 

Croesawodd y Cyfarwyddwr Addysg yr adroddiad a'r sylwadau gan yr Aelodau a nododd y byddai Swyddogion nawr yn mynd ati i ddatblygu a mireinio'r cynllun a dechrau'r broses ymgynghori fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn y trafodaethau yr oedd y pwyllgor newydd eu cynnal. Yn dilyn y diweddariadau, ychwanegu gwybodaeth a data etc., a'r broses ymgynghori a amlinellwyd, byddai fersiwn ddiwygiedig o'r cynllun yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau yn y dyfodol ar gyfer sylwadau a chymeradwyaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg am ei hadroddiad a'i diweddariad.

 

 

29.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 25 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill 2023/2024.

 

Yn dilyn trafodaeth â'r Cyfarwyddwr, amlinellodd y byddai'r cyfarfod ar 6 Mawrth yn cael ei ganslo ac y byddai'r adroddiad a oedd i'w gyflwyno yn cael ei ohirio tan y cyfarfod ar 17 Ebrill.

 

Cytunwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith wedi'i ddiweddaru.