Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 235 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 27 Medi fel cofnod cywir.

 

20.

Yr Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir. pdf eicon PDF 162 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Sgiliau'r adroddiad a dywedodd fod yr adroddiad yn gyfle i ddechrau trafodaeth ac adolygiad o'r ystâd ysgolion gyfan ar draws yr awdurdod.

 

Dywedodd y gallai'r Cynllun Darpariaeth Ysgolion newydd (CDY) gynnig cyfle i ddatblygu a chyflwyno'r egwyddorion ar gyfer darparu gwasanaethau addysgol yn y dyfodol am flynyddoedd lawer ar draws y ddinas.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y bydd y cynllun arfaethedig yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer adeiladau ysgol ac ystadau am flynyddoedd lawer a bydd yn cysylltu â'r agenda trawsnewid a'r newidiadau demograffig sydd eisoes yn digwydd ar draws y ddinas.

 

Dywedodd y bydd y cynllun yn cysylltu'n dda â mentrau Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a'r Rhaglen Amlinellol Strategol sydd eisoes wedi'u datblygu.

 

Yna aeth y Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau â’r pwyllgor drwy’r adroddiad a ddosbarthwyd a rhoddodd amlinelliad a diweddariad ar lafar i'r aelodau ar y cynigion a gynhwyswyd yn y Cynllun Darpariaeth Ysgolion arfaethedig, gan gynnwys y meysydd a ganlyn:

·       Cefndir i ddatblygiad y cynllun, sy'n plethu ac yn cysylltu â mentrau eraill fel Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, y Rhaglen Amlinellol Strategol, etc;

·       Newidiadau a gwaith uwchraddio i adeiladau ysgol gan gynnwys rhaglen gwaith cyfalaf a chynnal a chadw;

·       Cyd-destun y cynllun a ddaw'n ddogfen wirioneddol y gellir ei defnyddio, edrych arni a chyfeirio ati gan bawb sy'n ymwneud â'r gymuned addysg;

·       Awgrymir bod y Cynllun Darpariaeth Ysgolion yn rhedeg am gyfnod o 9 mlynedd i gysylltu â'r fenter Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a'r Rhaglen Amlinellol Strategol sydd ar amserlenni tebyg;

·       Mewnbwn bwrdd rhaglen Addysg o Safon (AoS) sy'n cwrdd yn fisol i ystyried materion ystâd ysgolion;

·       Ceisir hefyd ymgysylltu ag ysgolion a chynrychiolwyr penaethiaid cyn i'r cynllun gael ei gwblhau;

·       Cyd-destun a chefndir datblygiad y cynllun, gan gynnwys newidiadau demograffig, gostyngiad yn y gyfradd genedigaethau yn Abertawe, cynnydd o ran mewnfudo, patrymau gwaith cyfnewidiol, arweiniad y comisiwn archwilio ar niferoedd ysgolion, darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ysgolion ffydd, darpariaeth ADY a disgyblion a addysgir gartref;

·       Mae trafodaethau wedi'u cynnal â'r prifysgolion a'r bwrdd iechyd i geisio cynllunio ar gyfer y cynnydd mewn mewnfudo;

·       Effaith bosib safleoedd tai strategol a datblygiadau yn y CDLl;

·       Effaith dewis rhieni, niferoedd derbyn ysgolion a dalgylchoedd;

·       Pwynt sbardun posib yn y cynllun newydd ar gyfer adolygiad ysgol os bydd niferoedd disgyblion yn newid +/- 10% dros gyfnod o ddwy flynedd;

·       Arolygon adeiladau ysgolion a gynhelir bob blwyddyn – adeiladau wedi’u rhannu’n 4 categori A, B C neu D, a gellid cofnodi’r rhain yn y Cynllun Darpariaeth Ysgolion ar gyfer pob ysgol ynghyd â gwybodaeth am oedrannau adeiladau ysgol;

·       Mae graddfeydd Tystysgrifau Ynni i'w Harddangos ar gyfer pob ysgol yn arwydd da o effeithlonrwydd ynni a gellid cynnwys y data hwn hefyd yn y Cynllun Darpariaeth Ysgolion;

·       O ran hygyrchedd i'r ysgol, gan gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth ac argaeledd ac amseroedd teithio i blant, gallai'r Cynllun Darpariaeth Ysgolion awgrymu terfyn teithio ar gyfer y sectorau cynradd ac uwchradd;

·       Roedd aelodau'r Pwyllgor wedi derbyn gwybodaeth ac wedi trafod y cymhlethdodau a'r materion o ran y ddarpariaeth cludiant ysgol mewn gweithdy diweddar;

·       Darpariaeth alwedigaethol a chysylltiadau â darparwyr eraill;

·       Y bwriad yw cyflwyno fersiwn ddrafft o'r cynllun i gyfarfod y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr er mwyn i'r aelodau ei drafod.

 

Trafododd yr Aelodau'r adroddiad a'r cyflwyniad a gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion a'r Aelod Cabinet a ymatebodd yn briodol.Roedd y meysydd allweddol a gododd o'r trafodaethau'n cynnwys: 

·       Problemau o ran amser teithio i ddisgyblion;

·       Mae angen cynnwys pob adeilad ysgol yn y cynllun, nid dim ond prif adeiladau;

·       Arweiniad y comisiwn archwilio ar niferoedd y chweched dosbarth a chynaladwyedd y ddarpariaeth wrth symud ymlaen;

·       Gall trosiant uchel o ddisgyblion, yn enwedig yng nghanol y ddinas a chyfuniad o niferoedd uchel o ddisgyblion newydd, trosiant disgyblion a materion amddifadedd effeithio ar ysgolion;

·       Gellid cynnwys maint y man amwynder mewn ysgolion ar gyfer chwarae/chwaraeon etc., o'i gymharu â maint adeilad gwirioneddol yn y Cynllun Darpariaeth Ysgolion;

·       Cynnydd enfawr yng nghost deunyddiau adeiladu a chynnydd dilynol mewn costau cynnal a chadw i ysgolion.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg am ei hadroddiad addysgiadol.

 

 

 

21.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 25 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

 

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2023/2024.

 

Cynigiodd y dylid cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr ar-lein yn unig drwy Teams.

Croesawodd aelodau'r pwyllgor y cynnig