Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 228 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid  Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

 

11.

Yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir. pdf eicon PDF 263 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei bresenoldeb yng nghyfarfod y Cabinet ar 21 Gorffennaf, 2023 a mynegodd ei ddiolch i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu am ei wahodd i'r cyfarfod i gyflwyno hen adroddiad y PDC Addysg a Sgiliau ar Arweinyddiaeth, Cynhwysiad a Llywodraethu: Datblygu Rhagoriaeth yn Ysgolion Abertawe. Cymeradwywyd yr adroddiad gan y Cabinet ac roedd yn cynnwys y Llawlyfr newydd i Benaethiaid ac Uwch-arweinwyr, Polisi Presenoldeb newydd Abertawe (rhan o'r Strategaeth Cynhwysiad) a'r Strategaeth Cefnogi Cyrff Llywodraethu, a'r Cynllun Gweithredu Datblygu Llywodraethu Ysgolion. 

  

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at gynnydd tuag at argymhellion yr adroddiad gan y PDP Addysg a Sgiliau yn 20/21 - Cefnogi'r Heriau i Ddysgwyr wrth Adfer o'r Pandemig a fyddai'n rhan o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau ym mis Medi. 

  

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Sgiliau yr adroddiad a dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi cipolwg ar y gwahanol ddemograffig, pwysau ariannol a materion eraill y byddai angen eu hystyried dros y deng mlynedd nesaf.  Diolchodd i'r swyddogion am yr adroddiad. 

  

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y byddai'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg yn manylu ar rai o'r ysgogwyr, y galluogwyr a rhai o'r cyfyngiadau a wynebir wrth nodi ffordd o weithredu mewn perthynas â sut olwg fydd ar ystâd yr ysgol yn y 10 mlynedd nesaf.  Nododd pa mor bwysig ydyw i'r Pwyllgor ystyried sut mae ein dulliau'n dryloyw ac yn deg i bob ysgol, ac yn wir i'r cyhoedd.

  

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn manylu ar yr wybodaeth gyd-destunol ynghylch y stoc ysgolion yn Abertawe ym mis Gorffennaf 2023 ac awgrymodd y dylid llunio cynllun trefniadaeth ysgol i gwmpasu cyfnod o ddeng mlynedd.   

  

Roedd yr adroddiad, y cyntaf o dri a raglennwyd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023-2024, wedi gosod y cyd-destun ar gyfer ystad yr ysgol yn Abertawe ac roedd yn amlinellu manylion demograffig y cyngor sy'n berthnasol i gyflenwi lleoedd mewn ysgolion. 

  

Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg fanylion yr ystad bresennol, yr angen am newid a chysylltiadau â'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. 

  

Nododd yr Aelodau drwy'r Pwyllgor Cyflawni Corfforedig (PCC) Addysg a Sgiliau y cynigiwyd y dylid llunio cynllun trefniadaeth ysgolion deng mlynedd i'w ystyried gan y Cabinet. Dylai'r cynllun ymblethu â'r Rhaglen Amlinellol Strategol o dan y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, yn ogystal â chynlluniau perthnasol eraill, ond dylai hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol: 

  

·                  Manylion demograffig sy'n berthnasol i gyflenwi lleoedd ysgol, gan gynnwys: 

 

·                 Cofrestrau disgyblion – gwirioneddol ac amcanol (cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a ffydd) 

·                  Lleoedd dros ben/prinder lleoedd - cynradd ac uwchradd 

·                  Darpariaeth a lleoedd ADY (gan gynnwys mewn ysgolion nas cynhelir) 

·                  Darpariaeth 6ed dosbarth  

·                  Darpariaeth alwedigaethol 

·                 Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’r gofynion am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg 

·                  Oedrannau adeiladau ysgol 

·                  Graddfeydd Tystysgrifau Ynni i'w Harddangos 

·                  Graddfeydd cyflwr 

·                  Canran trosiant disgyblion 

 

·         Datganiad o ragdybiaethau mewn perthynas â darpariaeth i ddisgyblion, er enghraifft maint priodol/uchafswm maint ysgolion 

·          Manylion ynghylch ad-drefnu ysgolion yn hanesyddol yn Abertawe 

·         Polisïau ac egwyddorion sy'n gysylltiedig â threfniadaeth ysgolion, gan gynnwys cludiant o'r cartref i'r ysgol  

·          Amrywiaeth y ddarpariaeth  

·          Hygyrchedd y ddarpariaeth  

·          Dewis rhieni ac ysgolion poblogaidd  

·          Arbed ynni  

 

 

Gellid rhannu'r cynllun drafft â rhanddeiliaid a gellid cynnal gweithdai gyda'r Pwyllgor i ystyried agweddau ar y cynllun os yw'n briodol.  

  

Trafodwyd yr adroddiad gan yr aelodau a gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion a ymatebodd yn briodol.  Roedd y materion allweddol a gododd o'r trafodaethau'n cynnwys: 

  

·             Pwysigrwydd bod yn agored, tryloywder a sensitifrwydd yn ystod y broses gynllunio.  

·             Adolygiadau dalgylchoedd (a gynhaliwyd ddiwethaf ym mis Medi 2021) a'r goblygiadau sy'n deillio o ddewis rhieni a chludiant o'r cartref i'r ysgol. 

·             Y cymhlethdodau sy'n ymwneud â chyllid y ddarpariaeth chweched dosbarth a'r effaith ar yr amgylchedd o ran pobl ifanc sy'n teithio i ddarparwyr amgen yn y sir.    

·             Manteision gweithdy ar gludiant o'r cartref i'r ysgol.    

·             Penderfynu ar y ffigur gorau o ran lleoedd dros ben er mwyn sicrhau cost cynnal a chadw resymol fesul disgybl. 

·             Archwilio cyfluniad ysgolion er mwyn defnyddio'r adeiladau’n fwy effeithiol.    

·             Trafodwyd amserlenni a disgrifiadau o bob un o'r cynlluniau allweddol ynghyd â'r angen i sicrhau bod pob cynllun yn cydweddu (cyfeiriwyd yn benodol at brosiectau fel Dechrau'n Deg). 

·             Dehongli ac adolygu data amcanestyniadau disgyblion y CDLl.    

  

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg am ei hadroddiad addysgiadol. 

  

Penderfynwyd trefnu gweithdy ar gludiant o'r cartref i'r ysgol. 

 

 

12.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 25 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau ar gyfer 2023-2024 'er gwybodaeth'.

 

Nodwyd y pwnc i'w drafod yn y cyfarfod dilynol:-

 

·       27 Medi 2023 –

 

      Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol.