Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

27.

Cofnodion: pdf eicon PDF 218 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir.

 

28.

Cynnal a chadw'r isadeiledd ffyrdd. pdf eicon PDF 187 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd adroddiad a oedd yn nodi swyddogaethau, safonau a gweithgareddau gweithredol y Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd mewn perthynas â'i waith ar gynnal a chadw isadeiledd ffyrdd.

 

Nododd yr Aelodau ased ffordd gerbydau'r priffyrdd, y gofynion statudol sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth, atgyweiriadau arferol, atgyweiriadau cynnal a chadw cynlluniedig, draenio priffyrdd, rheoli asedau, heriau a chyfleoedd a risgiau yn y dyfodol.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Blaenraglen Waith Priffyrdd

·       Atgyweiriadau cynnal a chadw cynlluniedig (adweithiol ac ataliol, dulliau asesu a systemau sgorio, deunyddiau ar gyfer dulliau atgyweirio, y rhaglen PATCH a'r gwahanol raglenni trin ar gyfer pob ffordd benodol).

·       Draenio'r briffordd.

·       Cynnal a chadw troedffyrdd/llwybrau troed.

·       Grantiau Llywodraeth Cymru a chyllid y Cyngor.

·       Cyllidebau Cymunedol yr Aelodau.

·       Gweithio ar y cyd rhwng Parciau a Phriffyrdd.

·       Heriau'r dyfodol a ffyrdd newydd o weithio

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant ac Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd am gymryd rhan ac am fod yn bresennol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi'r cynnydd mewn perthynas â chynnal a chadw'r isadeiledd ffyrdd.

 

 

29.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 206 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024.

 

Nodwyd y pynciau i'w trafod yn y cyfarfod dilynol:

 

·       29 Chwefror 2024

 

Rhaglen Cyflwyno Rhagor o Dai.