Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

23.

Cofnodion: pdf eicon PDF 314 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir.

 

24.

Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol. pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Economaidd Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol (CCELl) newydd ar gyfer Abertawe.

 

Cyfeiriodd at y diweddariad a ddarparwyd i'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd ar 20 Gorffennaf 2023 a dywedodd fod y cynllun wedi cael ei gynhyrchu i nodi'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu ar gyfer adfywio economaidd yn Abertawe. Mae'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol yn ategu at y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe a bydd yn arwain rhoi'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ar waith mewn cyd-destun lleol.

 

Nododd aelodau'r fframwaith strategol a oedd yn nodi ein cenadaethau lleol a'n nodau a'n amcanion strategol hyd at 2030 a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.  

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth at y gwaith a wnaed wrth ddatblygu'r cynllun a rhoddodd ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Datblygu Economaidd am ddiweddariad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi'r cynnydd wrth gynhyrchu'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol.

 

25.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 205 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024.

 

Nodwyd y pynciau i'w trafod yn y cyfarfod dilynol:

 

·       18 Ionawr 2024

 

Cynnal a chadw'r isadeiledd ffyrdd