Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 226 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023 fel cofnod cywir.

 

20.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. pdf eicon PDF 245 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo, gyda chymorth y Rheolwr Prosiect, adroddiad diweddaru ar y sesiwn weithdy a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2023, a oedd yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu Cyrtiau Tenis Langland fel rhan o Gynllun Cyflawni Bae Abertawe.

 

Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo drosolwg o'r lleoliadau posib, a nodwyd dan 6 chyrchfan a gafodd eu hystyried yn ystod y sesiynau gweithdy.

 

Roedd yr awgrymiadau a drafodwyd yn y gweithdy ar 4 Gorffennaf 2023 yn cynnwys y canlynol:

 

·       Creu Cynllun Rheoli Cyrchfannau i ategu'r cyrchfannau.

·       Hyrwyddo twristiaeth drwy gydol y flwyddyn.

·       Rhaid i unrhyw ddatblygiad gynnwys cynllun teithio.

·       Gwneud yn fawr o lan y môr - mwy o westai, cyfleoedd masnachol.

·       Creu cynnig er budd ymwelwyr a chymunedau lleol.

·       Creu mwy o gyfleusterau caffi a thoiledau ar hyd yr arfordir a rhywle y gallwch brynu bwced a rhaw ar hyd y ffordd.

·       Blackpill - ystyried cyfleoedd masnachol ar gyfer y promenâd, gwella'r lido, canolfan i ymwelwyr.

 

·       Langland - cyfleoedd masnachol i gynnwys; fflatiau moethus,

toiledau, bwyty/bwytai a gwestai bwtîc er budd ymwelwyr ac i'w denu i'r ardal.

 

·       St Helen's - Pont y Slip - caffi uchel ar y tywod.

·       Y Rec - gwasanaeth parcio a theithio, parcio aml-lefel, fflatiau o werth uchel. 

 

Roedd yr awgrymiadau a drafodwyd yn y gweithdy ar 23 Hydref 2023 yn cynnwys y canlynol:

 

·       Archwiliwyd cyfleoedd datblygu ar gyfer Bae Langland. Roedd yn hollbwysig y byddai datblygiad hyfyw yn cyflwyno cyfleoedd a buddion ar y cyfan i'r gymuned a'r cyhoedd, gan hyrwyddo cyfleoedd masnachol ar yr un pryd.

·       Mireinio'r manylion ar gyfer Langland a farchnatawyd gan B2P ar ran Cyngor Abertawe yn ystod 2020.

·       Chwilio am gyfleoedd i'r gymuned ac ymwelwyr fel cyrchfan fforddiadwy fel datblygiad defnydd cymysg.

·       Lleoliad aros a bwyta dibreswyl - fflatiau moethus, gwesty a bwyty.

·       Gweithgareddau hamdden.

·       Manwerthu.

·       Cyfleusterau cyhoeddus a chyfleusterau newid newydd.

·       Ymgorffori gwaith cynnal a chadw cynlluniedig ac ataliol.

·       Cabannau glan môr (llogi dyddiol/wythnosol).

·       Datblygiad lefel isel.

·       Lesddaliad 125 o flynyddoedd.

·       Ceisio cynigion cyfalaf a refeniw gan bob parti â diddordeb gyda'r bwriad o wneud y mwyaf o enillion ariannol.

·       Refeniw yn gysylltiedig â chanran y trosiant gyda chynnydd graddol ar ôl cyfnod diffiniedig.

·       Pwyslais ar arbedion costau a meintioli budd.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth at y safleoedd eraill yn ardal Bae Abertawe a fyddai'n elwa o gael eu harchwilio.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo y byddai angen cyllid ac adnoddau ar y safleoedd yn ardal Bae Abertawe, oni bai fod trydydd parti yn dod ymlaen. Roedd Blackpill, yn benodol, yn safle a all fod angen ymgysylltu ag ymgynghorwyr. 

 

Cafwyd trafodaeth a gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r Swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu hadroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Drafftio briff datblygu diwygiedig yn unol â chanfyddiadau gweithdai diweddar fel y disgrifir yn eitem 2 yr adroddiad.

2)    Bydd y Pwyllgor yn cefnogi noddi Aelodau Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth a Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad i ddatblygu a chytuno ar gynllun cyflawni hyfyw ar gyfer Cyrtiau Tenis Bae Langland fel blaenoriaeth dan Strategaeth Bae Abertawe.

 

 

21.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 205 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024.

 

Nodwyd y pynciau i'w trafod yn y cyfarfod dilynol:

 

·       14 Rhagfyr 2023

 

Fframwaith Strategol y Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adolygiad o Bolisi Dyrannu Tai'r cyngor a oedd wedi’i ohirio tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.21pm