Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

15.

Cofnodion: pdf eicon PDF 223 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr ymweliad safle diweddar â Langland a'r Mwmbwls a nododd nad oedd adroddiad ar gael i'w ystyried yn y cyfarfod heddiw.  Adroddodd y byddai ymweliad safle arall yn cael ei drefnu cyn y cyfarfod nesaf.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd i Reolwr Gwasanaethau Cleientiaid y Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol am ei gymorth dros y blynyddoedd a dymunodd yn dda iddo yn ei yrfa yn y dyfodol.

 

16.

Cynllun Rheoli Cyrchfannau 2023-2026. pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Twristiaeth a Marchnata Gynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) 2023-2026 ar gyfer Abertawe.

 

Darparodd ddiffiniad ar gyfer CRhC, gan ddarparu manylion ynghylch y canlynol:

 

·       adferiad economi ymwelwyr Abertawe

·       Y tri darn strategol o ymchwil sy'n llywio'r CRhC

·       Blaenoriaethau a chanlyniadau strategol

·       Y darlun mwy (gan gynnwys prosiectau a gwblhawyd, datblygiadau)

·       Economi ymwelwyr Abertawe

·       Ffigurau defnydd ystafelloedd mewn gwestai

·       Ffigurau stoc gwelyau.

·       Gwerth twristiaeth

·       Arolwg ymwelwyr 2022 (ffeithiau allweddol am ein hymwelwyr)

·       Arolwg Masnach Dwristiaeth 2022 (canfyddiadau allweddol).

·       Astudiaeth o'r galw am westai yng nghanol dinas Abertawe 2022 (canfyddiadau ac argymhellion allweddol)

·       Marchnata cyrchfannau.

·       Digwyddiadau mawr.

·       Addasrwydd strategol.

·       Llywodraethu a chyflenwi.

·       Sut beth yw llwyddiant.

·       Edrych ymlaen at 2026.

·       Yr hyn y mae ein partneriaid yn ei ddweud.

 

Canmolodd Aelod y Cabinet dros Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth y swyddogion (gan gynnwys swyddogion a gafodd y dasg o sicrhau cyllid grant) am eu gwaith.  Cyfeiriodd at yr angen am ragor o westai yn Abertawe a'r potensial sydd i ddenu cynadleddau mawr, datblygu tacsis afon a'r galw cynyddol am lety Airbnb.  Cyfeiriodd at y rhaglen gyfalaf enfawr yn Abertawe a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn.

 

Trafodwyd yr adroddiad gan yr aelodau a gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth a'r Swyddogion am eu hadroddiad llawn gwybodaeth.

 

Er bod yr adroddiad yn un 'er gwybodaeth', roedd y Pwyllgor yn dymuno mynegi eu cefnogaeth i'r Cynllun Rheoli Cyrchfannau.

 

17.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024.

 

Nodwyd y pynciau i'w trafod yn y cyfarfod dilynol:

 

·       2 Tachwedd 2023

Prosiectau Strategaeth Bae Abertawe
Fframwaith Strategol y Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol