Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 219 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 fel cofnod cywir.

 

11.

Fframwaith Strategol Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol. pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Economaidd adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn amlinellu’r fframwaith strategol drafft ar gyfer y Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol (CCELl) newydd ar gyfer Abertawe.

 

Cyfeiriodd at y diweddariad a roddwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Datblygu Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd ar 26 Ionawr 2023 a manylodd ar gynnwys y CCELl, yr amserlenni dangosol ar gyfer cwblhau'r gwaith a'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu'r CCELl.

 

Nododd yr aelodau'r cyd-destun strategol, y tri uchelgais a'r fframwaith strategol drafft.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Datblygu Economaidd am y diweddariad.

 

Penderfynwyd:

 

1)    cyflwyno adroddiad diweddaru pellach i'r Pwyllgor ar 2 Tachwedd 2023.

 

12.

Adroddiad Statws Strategaeth Bae Abertawe. pdf eicon PDF 240 KB

13.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 203 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024.

 

Nodwyd y pynciau i'w trafod yn y cyfarfod dilynol:-

 

·       21 Medi 2023 –

 

      Cynllun Rheoli Cyrchfannau.