Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023 fel cofnod cywir.

 

6.

Cylch gorchwyl. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 357 KB

Cofnodion:

Darparwyd cylch gorchwyl y Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaethau 'er gwybodaeth'.

 

 

7.

Trafodaethau Cynllun Gwaith. (Llafar)

Cofnodion:

Manylodd y Cadeirydd ar y pynciau arfaethedig ar gyfer Cynllun Gwaith 2023-2024:

 

·       Cynllun Gwaith Coridor Glannau Afon Tawe (i gynnwys gwelliannau, cyfleoedd grant a'r potensial am unrhyw gyfleoedd cludiant, gan gynnwys y Metro, tacsis afon etc.).

·       Prosiectau Strategaeth Bae Abertawe (Cyfeiriodd y Cadeirydd at gynnull gweithdy ac awgrymodd y byddai hwn yn cael ei gynnal am 4pm ar ddyddiad i'w gadarnhau i ganiatáu i Swyddogion/Aelodau ddod iddo).

·       Cynllun Rheoli Cyrchfannau.

·       Adolygu Polisi Dyrannu Tai'r cyngor.

·       Cynnal a chadw'r isadeiledd ffyrdd.

·       Cynllun Cyflawni'r Economi Leol

·       Rhaglen Cyflwyno Rhagor o Dai.

 

 Penderfynwyd:   -

 

1)    Cymeradwyo'r pynciau a restrwyd uchod.

2)    Cylchredeg y cynllun gwaith i'r pwyllgor.

 

 

8.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol. (Trafodaeth). pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiadau'r cyfarfodydd yn y dyfodol a ddarparwyd ar yr agenda. 

 

Penderfynwyd cytuno ar gyfarfodydd Pwyllgor y dyfodol.