Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Polisi Cyd-gynhyrchu Cyngor Abertawe - (Gwaith ar y Gweill - Drafft) - Cyflwyniad. PDF 233 KB Cofnodion: Nododd y Pennaeth
Cyfathrebu a Marchnata fod y cyngor wedi bod yn gweithio ar ymgysylltu â Lab
Cyd-gynhyrchu Cymru ers blwyddyn bron, a chyflwynodd Mr Mike Corcoran (Lab Cyd-gynhyrchu Cymru) i'r cyfarfod. Manylodd Mr Corcoran ar y gwaith a wnaed i adeiladu cyd-gynhyrchu a’i
roi ar waith o fewn y cyngor. Cyfeiriodd
at rwydwaith hyrwyddwyr cyd-gynhyrchu’r cyngor, hyfforddiant (gan gynnwys
sgiliau hwyluso, pecyn cymorth i gefnogi prosiectau byw) a manylodd ar sut y
mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu. Darparodd
grynodeb manwl o'r Polisi Cydgynhyrchu a oedd yn
cynnwys y cefndir, diffiniad o gyd-gynhyrchu, cyd-gynhyrchu ac ymagweddau
ymgysylltu eraill, lefelau o gyd-gynhyrchu, rhoi cyd-gynhyrchu ar waith, pryd i
beidio â chyd-gynhyrchu, egwyddorion arwain lefel uchel i'w rhoi ar waith,
rolau yn y broses a gwybodaeth ychwanegol. Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau, nododd Mr Corcoran fod gweithio
gyda'r cyngor wedi bod yn broses werthfawr a’i fod wedi cynnig cyfle i archwilio
cyd-gynhyrchu mewn amgylchiadau go iawn a oedd wedi darparu sawl syniad da. Pwysleisiodd y
pwysigrwydd o bob parti'n cael ei ystyried yn gyfwerth ac yn cadw at
egwyddorion cyffredinol wrth fabwysiadu amrywiaeth eang o ymagweddau. Diolchodd y
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata i'r Pwyllgor am ei farn, a oedd wedi helpu i
lywio'r polisi drafft. Mynegodd ei
ddiolch hefyd i Lab Cydgynhyrchu Cymru am eu
cyfranogaeth a'u cymorth parhaus gyda phrosiectau cynnar. Anogodd y
Pwyllgor i ddarparu unrhyw sylwadau pellach yn uniongyrchol i swyddogion neu
drwy dudalen ymgynghori'r cyngor, ac i hyrwyddo'r polisi i unrhyw grwpiau anodd
eu cyrraedd o fewn eu cymunedau. Diolchodd y Cadeirydd i Mr Corcoran a'r Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata am eu hadroddiad addysgiadol. |
|
Cynllun Ariannol Tymor Canolig. PDF 414 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar yr wybodaeth
yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig er mwyn paratoi ar gyfer cyfrannu at
gynigion arbedion yn y dyfodol. Manylodd ar y
cyd-destun ac amlinellodd yr heriau mewn perthynas â'r ffordd yr oedd
cynghorau'n dyrannu cyllid gan Lywodraeth Cymru, a'r tybiaethau/rhagolygon ar
lefelau gwariant yn y dyfodol a ffrydiau incwm.
Roedd y ffrydiau incwm hyn yn amodol ar yr hinsawdd economaidd
gyffredinol, ond hefyd yr amgylchedd gwleidyddol. At hynny, nodwyd
bod yr hinsawdd economaidd bresennol yn cyflwyno nifer o anawsterau o ran
rhagweld lefelau chwyddiant, dyfarniadau cyflog a chyllid yn y dyfodol. Gwnaed
hyn yn fwy cymhleth oherwydd y gofyniad i fodloni ymrwymiadau polisi yn ogystal
â chydbwyso gofynion cyfreithiol, heb ddigon o arian craidd yn gyffredinol. Mynegodd y Cadeirydd ei diolch i'r Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 am weithredu mewn amgylchedd heriol ac awgrymodd bod yr adroddiad yn cael ei ohirio nes diwedd mis Ionawr/mis Chwefror 2024 pan fyddai ffrydiau ariannu/incwm wedi'u cadarnhau. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2023-2024. Penderfynwyd:-- 1)
Gohirio'r
Cynllun Ariannol Tymor Canolig tan y cyfarfod ar 27 Chwefror, 2024. 2)
Cyflwyno
canlyniadau'r ymarfer ymgynghori cyd-gynhyrchu i'r Pwyllgor ar 31 Hydref 2023. |