Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023 fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith 2023-2024. PDF 258 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at adroddiad y Rhaglen Waith a luniwyd gan Gyfarwyddwr Dros Dro'r
Gwasanaethau Corfforedig, a oedd yn cynnwys Cylch gorchwyl y Pwyllgor ac
eitemau'r Rhaglen Waith awgrymedig ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023/2024. Trafododd yr
Aelodau eitemau'r Rhaglen Waith a'r allbwn disgwyliedig (fel y nodir isod):
Penderfynwyd: - 1)
Nodi'r
cylch gorchwyl. 2)
Cymeradwyo'r
rhaglen waith ar gyfer 2023-24 fel y'i hamlinellwyd ym mharagraff 2 yr
adroddiad (ac fel y'i nodwyd uchod). Dosbarthu’r rhaglen waith i'r pwyllgor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Datblygu Cynllun Gweithredu Dinas Hawliau Dynol 2023+. PDF 134 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cyfathrebu a Chynnwys Cwsmeriaid, gyda chymorth y Cydlynydd Ymgynghori,
adroddiad a roddodd wybodaeth am ddigwyddiad Cynllun Gweithredu'r Dinas Hawliau
Dynol (a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023) a oedd yn ceisio mewnbwn ynghylch
llunio Cynllun Gweithredu Dinas Hawliau Dynol Cyngor Abertawe. Ar 16 Mehefin 2023, cyhoeddodd BGC Abertawe ei
ddigwyddiad Cynnwys Cynllun Gweithredu ei Ddinas Hawliau Dynol. Roedd 103 o
bobl yn bresennol, ac roedd hyn yn cynnwys pobl ifanc (16 o blant ysgol
uwchradd), pobl â phrofiad byw, busnesau, sefydliadau 3ydd sector,
cynrychiolwyr uwch BGC ac arweinwyr y gymuned. Yn ystod y digwyddiad hwn, rhoddwyd cyflwyniadau
gan Brifysgol Abertawe ynghylch ymagwedd sy'n parchu Hawliau Dynol a'i
hegwyddorion, cyn cyflwyniad ar yr egwyddorion ar waith. Gofynnwyd i bob person
a oedd yn bresennol ynghylch beth gallant ei wneud i gefnogi Abertawe ymhellach
fel Dinas Hawliau Dynol. Yn dilyn cyflwyniadau, cynullwyd sesiynau gweithdy
bord gron, lle gofynnwyd i gyfranogwyr ynghylch y prif faterion, pa gamau
gweithredu posib y mae eu hangen a'r hyn a fyddai'n dangos llwyddiant ym mhob
un o flaenoriaethau'r Dinas Hawliau Dynol. Dyma'r blaenoriaethau: 1)
Trechu tlodi 2)
Plant a
theuluoedd diamddiffyn 3)
Mynd i'r
afael â gwahaniaethu 4)
Cam-drin
domestig a thrais 5)
Ymwybyddiaeth
o hawliau dynol Defnyddir yr holl weithgareddau cynnwys i lunio'r
Cynllun Gweithredu Dinas Hawliau Dynol ar gyfer Cyngor Abertawe a phartneriaid
eraill BGC. Llunnir adroddiad llawn ar gynnwys ar gyfer y cynllun gweithredu,
gan gynnwys mewnbwn y pwyllgor, a gellir ei ddosbarthu i'r pwyllgor, ynghyd â drafft
cyntaf y cynllun gweithredu. Roedd trafodaethau’r aelodau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cyfleoedd
hyfforddiant ar gyfer aelodau a swyddogion. ·
Pwysigrwydd
ymyrryd yn gynnar. ·
Cyhoeddusrwydd
ynghylch Gweithdai a digwyddiadau. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu hadroddiad addysgol a gwnaeth eu
llongyfarch am gynnal digwyddiad llwyddiannus. Penderfynwyd: 1)
dosbarthu'r
adroddiad sy'n nodi uchafbwyntiau'r dydd i aelodau'r pwyllgor. 2)
Trefnu sesiynau
hyfforddiant pellach ar gyfer aelodau'r pwyllgor. 3)
rhoi'r cyfle
i aelodau'r pwyllgor gymryd rhan yn yr arolwg. 4)
Cynnull
cyfres o weithdai yn ystod y flwyddyn ddinesig. 5)
Dosbarthu
dogfen hawliau dynol y Cynghorydd L V Walton i aelodau'r pwyllgor. 6)
Dosbarthu'r
llawlyfr poced i aelodau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol. PDF 178 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd
at ddyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol ym mhecyn yr agenda a chynigiodd y dylid
cynnal cyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol am 2pm. Penderfynwyd y byddai cyfarfodydd y pwyllgor yn y
dyfodol yn dechrau am 2pm. |