Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

30.

Cofnodion: pdf eicon PDF 240 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

31.

Cynllun Gweithredu Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 ar gyfer Abertawe. pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd D H Hopkins, Dirprwy Arweinydd / Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol yr adroddiad, a oedd i fod i gael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 21 Mawrth 2024 ac a oedd yn Flaenoriaeth Gorfforaethol i'r Awdurdod.

 

Cyflwynodd Paul Meller, Rheolwr Is-adran yr Amgylchedd Naturiol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer fersiwn ddrafft  Cynllun Gweithredu Adran 6 y Ddyletswydd Bioamrywiaeth ar gyfer Abertawe. (2023-2025).

 

Esboniwyd bod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Rhan 1) Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau yn ei gwneud yn ofynnol i: ‘awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol’.

 

Roedd gan Gyngor Abertawe ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob tair blynedd yn amlinellu camau a gymerwyd i gydymffurfio â'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth Statudol. 

 

Roedd y cynllun gweithredu Adran 6 drafft yn Atodiad A yn darparu'r camau gweithredu y bwriadai'r Cyngor eu cymryd rhwng nawr a mis Rhagfyr 2025 i gyflawni ei rwymedigaethau o dan ei Ddyletswydd Bioamrywiaeth i gynnal a gwella bioamrywiaeth a chyfrannu at dargedau 30 x 30 Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer natur.

 

Darparwyd y camau gweithredu a ddisgrifiwyd o dan chwe amcan allweddol Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru a Chynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe.

 

Nododd Mark Barber, Swyddog Bioamrywiaeth, fod y camau gweithredu parhaus yn ddibynnol ar adnoddau staff a chyllid Llywodraeth Cymru, a fyddai'n cael ei ddarparu hyd at 2025 ar hyn o bryd.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Yr angen i gynnwys gweithio gydag ysgolion i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwelliannau bioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd ar diroedd ysgolion.

·         Gwneud Cynghorau Cymuned a Thref yn ymwybodol o'r adroddiad. Nodwyd bod cyflwyniad yn cael ei wneud i'r Fforwm Cynghorau Cymuned a Thref ar 4 Mawrth 2024 a bod pob cyngor yn gyfrifol am lunio'i gynllun ei hun. .

·         Cyfrifoldebau cyfreithiol y Cyngor mewn perthynas â llygredd dŵr, pridd ac aer, sut mae'n cydweithio â sefydliadau eraill, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a sut y byddai cynnwys materion o fewn y cynllun gyda lwc yn darparu rhagor o gyllid tuag at fynd i'r afael â llygredd.

·         Cynnwys teithio llesol o fewn y cynllun, sy'n gam cadarnhaol.

·         Darparu cynllun manylach sy'n cysylltu'r holl gamau gweithredu eang â'i gilydd a fydd yn cynnwys cyfrannu at dargedau bioamrywiaeth 30 x 30 Llywodraeth Cymru.

·         Pwysigrwydd allweddol adfer natur.

·         Pwysigrwydd ei gynnwys o fewn y Cynllun Corfforaethol a chydweithio yn y dyfodol.

·         Newid deddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno i gryfhau bioamrywiaeth o ran y broses gynllunio.

·         Pwysigrwydd draenio cynaliadwy.

·         Y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno o fewn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)     Cymeradwyo Cynllun Gweithredu drafft Adran 6 y Ddyletswydd Bioamrywiaeth ar gyfer Cyngor Abertawe a'i gyflwyno i'r Cyngor i'w fabwysiadu.

2)    Ychwanegu gweithio gydag ysgolion i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwelliannau bioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd ar diroedd ysgolion at y Cynllun sy'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor.

32.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 135 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith.

 

Nododd fod y Strategaeth Codi Tâl CT Cyhoeddus yn parhau i fod yn eitem sy'n weddill ac y byddai'n cadarnhau a oedd Craffu yn edrych ar y pwnc.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.