Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr S J Rice fuddiannau personol yn yr agenda gyfan.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â'r agenda cyfan.

25.

Cofnodion: pdf eicon PDF 227 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

26.

Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd - Diweddariadau ar Sero Net 2050. pdf eicon PDF 588 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jane Richmond, Rheolwr y Prosiect Newid yn yr Hinsawdd Strategol a Rachel Lewis, Rheolwr Prosiect y Gyfarwyddiaeth, Gwasanaethau Eiddo adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, gan nodi cynllun cyflawni ar gyfer sero net 2050 a chyflwynodd weithgarwch Cyngor Abertawe ar y Cynllun Cyswllt 'Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd'.

 

Amlinellwyd bod Cyngor Abertawe wedi datgan argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2019 ac argyfwng natur ym mis Tachwedd 2021. Yn 2022 cymeradwywyd Strategaeth a Chynllun Cyflawni Newid yn yr Hinsawdd a Natur ar gyfer 2022-2030 gan y Cabinet i gyflawni 30 o gamau gweithredu erbyn 2030. Byddai'r strategaeth a'r cynllun hwn yn cyflawni sero net ar gyfer ei weithrediadau ei hun erbyn 2030.

 

Roedd y cyngor hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r strategaeth a'r cynllun mewnol, drwy gyflawni cynllun ar gyfer sero net 2050, ymagwedd sir gyfan at sero net a datgarboneiddio. Cydnabu Cyngor Abertawe na all gyflawni sero net ar gyfer Abertawe fel sir ar ei phen ei hun ac mae angen iddo weithio mewn partneriaeth ag eraill i alluogi'r canlyniadau gorau posibl.

 

Cydnabuwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl adroddiadau cynnydd yn y dyfodol mewn perthynas â 2050, mewn ffordd debyg i'r adrodd a wneir ar gyfer sero net 2030.  Amlinellwyd y gweithgarwch ar gyfer cynllun ehangach dinas a sir Abertawe ar gyfer sero net 2050 a chreu'r gweithlu carbon-lythrennog y byddai ei angen i alluogi cyflawni ar draws pob sector o waith Cyngor Abertawe yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd diweddariad manwl i'r Pwyllgor ynghylch gweithgarwch Cyngor Abertawe ar gyfer Sero Net 2050, gan gynnwys Atodiad A - Y Diweddaraf am Gynllun Cyflawni Newid yn yr Hinsawdd 2022-23; y Grŵp Llofnodwyr Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur, y Fframwaith Partner Amgylcheddol a'r Bartneriaeth Natur Leol; Cynllun Cyflawni Mewnol ar gyfer 2030 a 2050, gan gynnwys y Cynllun Cyfathrebu Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer 2023-27 yn Atodiad B; a Chynllun Cyflawni Allanol ar gyfer Sero Net 2050; a chyflwyno Sero Net 2050 ac Adfer Natur drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

 

Crynhowyd bod y cynllun cyflawni ar gyfer ymgysylltu ar gyfer Sero Net 2050 yn seiliedig ar 3 phrif faes gwaith. Byddai hyn yn ffurfio sail i rywfaint o'r gwaith sydd i'w wneud gan y Rheolwr Prosiect Newid yn yr Hinsawdd Strategol drwy gydol Cynllun Lles presennol Abertawe, er mwyn sicrhau cysondeb â gweithdrefnau adrodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.  Dyma fyddai'r tri maes ffocws:  -

 

·         Cyflawni mewnol er mwyn sicrhau gweithlu sy'n llythrennog o ran yr hinsawdd ac Aelodau'r Cyngor gwybodus i alluogi newid cadarnhaol ac i leihau allyriadau;

·         Darpariaeth allanol drwy'r Fframwaith Partner Amgylcheddol; a

·         Cyflawni drwy'r Llofnodwyr Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur a thrwy ymgymryd â rôl y grŵp cyflawni ar gyfer cam 3 Cynllun Lles Abertawe.

 

 

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Sut y bydd pobl yn ymateb pan fyddant yn dioddef effaith gorfforol yn unig a'r angen i unrhyw newidiadau a gyflwynir fod yn seiliedig ar unigolion ac nid ar wyddoniaeth.

·         Pwysigrwydd cwblhau'r sesiynau hyfforddi sydd ar gael.

·         Pwysigrwydd cyfathrebu syml a grymuso pobl i helpu i wneud y newidiadau y gellir eu cyflawni.

·         Pwysigrwydd yr Hwb Ymwybyddiaeth Ynni.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am yr adroddiad.

27.

Cynllun Ynni Ardal Leol Abertawe (CYAL). pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Andy Edwards, Rheolwr Prosiect - Gwasanaethau Eiddo, gyda chefnogaeth Anna Lawson, Prif Ymgynghorydd Ynni, City Science, adroddiad a oedd yn cynghori'r Pwyllgor ar ddatblygiad Cynllun Ynni Ardal Leol Abertawe.

 

Eglurwyd mai Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) yw'r cynllun strategol, o fewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, ar gyfer sut y byddai'r systemau ynni'n cael eu datgarboneiddio. Mae'n arwain at gynllun wedi'i gostio'n llawn sy'n nodi'r newid angenrheidiol, gan fanylu ar 'beth, ble, pryd a chan bwy', gyda'r nod o gyflawni Sero Net erbyn 2050.

 

Ychwanegwyd bod CYAL yn mynd i'r afael â rhwydweithiau trydan, gwres a nwy, potensial ar gyfer hydrogen yn y dyfodol, yr amgylchedd adeiledig (diwydiannol, domestig a masnachol) ei ffabrig a'i systemau, hyblygrwydd, cynhyrchu a storio ynni a darparu ynni i drafnidiaeth sydd wedi'i datgarboneiddio e.e. trydan ar gyfer cerbydau trydan ac isadeiledd gwefru.

 

Ar ben hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhannu cynghorau'n 4 rhanbarth, gydag Abertawe'n rhan o ranbarth de-orllewin Cymru, ynghyd â Chastell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi penodi cwmni arbenigol i weithio gyda phob rhanbarth, a'r cynghorau unigol, i gynhyrchu eu CYAL. Penodwyd City Science i weithio gyda rhanbarth de-orllewin Cymru a byddai'r cynlluniau hyn a ddatblygwyd yn lleol yn bwydo i mewn i'r strategaethau ynni rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod City Science wedi datblygu proses i symud materion ymlaen, gan weithio gyda Chyngor Abertawe ac ystod eang o randdeiliaid. Dechreuwyd y broses ym mis Chwefror 2023 gyda'r bwriad o gynhyrchu drafft cyntaf o'r cynllun ym mis Rhagfyr ac roedd disgwyl i'r ddogfen derfynol gael ei chymeradwyo ym mis Mawrth 2024.  Roedd Atodiad B yn darparu trosolwg o Gamau Datblygu CYAL.

 

Roedd datblygu CYAL Abertawe wedi ystyried nifer o sefyllfaoedd tebygol ac wedi'u modelu i nodi llwybr y gallai'r cyngor ei ddilyn i gyflawni Sero Net Abertawe erbyn 2050.  O'r sefyllfaoedd, nodwyd amrywiaeth o gamau gweithredu posib a rannwyd yn gategorïau penodol a chafodd y rhain eu rhestri.

 

Eglurwyd ymhellach fod rhanbarth y de-orllewin wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflogi Rheolwr Prosiect a dau Swyddog Prosiect i oruchwylio'r broses gychwynnol o roi'r CYAL unigol ar waith a'u hintegreiddio yn y Strategaeth Ynni Ranbarthol.  Byddai'r swyddogion hyn yn cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Gâr ond byddent yn gweithio ar draws y rhanbarth, tan fis Tachwedd 2025.

 

Byddai gan bob cam ei drefniadau llywodraethu ei hun a byddai'r trefniadau llywodraethu trosgynnol ar gyfer rhoi'r CYAL ar waith yn cael eu hamlinellu yn y cynllun terfynol.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Posibilrwydd o gynhyrchu ynni'n lleol, gan gynnwys storio pŵer.

·         Sicrhau bod cymunedau'n cael eu cynnwys mewn datblygiadau, cynhyrchu cartrefi ynni-effeithlon a bod yn ymwybodol nad yw opsiynau ynni bioamrywiaeth yn dominyddu ardaloedd lleol.

·         Pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus gost-effeithiol ac effeithlon o ran ynni.

·         Prosiectau peilot system ynni solar a oedd yn mynd rhagddynt o fewn cymunedau a rhai o'r materion a godwyd gan y cynlluniau.

·         Mae'r cyngor yn ymwybodol o faint yr oeddent yn gofyn i breswylwyr ei wneud ac roeddent hefyd am sicrhau bod y newidiadau a wnaed yn gadarnhaol, wedi'u grymuso ac yn hylaw ar gyfer unigolion.

 

Tynnodd Anna Lawson, Prif Ymgynghorydd Ynni, City Science, sylw at bwysigrwydd gweithio'n rhanbarthol, cynnwys busnesau yn y daith a gwneud datgarboneiddio'n hyfyw yn ariannol.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn nodi datblygiad Cynllun Ynni Ardal Leol Abertawe.

28.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 135 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Canslo'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 22 Ionawr 2024 a chynnal sesiwn weithdy ar Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy - y camau nesaf.