Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

21.

Cofnodion: pdf eicon PDF 237 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion blaenorol y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

22.

Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy Gorfforaethol 2020-2030. pdf eicon PDF 484 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd ac Cymeradwywyd. .

Cofnodion:

Cyflwynodd Matthew Boyer, Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd dros dro adroddiad a oedd yn ceisio barn a sylwadau'r Pwyllgor ar Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ddrafft 2020-2030.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cefndir, polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a chyd-destun strategol; gweledigaeth, nodau ac amcanion; a sut byddai'r cyngor yn cyflawni hyn.

 

Amlinellwyd bod y cynllun gweithredu yn Atodiad A yn darparu map ffordd ar gyfer bodloni'r amcanion allweddol a amlinellir yn y strategaeth. Roedd yn diffinio'r fframwaith ar gyfer cyflawni'r canlyniadau sero net drwy nodi mesurau ac egwyddorion a all achosi newid ymddygiad o ran trafnidiaeth ar dair lefel:

 

·       Corfforaethol - mesurau ac egwyddorion sy'n berthnasol ar draws y cyngor;

h.y. ar draws yr holl adrannau a staff.

·       Adrannol - mesurau ac egwyddorion y dylai pob adran o'r cyngor eu mabwysiadu wrth ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd sy'n berthnasol i'w swyddogaeth benodol.

 

·       Penodol i drafnidiaeth - mesurau ac egwyddorion penodol i'w defnyddio gan ddwy adran y cyngor sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am gynllunio a chyflwyno a darparu trafnidiaeth (h.y. yr Adran Priffyrdd a Chludiant a'r Uned Cludiant Canolog).

 

Ychwanegwyd y byddai'r Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy yn cael ei hymgorffori yng Nghynllun Corfforaethol y cyngor a'r broses pennu cyllideb. Byddai'n cael ei gyfathrebu i holl staff y cyngor drwy'r sianeli arferol, gan gynnwys gwefan y cyngor, cyfryngau cymdeithasol ac mewn sesiynau briffio staff. Bydd gan benaethiaid adrannau, ar y cyd ag arweinwyr tîm, gyfrifoldeb i gyflwyno'r strategaeth yn eu hadrannau. Byddai arolwg teithio blynyddol hyn cael ei gynnal ar draws y cyngor i fonitro effeithiolrwydd rhoi'r strategaeth ar waith a bydd yn cael ei ddefnyddio i fireinio neu ddiweddaru'r strategaeth yn ôl yr angen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd A S Lewis, Cyd-ddirprwy Arweinydd/Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau sylwadau o blaid yr adroddiad a thynnodd sylw at y cynnydd i wella’r isadeiledd gwefru trydan ar gyfer cerbydau’r cyngor a sut roedd y cyngor hefyd yn monitro cynnydd cerbydau hydrogen fel dewis amgen i gerbydau trydan.  Ychwanegodd y byddai staff a sefydliadau partner yn rhan o'r strategaeth yn y dyfodol. 

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol iddynt

 

Penderfynwyd nodi barn y Pwyllgor ar y Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy a'r cynllun gweithredu drafft ac anfon fersiwn derfynol yr adroddiad at y Cabinet i'w gymeradwyo.

23.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 135 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Is-gadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.