Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 17 - Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â Chofnod Rhif 17 - Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe.

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 243 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

17.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe. pdf eicon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Deborah Hill, Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur, adroddiad a oedd yn gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol drafft ar gyfer Abertawe.

 

Amlinellwyd bod Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur Lleol yn gynlluniau partneriaeth anstatudol a gynhyrchir gan y Partneriaethau Natur Lleol (PNLlau) yn yr awdurdod lleol neu'r Parc Cenedlaethol perthnasol yng Nghymru. Mae pob Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol yn cyd-fynd â, ac yn cael ei lywio gan bolisi bioamrywiaeth cenedlaethol Cymru sef y Cynllun Adfer Natur. 

 

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru yw'r Strategaeth Bioamrywiaeth a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru ac mae'n disgrifio sut yr eir i'r afael â Chynllun Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth Confensiwn Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (a'r Targedau Bioamrywiaeth Aichi cysylltiedig ar gyfer 2011-20 yng Nghymru) yng Nghymru.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu manylion cefndir a'r argyfwng natur.  Ychwanegwyd bod Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe yn nodi blaenoriaethau ar gyfer mynd ati i adfer natur yn Abertawe fel themâu gweithredu. Fe'u llywiwyd ar y lefel uchaf gan y chwe amcan a'r pum thema gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru, ond roedd gwybodaeth a blaenoriaethau lleol yn sail iddynt, yn ogystal â'r themâu a amlygwyd yn Natganiad Ardal De-orllewin Cymru a'r Datganiad Ardal Morol. 

 

Roedd 25 o themâu gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol drafft Abertawe: Bwriedid i'r themâu gweithredu fod yn fwy cul o ran ffocws na'r chwe amcan yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru i arwain camau gweithredu partneriaid PNL, ond hefyd yn ddigon eang i weithredu fel ymbarél ar gyfer camau gweithredu partneriaid gan fod PNL Abertawe yn bartneriaeth amrywiol.  Darparwyd amserlen ddatblygu ar gyfer Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe hefyd.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Llygredd mewn afonydd, dŵr ffo yn mynd i mewn i afonydd a'r sicrwydd a ddarparwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

·         Gweithio mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y gwaith a wnaed wrth lunio'r adroddiad.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Bod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau (PTG) Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur yn nodi pwysigrwydd Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe fel fframwaith partneriaeth hollgynhwysol er mwyn mynd ati i Adfer Natur.

2)      Bod y PTG yn cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i'r cyngor am gymeradwyaeth.

18.

Strategaeth Gwastraff y dyfodol. pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyng. Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, a Chris Howell, Pennaeth Gwastraff, Glanhau a Pharciau, a oedd yn ceisio barn y Pwyllgor mewn perthynas â strategaethau gwastraff yn y dyfodol.

 

Amlinellwyd cefndir Strategaeth Gwastraff 2022-2025 ac amlygwyd bod yr holl gamau gweithredu i wella gwasanaethau sy'n gynwysedig yn  strategaeth bresennol wedi cael eu rhoi ar waith. Roedd hyn yn golygu bod y cyngor wedi cyflawni cyfradd ailgylchu o dros 70% yn 2022/23, ddwy flynedd yn gynt na'r hyn sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth. Yn ogystal â chyflawni lefel uchel o ailgylchu, roedd y meincnodi ariannol mwyaf diweddar gan CLlLC o 2021/22 yn dangos bod y cyngor wedi darparu'r gwasanaeth rheoli gwastraff mwyaf cost-effeithiol yng Nghymru (h.y. y cost net isaf fesul aelwyd).

 

Ychwanegwyd bod y gwasanaeth rheoli gwastraff yn archwilio sut y gellid datblygu strategaeth gwastraff ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod y cyngor yn parhau i gyflwyno gwasanaeth hynod effeithiol a chost-effeithiol a hefyd leihau allyriadau carbon ymhellach.

 

Disgwylid y byddai'r cyngor yn llwyddo i leihau carbon yn bennaf drwy leihau gwastraff gweddilliol drwy gynyddu ailgylchu, newidiadau i ffynhonnell bŵer a/neu ddefnyddio cerbydau casglu a lleihau'r defnydd o sachau ailgylchu plastig.

 

Byddai lleihad mewn gwastraff gweddilliol yn cael ei gyflawni drwy ddargyfeirio mwy o wastraff o driniaeth thermol (egni o wastraff) i ailddefnyddio neu ailgylchu drwy ehangu nifer y ffrydiau ailgylchu a gasglwyd wrth ymyl y ffordd.

 

Ar ben hynny, yn unol â Strategaeth Llywodraeth Cymru, byddai casglu deunyddiau ailgylchu ychwanegol o ymyl y ffordd, fel deunydd lapio plastig, cartonau a thecstilau yn cael ei dreialu i asesu ar gyfer symiau, ansawdd, marchnadoedd ailgylchu a chynaladwyedd.

 

Ychwanegwyd ymhellach y gallai allyriadau cerbydau gael eu lleihau o bosib drwy: -

 

·         Gyflwyno casgliadau gardd tymhorol a fyddai'n lleihau'r milltiredd a deithiwyd;

·         Ystyried newid i gerbydau allyriadau isel amgen (e.e. trydan neu hydrogen). 

 

Roedd y pwyllgor wedi gofyn i'r maes gwasanaeth i ymchwilio i ddichonoldeb darparu cynwysyddion â chloriau ar gyfer casgliadau gwydr a chaniau. Darparwyd enghraifft.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Y cam cadarnhaol i ychwanegu deunyddiau ailgylchu at gasgliadau ymyl y ffordd.

·         Y broses wahanu fwriadedig sy'n cael ei hystyried gan y maes gwasanaeth.

·         Y cynnig i atal casgliadau gwastraff gardd ym mis Rhagfyr/Ionawr.

·         Adborth ar ôl treialu'r cerbyd casglu a bwerir gan drydan a'r ffocws ar leihau milltiredd.

·         Adborth ynghylch y bin enghreifftiol a ddarparwyd.

·         Sut nad oedd biniau ailgylchu sefydlog yn ffynhonnell ailgylchu dda oherwydd halogiad.

·         Byddai cynllun dychwelyd ernes Llywodraeth Cymru yn annog y cyhoedd i ddychwelyd cynnyrch ac felly lleihau gwastraff.  

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Mewn egwyddor y byddai'r Pwyllgor yn gefnogol o'r potensial ar gyfer strategaethau gwastraff y dyfodol i anelu at leihau gwastraff gweddilliol, a fyddai yn ei dro yn arwain at gyfraddau ailgylchu uwch a'r arbedion carbon canlyniadol.

2)    Mewn egwyddor, fod y Pwyllgor yn cefnogi'r opsiynau i leihau'r defnydd o danwydd yn y dyfodol ar gyfer cerbydau casglu gwastraff.

3)    Bod y pwyllgor yn cefnogi'r defnydd o'r cynhwysydd ailddefnyddiadwy a ddarparwyd, ar yr amod bod teuluoedd mwy yn cael sawl blwch.

19.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 135 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.