Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 Y Cynghorydd  S J Rice – Eitem 6 – Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe – personol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd S J Rice – Eitem 6 – Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe – personol.

 

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 203 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau (PTG) Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

 

11.

Defnyddio Cynwysyddion Ailddefnyddiadwy ar gyfer Ailgylchu. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

1. Cefnogi'n llawn y symudiad i ffwrdd o ddefnyddio bagiau untro.

2. Cyflwyno adroddiad pellach.

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Howell yr adroddiad a oedd yn amlinellu cefndir y ddarpariaeth bresennol yn Abertawe o'r bagiau amrywiol a ddefnyddir ar gyfer y gwahanol fathau o ailgylchu a gesglir ar hyn o bryd ar draws y ddinas, a nodir yn y tabl isod:

 

Deunydd

Cynwysyddion

Gwastraff bwyd

Cynwysyddion bach y gellir eu hailddefnyddio a leininau dewisol

Gwastraff gardd

Sachau hesian y gellir eu hailddefnyddio

Poteli plastig, tybiau a hambyrddau

Sachau hesian y gellir eu hailddefnyddio

Papur a cherdyn

Sachau plastig gwyrdd untro

Caniau a gwydr

Sachau plastig gwyrdd untro

 

Manylodd mai cyfuniad a ffefrir y tîm rheoli gwastraff o hyn ymlaen fyddai symud i sachau hesian y gellir eu selio ar gyfer papur a chardiau a blwch plastig gyda dolen gario, ar gyfer gwydr a chaniau.

 

Yna gofynnodd am farn y pwyllgor ar ddefnyddio cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na sachau untro. Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn defnyddio hyd at 10 miliwn o sachau untro'r flwyddyn.

 

Cafodd y goblygiadau ariannol ar gyfer y posibilrwydd o beidio â defnyddio sachau untro a'r newidiadau gweithredol y bydd eu hangen eu hamlinellu gan swyddogion. Efallai bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael i gynorthwyo gyda'r newid.

 

Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol â staff ar ymarferoldeb gweithredu'r newid.

 

Trafododd yr aelodau'r gwahanol fathau o flychau/fagiau sydd ar gael, y posibilrwydd y bydd ardal brawf yn cael ei gweithredu i ddechrau ac y byddai blychau/sachau ychwanegol ar gael am ddim pe bai eu hangen ar y cyhoedd.

 

Rhoddodd aelod o'r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ei farn am y mathau o gynwysyddion i'w defnyddio.

 

Diolchodd y Cynghorwyr Cyril Anderson ac Andrew Stevens i'r ddau swyddog am eu hadroddiad a'u cyflwyniad ac i'r cynghorwyr/cyhoedd am eu mewnbwn.

 

Penderfynwyd:  -

 

1.    Cefnogi'r syniad o gyflwyno blwch/sach newydd yn lle defnyddio sachau untro yn llawn.

2.    Y bydd swyddogion yn cynnal ymchwiliadau pellach ar yr opsiynau amrywiol sydd ar gael ar gyfer y cynhwysydd newydd ac yn cyflwyno adroddiad i gyfarfod o'r PTG yn y dyfodol.

 

(Sylwer - Wrth ystyried yr eitem uchod: torrodd y Pwyllgor am 2.17-2.19 fel y gellid datrys problemau TG technegol)

(Torrodd y Pwyllgor eto am 2.23-2.28 i ganiatáu i'r cynghorwyr, y swyddogion a'r aelodau hynny o'r cyhoedd a oedd yn gorfforol bresennol yn yr ystafell weld y gwahanol fathau o focsys/sachau hesian)

 

12.

Cyflwyniad - Trafnidiaeth Cymru. pdf eicon PDF 4 MB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Rhoddodd Ben George ddiweddariad llafar a chyflwyniad i gefnogi'r wybodaeth a gylchredwyd sy'n ymwneud â'r cynigion ar gyfer Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

·       Rhaglen reilffyrdd gan gynnwys Prif Linell De Cymru, Gwasanaethau Gorllewin Cymru a Metro Ardal Bae Abertawe;

·       Blaenoriaethau rheilffordd ar gyfer Gorllewin Cymru ac amlder gwasanaethau rhwng Port Talbot yn y dwyrain i Abergwaun ac Aberdaugleddau yn y gorllewin ar y gwahanol linellau;

·       Cynigion rheilffordd Metro Ardal Bae Abertawe ar gyfer gorsafoedd rhwng Porth Tywyn, Rhydaman, Abertawe a Chastell-nedd;

·       Rhaglen fysus ac ad-drefnu llwybrau sy'n ceisio lleihau dyblygu a gwella effeithlonrwydd gwasanaethau;

·       Mae'n bwriadu integreiddio'n well â dulliau trafnidiaeth eraill trwy gynllunio gwasanaethau bysus yn well i greu rhwydwaith mwy cydlynol a chyd-drefnedig;

·       Cynigion datgarboneiddio bysus;

·       Trosolwg o brosiect bysus hydrogen Bae Abertawe a'r strwythur arfaethedig.

 

Croesawodd y Cynghorydd David Hopkins y cynigion a'r syniadau a amlinellwyd yn y cyflwyniad ac amlinellodd y byddai'r datblygiadau sy'n ymwneud â cherbydau hydrogen yn cael eu croesawu a'u bod yn gyffrous i'r ddinas.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ben am ei bresenoldeb a'i gyflwyniad a nododd y byddai'r PTG yn edrych ar y mater eto yn eu cyfarfod ym mis Hydref.

 

13.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe. pdf eicon PDF 267 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

ymwybyddiaeth o'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGANLl) drafft ar gyfer Abertawe.

 

Yna rhoddodd Christina Derrick gyflwyniad Powerpoint i'r pwyllgor i gefnogi'r adroddiad a gylchredwyd.

 

Dyma'r materion a drafodwyd yn y cyflwyniad:

·       Trosolwg, cefndir a chynnwys o ran sut y bydd y CGANLl newydd yn cael ei ddefnyddio;

·       Mae'r CGANLl yn nodi blaenoriaethau lleol ar gyfer adfer natur, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn bwriadu llunio cynllun;

·       Mae gan Bartneriaeth Natur Leol Abertawe (PNL) dros 120+ o wahanol aelodau unigol ac mae dros 50 o sefydliadau'n ymwneud â hi;

·       Mae'r polisi cefndir yn cynnwys offeryn polisi cenedlaethol dan darged Aichi 17, ac mae'n nodi ymagwedd genedlaethol at adfer natur a chyfraniad i'r cynllun strategol ar gyfer Bioamrywiaeth/Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal;

·       Chwe phrif amcan;

·       Pum 'thema ar gyfer gweithredu';

·       Angen a chefndir datblygiad y cynlluniau;

·       Y broses hyd yn hyn sy'n cynnwys adolygu dogfennau/polisi, y PNL yn adolygu'r fframwaith cychwynnol, gweithdai'r PNL a gwaith dilynol, ac yna anfon ail ddrafft i'w adolygu gan y PNL.

·       Cynnwys 1 - adfer natur, trosolwg o natur yn Abertawe a gosod cyd-destun a'r angen am gynllun;

·       Cynnwys 2 - nodi blaenoriaethau'r themâu ar gyfer gweithredu, cysoni o dan y chwe amcan yn y CGAN i Gymru, helpu i arwain gweithredoedd partner ar draws y PNL, peidio ag ymrwymo un partner i unrhyw gamau penodol;

·       Cynnwys 3 - Gwybodaeth fanylach am natur yn Abertawe gan gynnwys trosolwg o gynefinoedd â blaenoriaeth ac archwilio rhywogaethau a safleoedd sy'n 'arbennig' i Abertawe;

       Cynnwys 4 - Beth allwch chi ei wneud, ffeithluniau er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth, awgrymiadau a syniadau ar gyfer cyfrannu at adfer natur, nid yw'n rhestr gyflawn

·       Sut caiff y CGANLl ei ddefnyddio yn y dyfodol.

 

Nododd swyddogion y byddai copïau o'r sleidiau a ddefnyddiwyd yn y cyflwyniad a chopi o'r cynllun llawn yn cael eu dosbarthu i aelodau'r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod er mwyn iddynt wneud sylwadau a rhoi adborth, cyn i'r mater gael ei ystyried eto yng nghyfarfod mis Medi y PTG.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad a gylchredwyd a'r cyflwyniad a roddwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Dywedodd, os yw amser yn caniatáu, y gellid cynnal gweithdy neu gyfarfod anffurfiol cyn cyfarfod mis Medi i drafod a choladu ymatebion i'r cynllun drafft.

 

14.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 135 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynllun gwaith.   

 

Penderfynwyd nodi’r cynllun gwaith ar gyfer 2023-2024.