Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datganiadau o fuddiannau.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

17.

Cyflwyniad - Cymdeithas 'National Landscapes' - Ailfrandio'r AoHNEau yng Nghymru. (Ruth Colebridge / John Watkins)

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd John Watkins, Cymdeithas Tirweddau Cenedlaethol, gyflwyniad manwl a llawn gwybodaeth i'r Grŵp Cynghori ynghylch ail-frandio AoHNE yng Nghymru.  Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

·       Pam nawr? Yr hyn rydym yn gobeithio ei gyflawni.

·       Adeg dyngedfennol ar gyfer natur a’r hinsawdd.

·       Estyn croeso cynnes i bawb.

·       Ein gweledigaeth - tirweddau hardd, ffyniannus rydym i gyd yn teimlo'n rhan ohonynt.

·       Ein cenhadaeth - gwarchod ac adfywio ein tirweddau a gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu eu mwynhau.

·       Egwyddorion ein brand – dod â phobl at ei gilydd; parhau i symud ymlaen; manteisio ar y daith; gwrando ac ehangu.

·       Bydd cael hunaniaeth fwy unedig ar draws y rhwydwaith yn dangos yn well ein maint ar y cyd, ein huchelgais, ein heffaith ac yn creu cydnabyddiaeth ar lawr gwlad i ymwelwyr.

·       Mewn rhai grwpiau oedran, mae pobl yn ymwybodol o ddwywaith cymaint o barciau cenedlaethol nag y maent o AoHNE.

·       Cyfle i adeiladu teulu cyson o frandiau.

·       Brandio - creu eiconau ar gyfer AoHNE er mwyn cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol, gan greu hunaniaeth weledol.

 

Cyfeiriodd yn gadarnhaol hefyd at ail-lansio AoHNE i Dirweddau Cenedlaethol yn Lloegr y llynedd ac at ei ymweliad diweddar â phenrhyn Gŵyr, lle cyfarfu â Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

Cafwyd trafodaeth faith ar gynnwys y cyflwyniad, yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer yr AoHNE, cydweithio, dewisiadau Llywodraeth Cymru, goblygiadau peidio â dod yn Dirwedd Genedlaethol i'r AoHNE a manteision dod yn Dirwedd Genedlaethol.

 

Dywedodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, y byddai adroddiad yn crynhoi sylwadau ac ymatebion aelodau’r Grŵp Cynghori yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp Cynghori ar 26 Chwefror 2024.  Ychwanegodd, yn seiliedig ar y sylwadau hynny a thrafodaeth bellach yn y cyfarfod hwnnw, y byddai adroddiad ac argymhellion yn cael eu cyflwyno i Gyngor Abertawe. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Tirweddau Cenedlaethol am ei gyflwyniad.