Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636016 

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Datganiadau o fuddiannau.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

19.

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi Cofnodion Cyfarfod Grŵp Cynghori

AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 25 Medi 2023 a 29 Ionawr 2024 fel cofnod

cywir.

20.

Adroddiadau a Diweddariadau am Brosiectau. pdf eicon PDF 239 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru 'er gwybodaeth' ar y cynnydd a wnaed gan Dîm AoHNE Gŵyr ers y cyfarfod diwethaf, ar y meysydd canlynol: -

·       Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr.

·       Cyfryngau Cymdeithasol.

·       Prosiectau Gwrychoedd.

·       Statws Cymunedol Awyr Dywyll Gŵyr.

·       Awyr Dywyll - prosiectau ôl-osod.

·       Twyni Porth Einon.

·       Eglwys y Santes Fair, Llan-y-tair-mair (Knelston).

·       Capel Backingstone.

·       Problemau parcio.

·       Castell Pennard.

·       Rhaglen Adfer Natur Gŵyr.

·       Mannau Addoli Gŵyr.

·       Parc Gwledig Dyffryn Clun

·       Arian grant.

21.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy - Crynodeb Ariannol. pdf eicon PDF 111 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'.

Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy o £100,000 ar gyfer 2023/24.  Hyd yn hyn, roedd cyllid wedi'i neilltuo i 20 o brosiectau, gyda chais arall ar y gweill ar hyn o bryd. Roedd un prosiect wedi adrodd nad oedd yn gallu parhau, a bod y cyllid wedi cael ei ddychwelyd, ac roedd dau arall wedi tynnu'n ôl yn ystod y cam cyflwyno cais.

Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000.

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£100,000

Cronfeydd Neilltuedig

£96,282

Cronfeydd heb eu Neilltuo

£3,718

Ceisiadau ar waith

£2,000

Ychwanegwyd bod cyfarfod nesaf Panel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy wedi'i drefnu ar gyfer 15 Mawrth 2024.

Roedd cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy o £100,000 ar gyfer 2024/25 wedi'i chadarnhau gan Lywodraeth Cymru, ac roedd rhan helaeth ohoni eisoes wedi'i neilltuo, gyda £3,000 heb ei neilltuo ar hyn o bryd.

22.

Bwyd a Chymunedau.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd Josh Pike, Summit Good, gyflwyniad manwl ac addysgiadol am Summit Good, sef Menter Gymdeithasol yn Abertawe a sefydlwyd fel Cwmni Buddiannau Cymunedol.  Esboniwyd bod y fenter yn cynnwys grŵp o ffrindiau a oedd yn ceisio gweithredu er gwell. Darparwyd y manylion canlynol:- -

·       Mae cyfleusterau ar gael ar safle Killan Road, gan gynnwys y Men's/Women's Shed.

·       Dulliau a ddefnyddir ar gyfer tyfu, a'r eitemau sy'n cael eu tyfu ar y safle.

·       Y cynllun Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned sy'n cael ei redeg ar y safle a sut y mae'n cael ei drefnu.

·       Y grwpiau / unigolion / plant sy'n defnyddio'r cyfleusterau.

·       Prynu a defnyddio tir ychwanegol ger y safle.

·       Sicrhau nad oedd y prosiectau'n canolbwyntio ar wneud elw a'u bod felly'n ymwneud â garddwriaeth a'r gymuned leol.

Gofynnodd y Grŵp Cynghori nifer o gwestiynau, yr ymatebwyd iddynt gan y cynrychiolydd Summit Good, a diolchodd y Cadeirydd iddo am ddarparu'r cyflwyniad.

23.

Cynigion Ailfrandio'r AoHNE. pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn ceisio barn y Grŵp Cynghori mewn perthynas â Chynigion Ailfrandio'r AoHNE.

Amlinellwyd bod y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol (y Gymdeithas AoHNEau Cenedlaethol gynt) yn Lloegr wedi bod yn gweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i ddatblygu cynigion i atgyfnerthu'r ymrwymiad i amddiffyn Ardaloedd o Dreftadaeth Naturiol Eithriadol - eu treftadaeth naturiol a diwylliannol, ac i lansio targedau uchelgeisiol sy’n mynd i'r afael â nodau'r teulu AoHNE. Y bwriad oedd codi proffil y tirweddau hyn er mwyn eu hamddiffyn ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau y gall pawb eu mwynhau. Mae'r cynigion, sydd eisoes wedi cael eu mabwysiadu yn Lloegr, yn cynnwys: -

·       Adnabod yr AoHNEau fel Tirweddau Cenedlaethol.

·       Ailymrwymo i amddiffyn y tirweddau gwerthfawr hyn - eu treftadaeth naturiol a diwylliannol.

·       Sicrhau y gall pawb fwynhau'r tirweddau hyn.

Ychwanegwyd bod yr AoHNEau yng Nghymru wedi cael y cyfle i fabwysiadu'r cynigion cyn y cynhelir digwyddiad dathliadol yn y Senedd ym mis Ebrill, a fyddai'n nodi pen-blwydd y ddeddfwriaeth carreg filltir yn 75oed, sy'n nodi sefydliad yr AoHNEau - Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.

Amlinellwyd ymhellach, oherwydd y gwaith a wnaed gan National Landscapes yn Lloegr, y byddai'r costau o fabwysiadu'r newidiadau yn isel - roedd logo drafft yn gynwysedig yn y gwaith dylunio a ariannwyd gan DEFRA, pe bai'r cynigion yn cael eu mabwysiadu. Er bod y cynigion yn canolbwyntio ar AoHNEau yn Lloegr yn wreiddiol, byddai eu mabwysiadu nhw yng Nghymru yn arwain at y buddion canlynol ar gyfer y 4 AoHNE yng Nghymru: -

·       Helpu i wellau'n proffil cyhoeddus.

·       Pwysleisio'r rhan maent yn ei chwarae mewn teulu cenedlaethol o dirweddau a warchodir, wrth gadw eu hunaniaethau unigol.

·       Pwysleisio'u pwysigrwydd wrth ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd.

·       Helpu i feithrin perthnasoedd cryf a chynhwysol.

Mae'r cynigion yn cefnogi blaenoriaethau corfforaethol Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe, gan sicrhau bod AoHNE Gŵyr yn aros yn berthnasol ac yn ganolog i gamau gweithredu ar argyfyngau natur a hinsawdd yn y dyfodol, yn ogystal ag anghenion ein tirweddau a'n cymunedau. Cefnogwyd y cynigion ailfrandio gan ganllawiau brand, sy'n nodi hunaniaeth gweledol a thôn llais, gan sicrhau bod yr holl Dirweddau Cenedlaethol yn cael eu cydnabod fel rhan o deulu cenedlaethol cryf, sy'n rhannu'r un gwerthoedd.

Briffiwyd AoHNE Gŵyr ar y cynigion gan John Watkins (Prif Weithredwr NLA) ar 29 Ionawr 2024, gyda thrafodaeth yn dilyn y cyflwyniad.

Gofynnwyd i aelodau'r Grŵp Cynghori gyflwyno ymatebion ysgrifenedig i'r cynigion, a darparwyd y rhain yn Atodiad A.

Cafwyd trafodaeth faith ar gynnwys y adrodd, yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer yr AoHNE, cydweithio, dewisiadau Llywodraeth Cymru, goblygiadau peidio â dod yn Dirwedd Genedlaethol i'r AoHNE a manteision dod yn Dirwedd Genedlaethol.

Penderfynwyd y bydd Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr yn argymell bod y Cynigion Ailfrandio AoHNE yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor.

24.

Digwyddiad dathliadol - Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. pdf eicon PDF 205 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Adroddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, 'er gwybodaeth' fod y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad dathliadol yn y Senedd ar 24 Ebrill 2024, wedi'i gyflwyno gan Julie James AS, Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd.

Byddai hyn yn nodi pen-blwydd y Ddeddf Mynediad i Gefn Gwlad, a oedd wedi sefydlu'r Parciau Cenedlaethol a'r AoHNEau, yn 70 oed. Gwahoddwyd AoHNE Gŵyr i fod yn bresennol, ac i gynnwys partneriaid y prosiect er mwyn arddangos yr effaith rydym yn ei chael ar ein tirweddau a'n cymunedau, fel rhan o'r dathliadau.

25.

TAaCh ac Argyfyngau Natur a'r Hinsawdd.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Mike Scott, AoHNE Gŵyr, at yr hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad ac Argyfyngau Natur a Hinsawdd diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd bod dolen ar gyfer recordiadau o'r hyfforddiant wedi cael ei dosbarthu a'i bod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd fod y Grŵp Cynghori wedi gofyn am drafodaethau pellach ar y ddau bwnc.

Penderfynwyd trefnu sesiwn gweithdy wyneb yn wyneb yn unig i drafod y ddau bwnc.