Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datganiadau o fuddiannau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

8.

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. pdf eicon PDF 337 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd bod cofnodion Cyfarfod Grŵp Cynghori AHNE Gŵyr yn cael eu cynnal ar 26 Mehefin 2023 gael ei gymeradwyo a'i lofnodi fel cofnod cywir.

9.

Cynhadledd Genedlaethol Flynyddol Cymdeithas Genedlaethol AoHNE.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, a Clive Scott adroddiad llafar i'r grŵp ynghylch Cynhadledd Genedlaethol Flynyddol Cymdeithas Genedlaethol AoHNE yr aethant iddi'n ddiweddar ym Mhrifysgol Caerfaddon. 

 

Amlygwyd bod y gynhadledd yn ddigwyddiad ardderchog, wedi'i drefnu'n dda a oedd yn cynnig amrywiaeth gwych o ddarlithoedd/gyfarfodydd, gan gynnwys grwpiau allanol ac roedd yn addysgiadol iawn. 

 

Ychwanegwyd bod y digwyddiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn ac anogwyd aelodau'r grŵp i fynd i'r digwyddiad yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

10.

Brandio Cymdeithas Genedlaethol AoHNE.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Hysbysodd Swyddog AoHNE Gŵyr y grŵp ar lafar fod Cymdeithas Genedlaethol AoHNE yn trafod ailfrandio sylweddol er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd yn Adolygiad Glover.  Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â chynhwysiant a gweithio gyda chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gwell cyfathrebu, darparu delwedd fwy unedig, ceisio cyflawni proffil lefel uwch a mwy o gydnabyddiaeth o'u cyfraniad at agendâu adfer natur a newid yn yr hinsawdd. 

 

Ychwanegodd fod AoHNE Lloegr ychydig ar y blaen i Gymru, a bod disgwyl i Weinidog Cymru wneud datganiad ym mis Tachwedd 2023.  Yn ogystal roedd hefyd yn ymwneud â chyfathrebu/gwedd gyhoeddus, gan esbonio rolau AoHNE.

 

Darperir diweddariad mwy manwl yn y cyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys y diweddariad.

11.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Hysbysodd Swyddog AoHNE Gŵyr y grŵp ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd.  Eglurwyd y byddai'r broses yn un hir ac er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp, darparwyd cyflwyniad ar Adolygiad a Chynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Abertawe.

 

Eglurwyd bod angen cynnal adolygiad ffurfiol statudol bob 4 blynedd ar gyfer CDLl Abertawe, a fabwysiadwyd yn 2019, a bod y CDLl newydd yn dechrau yn awr. Amlygwyd cynnydd a chamau allweddol y broses a nodwyd bod y cyfnod ar gyfer cyflwyno safleoedd ymgeisiol i’w datblygu ar agor ar hyn o bryd, hyd at 31 Hydref 2023.

 

Holwyd a allai'r grŵp wneud sylwadau fel corff ar unrhyw safleoedd ymgeisiol o fewn yr AoHNE.  Cadarnhawyd bod unigolion yn gallu gwneud sylwadau ar safleoedd a byddai'r swyddog yn egluro a allai'r grŵp wneud sylwadau.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    gofynnir am eglurhad gan y Tîm Cynllunio Strategol ynghylch a allai'r grŵp roi sylwadau ar safleoedd o fewn yr AoHNE.

12.

Adroddiad am Dîm AoHNE Gwyr. pdf eicon PDF 211 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Paul Meller, Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol, Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr ac Ursula Jones, Swyddog y Prosiect Cymunedau a Natur, adroddiad diweddaru ‘er gwybodaeth’ ar y cynnydd a wnaed gan Dîm AoHNE Gŵyr ers y cyfarfod blaenorol, ar y meysydd canlynol: -

 

·       Sioe Gŵyr

·       Cais Cymuned Awyr Dywyll Gŵyr

·       Awyr Dywyll Gŵyr - Prosiectau Ôl-osod twyni tywod Porth Einon

·       Treftadaeth adeiledig

·       Comin Fairwood

·       Castell Pennard

·       Mannau Addoli Gŵyr

·       Parc Gwledig Dyffryn Clun

·       Canclwm Japan Parkmill

·       Panel y CDC

·       Grŵp Cynghori AoHNE

·       Ailfrandio CGAoHNE

·       Staffio Tîm AoHNE

 

Nodwyd y byddai “Swyddog Natur a Chymunedau AoHNE” yn dechrau ym mis Hydref 2023, fel trydydd aelod o staff y tîm AoHNE, gan alluogi i fwy o waith prosiect gael ei wneud. Roedd y gwaith o ailstrwythuro Adran yr Amgylchedd Naturiol yn parhau.

 

Nodwyd hefyd y byddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymweld â Pharc Gwledig Dyffryn Clun ar 9 Hydref 2023.  Byddai’r Cadeirydd, Paul Meller, Mike Scott, Ursula Jones a Barbara Parry yn cwrdd â’r Gweinidog i amlinellu’r gwaith a gwblhawyd yn y parc a chyfleoedd ariannu.

13.

Crynodeb Ariannol y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 111 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'.

Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy o £100,000 ar gyfer 2023/24.    

Hyd yn hyn, roedd cyllid wedi'i ymrwymo i 18 o brosiectau, gyda 4 cais arall ar y gweill ar hyn o bryd. Roedd un prosiect wedi adrodd nad oedd yn gallu bwrw ymlaen, a dychwelwyd yr arian, gydag ail brosiect yn annhebygol o fynd ymlaen.

Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000.

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£100,000

Cronfeydd Neilltuedig

£79,932.10

Cronfeydd heb eu Neilltuo

£23,067.90

Ceisiadau ar waith

£20,100

 

14.

Grwp Cynghori AHNE Gwyr - Newidiadau i Aelodaeth. pdf eicon PDF 202 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn amlinellu bod Anthony Thomas wedi ymddiswyddo o'r grŵp ers y cyfarfod diwethaf, gan adael swydd wag ar gyfer Grŵp Cynghori AoHNE.

 

Ychwanegwyd nad oedd gan y Grŵp Cynghori lais archaeolegol, ac am y 6 mis diwethaf roedd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent (GGAT) arsylwr fel aelod o'r grŵp, sef Judith Doyle, Swyddog Stiwardiaeth, yn ogystal â’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol.

 

Cynigiwyd bod Judith Doyle yn cael ei hethol i'r grŵp fel cynrychiolydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent/archaeoleg/treftadaeth. 

 

Penderfynwyd ethol Judith Doyle, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent, yn aelod o'r Grŵp Cynghori.

15.

Fformat Cyfarfodydd y Dyfodol - Trafod Fformat Cyfarfodydd y Dyfodol.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Amlygodd Swyddog AoHNE Gŵyr yr angen i sicrhau cynhyrchiant a budd cyfarfodydd y dyfodol ac i'r grŵp fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn yr AoHNE.

 

Ychwanegodd mai dim ond y Tîm AoHNE oedd wedi darparu adroddiadau mewn cyfarfodydd diweddar a chynigiwyd bod aelodau'r grŵp yn darparu adroddiadau diweddaru yng nghyfarfodydd y dyfodol, ar ran y corff y maent yn ei gynrychioli neu fel unigolion.

 

Yn ogystal, cynigiodd fod pob cyfarfod yn derbyn cyflwyniad ar bwnc perthnasol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth.

 

Cynigiodd Barbara Parry fod cyflwyniad yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gynhyrchu/amrywiaeth bwyd ym Mhenrhyn Gŵyr.

 

Ychwanegwyd ymhellach y disgwylir cyfleoedd hyfforddi gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynwysoldeb ac adfer natur.  Byddai manylion yn cael eu dosbarthu ar ôl eu derbyn.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Darparu cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gynhyrchu/amrywiaeth bwyd ym Mhenrhyn Gŵyr.

3)    Aelodau'r grŵp i ddarparu adroddiadau diweddaru i gyfarfodydd y dyfodol.

4)    Bydd manylion y cyfleoedd hyfforddi yn cael eu dosbarthu unwaith y byddant wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru.