Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Ethol cadeirydd ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig 2022 - 2023.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol Barbara Parry yn Is-gadeirydd ar gyfer y Grŵp Cynghori am weddill blwyddyn ddinesig 2022-2023.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Barbara Parry yn Is-gadeirydd ar gyfer y Grŵp Cynghori am weddill blwyddyn ddinesig 2022-2023.

6.

Datganiadau o fuddiannau.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

7.

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. pdf eicon PDF 222 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Grwp Cynghori

AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023 fel cofnod cywir.

8.

Cylch Gorchwyl. pdf eicon PDF 163 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr ‘er gwybodaeth’.

9.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy - Penodi Paneli. pdf eicon PDF 217 KB

Penderfyniad:

Penderfynwyd:   -

1)    ethol y canlynol fel aelodau'r Panel Cronfa Datblygu Cynaliadwy: -

·       Y Cynghorydd Paul Lloyd (Cadeirydd)

·       Y Cynghorydd Andrew Stevens

·       Y Cynghorydd Lynda James

·       Y Cynghorydd Sara Keeton

·       David Cole

·       John France

·       Cari Jones

·       Francis Morgan

2)    ethol y canlynol fel aelodau Panel Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy: -

 

·       Barbara Parry (Cadeirydd)

·       Y Cynghorydd David Hopkins

·       Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams

·       Hamish Osborn

·       Peter Lanfear

·       Clive Scott

·       Anthony Thomas

·       Judith Doyle

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn gofyn am benodi aelodaeth i Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) a’r Panel Apeliadau.

Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid blynyddol ar gyfer cynllun grant y CDC (£100,000 y flwyddyn ar hyn o bryd).  Rheolir y cynllun yn lleol gan Dîm AoHNE Gŵyr, gyda phanel grantiau a phanel apeliadau i ystyried a chymeradwyo ceisiadau grant.

Mae’r Panel CDC a Phanel Apeliadau'r CDC yn cael eu penodi gan Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr, y mae gan bob un 8 aelod, fel y nodir yn y ddogfen Cylch Gorchwyl.

Nodwyd sylwadau Carrie Townsend Jones mewn perthynas ag aelodaeth Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.  Eglurwyd bod Cynghorwyr yn cael eu penodi yng Nghyfarfod Blynyddol y cyngor a bod yn rhaid i'r cyngor gytuno ar unrhyw newidiadau i'w haelodaeth.

Penderfynwyd:   -

1)    ethol y canlynol fel aelodau'r Panel Cronfa Datblygu Cynaliadwy: -

·         Y Cynghorydd Paul Lloyd (Cadeirydd)

·         Y Cynghorydd Andrew Stevens

·         Y Cynghorydd Lynda James

·         Y Cynghorydd Sara Keeton

·         David Cole

·         John France

·         Cari Jones

·         Francis Morgan

2)    ethol y canlynol fel aelodau Panel Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy: -

 

·         Barbara Parry (Cadeirydd)

·         Y Cynghorydd David Hopkins

·         Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams

·         Hamish Osborn

·         Peter Lanfear

·         Clive Scott

·         Anthony Thomas

·         Judith Doyle

10.

Crynodeb Ariannol y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. pdf eicon PDF 107 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'.

Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb CDC ar gyfer 2022/23 sef £100,000.

Hyd yma, mae 11 o brosiectau wedi’u cefnogi, gyda £54,378 wedi'i neilltuo.  Roedd 8 cais arall ar waith, yn gofyn am £45,622.

Pe bai'r rhain yn cael eu cymeradwyo, byddai hyn yn neilltuo'r cyllid yn llawn ar gyfer 2022/23.

Ychwanegwyd bod ffigwr y cronfeydd neilltuedig yn cynnwys Ffi Rheoli DASA o £10,000.

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£100,000

Cronfeydd Neilltuedig

£54,378

Cronfeydd heb eu Neilltuo

£45,622

Ceisiadau ar waith

£45,622

Byddai adroddiad manwl yn cael ei lunio ar ôl mis Ebrill a'i ddosbarthu i aelodau'r Grŵp Cynghori, gan dynnu sylw at y gwaith a wnaed gan y prosiectau a gefnogwyd.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gyllideb o £100,000 ar gyfer 2023/24

Penodwyd Panel Grantiau CDC newydd a byddai’n cyfarfod ar 27 Chwefror 2023.

11.

Diweddariad ar Raglen Waith AHNE Gwyr. pdf eicon PDF 252 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Paul Meller, Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith tîm AoHNE Gŵyr ers cyfarfod diwethaf y Grŵp Llywio ym mis Mawrth 2022. 

 

Ychwanegwyd y byddai adroddiadau diweddaru manylach yn dilyn maes o law wrth i waith prosiect fynd rhagddo.  Rhagwelwyd y byddai is-grwpiau y Grŵp Cynghori yn cael eu sefydlu i weithio gyda Thîm AoHNE Gŵyr i helpu i ddatblygu'r rhain a phrosiectau eraill/Camau Gweithredu Cynllun Rheoli AoHNE fel y bo'n briodol. 

 

Roedd yr adroddiad yn darparu manylion ynghylch y meysydd canlynol: -

 

·         Cylch Gorchwyl newydd ar gyfer y Grŵp Cynghori AoHNE.

·         Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr.

·         Mapio Asesiad Sylfaen Cadernid Ecosystemau Lleol ar gyfer Abertawe.

·         Asesiad Sylfaen ar Garbon ym Mhenrhyn Gŵyr (gweithio tuag at gyflawni Sero Net)

·         Awyr Dywyll Gŵyr

·         Seminar Tirweddau Cymru yn Down to Earth, Cilybion, Gŵyr 9/10 Mawrth 2023.

·         Parc Gwledig Dyffryn Clun

·         Datblygiad glannau Porth Einon

·         Twyni Tywod Porth Einon - Asesiad Geomorffaidd a Rheoli Opsiynau Arfarnu

·         Gwaith Archaeoleg a Henebion cofrestredig (amrywiol).

·         Gwaith prosiect arall sy’n parhau – Mannau Addoli Gŵyr / Comin Fairwood / Cefn Bryn / Prosiect Waliau Sych Gŵyr.

·         Diweddariad am gyllid grant.

 

Ychwanegodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr y byddai'r Grŵp Cynghori yn cael diweddariadau rheolaidd rhwng cyfarfodydd.

 

Gofynnodd y Grŵp Llywio i gyfarfodydd y dyfodol gychwyn am 6.30pm.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad.