Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

Cofnodion:

Datganodd Terry Hennegan, Sam Bennett a Rebecca Fogarty gysylltiadau personol.

30.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

31.

Cofnodion pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Chwefror ac 1 Mawrth 2023 yn gofnod cywir.

32.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

33.

Tai Cyngor, Gwarchod y Cyhoedd a Thipio Anghyfreithlon pdf eicon PDF 372 KB

Invited to attend:

Aaelod Cabinet Andrea Lewis

Aaelod Cabinet Cyril Anderson

Cyfarwyddwr Lle Mark Wade

Tai: Carol Morgan and Judith Williams

Gwarchod y Cyhoedd: Tom Price and Paula Livingstone

Tipio anghyfreithlon: Chris Howells

 

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Aelodau’r Cabinet Andrea Lewis, Cyril Anderson ac Alyson Pugh a swyddogion am ddod i gyfarfod y panel ac am ddarparu a chyflwyno adroddiad a oedd yn mynd i'r afael â chyfres allweddol o gwestiynau a anfonwyd atynt ymlaen llaw, o safbwynt gwasanaethau Tai'r Cyngor, Iechyd y Cyhoedd a Thipio Anghyfreithlon.

 

Bydd yr adroddiad a gyflwynwyd gan y gwasanaethau hyn a'r nodiadau llawn a gymerwyd o'r drafodaeth hon yn llunio rhan o Adroddiad Canfyddiadau'r Ymchwiliad.  Bydd yr Adroddiad Canfyddiadau'n cael ei gyflwyno i'r Panel eto ar ddiwedd cam casglu tystiolaeth yr ymchwiliad.  Yna caiff tystiolaeth heddiw ei hystyried ynghyd â'r holl dystiolaeth arall a gasglwyd pan fydd y Panel yn cwrdd i drafod a llunio casgliadau ac argymhellion yr ymchwiliad i'r Cabinet.

34.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 13 Ebrill am 10.30am a bydd gyda Chymdeithasau Tai sy'n gweithredu yn Abertawe.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am