Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan
ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n
cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n
bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i
eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd a oedd yn ymwneud ag agenda heddiw. |
|
Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a Evolve PDF 395 KB Aelod Cabinet Louise Gibbard Aelod Cabinet Hayley Gwilliam Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Julie Davies a swyddogion perthnasol Cofnodion: Diolchodd y Panel
i Aelodau'r Cabinet, Hayley Gwilliam, Louise Gibbard ac Alyson Pugh, a
swyddogion am ddarparu a chyflwyno adroddiad a oedd yn mynd i'r afael â chyfres
allweddol o gwestiynau, a anfonwyd atynt ymlaen llaw, o safbwynt y Timau
Cyfiawnder Ieuenctid, Evolve a Choll, Camfanteisio a Masnachu Cyd-destunol. Bydd yr adroddiad
a gyflwynwyd gan y gwasanaethau hyn a'r nodiadau llawn a gymerwyd o'r
drafodaeth hon yn llunio rhan o Adroddiad Canfyddiadau'r Ymchwiliad. Bydd yr Adroddiad Canfyddiadau'n cael ei gyflwyno
i'r Panel eto ar ddiwedd cam casglu tystiolaeth yr ymchwiliad. Yna caiff tystiolaeth heddiw ei hystyried
ynghyd â'r holl dystiolaeth arall a gasglwyd pan fydd y Panel yn cwrdd i drafod
a llunio casgliadau ac argymhellion yr ymchwiliad i'r Cabinet. |
|
Cofnodion: Nododd y panel y
rhaglen waith. Daeth y cyfarfod i ben am 11.35am. |