Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

13.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

14.

Cofnodion pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion.

15.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

16.

Yr Heddlu a Phlismona Cymunedol pdf eicon PDF 137 KB

Yn cael eu gwahodd i fynychu mae:

Chief Inspector Mark Brier (Uned Reoli Sylfaenol ac Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) and Hayley Griffiths (Rheolwr Heddlu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol)

 

Bydd hefyd yn bresennol Cabinet Member Hayley Gwilliam, Gareth Pritchard (Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) and Paul Thomas (Gwydnwch)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i'r Prif Arolygydd Mark Brier a Hayley Griffiths, Rheolwr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr Heddlu am ddod i gyfarfod y Panel ac am ddarparu a chyflwyno adroddiad a oedd yn mynd i'r afael â'r set allweddol o gwestiynau a anfonwyd iddynt ymlaen llaw, o safbwynt Heddlu De Cymru.

 

Bydd yr adroddiad a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru a'r nodiadau llawn a gymerwyd o'r drafodaeth hon yn llunio rhan o Adroddiad Canfyddiadau'r Ymchwiliad. Bydd yr Adroddiad Canfyddiadau'n cael ei gyflwyno i'r Panel eto ar ddiwedd cam casglu tystiolaeth yr ymchwiliad. Yna caiff tystiolaeth heddiw ei hystyried ynghyd â'r holl dystiolaeth arall a gasglwyd pan fydd y Panel yn cwrdd i drafod a llunio casgliadau ac argymhellion yr ymchwiliad i'r Cabinet.

17.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Prosiect yr Ymchwiliad a dyddiad y cyfarfod nesaf sef 27 Chwefror 2023 am 10.00am.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.30pm