Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Derbyniwyd y cofnodion gan y panel. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan
ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n
cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n
bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i
eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cynhwysiad Cymunedol, Diogelwch Cymunedol a Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol PDF 389 KB Cllr Alyson Pugh (Cabinet Member for Wellbeing) Dave Howes (Director of Social Services) Jane Whitmore (Strategic Lead Commissioner Social Services) Paul Thomas (Community Integration Partnership Manager) Gareth Pritchard (Anti-Social Behaviour Officer) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y panel
i Aelod y Cabinet dros Les a Swyddogion am ddarparu adroddiad manwl ac am fod
yn bresennol yn y cyfarfod i'w gyflwyno ac i ateb cwestiynau. Roedd yr
adroddiad a'r drafodaeth yn edrych ar y set allweddol o gwestiynau y cytunodd
gan y panel i fynd i’r afael â nhw gyda phob gwasanaeth/sefydliad ar ddechrau'r
ymchwiliad. Bydd yr adroddiad a'r nodiadau llawn o'r drafodaeth yn ffurfio rhan o Adroddiad Canfyddiadau'r Ymchwiliad a chyflwynir hyn i'r Panel ar ddiwedd cam casglu tystiolaeth yr ymchwiliad. Yna caiff ei ystyried ochr yn ochr â'r holl dystiolaeth a gasglwyd pan drafodir casgliadau ac argymhellion yr ymchwiliad. |
|
Cofnodion: Nododd y panel y
rhaglen waith. Cynhelir y cyfarfod nesaf gyda Heddlu De Cymru ar 2 Chwefror am
2pm. Daeth y cyfarfod
i ben am 3.30pm |