Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny Officer 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

44.

Ymddiheuriadau am absenoldeb pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

None

45.

Datganiad o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

46.

Cofnodion a Llythyr(au) yn deillio o'r cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cofnodion a’r llythyr a oedd yn codi o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2024.

47.

Edrych ar Berfformiad Blaenoriaeth 4 Partneriaeth - Darparu llwybrau gyrfa ar gyfer arweinwyr, ymarferwyr a staff cymorth ar bob lefel o'r system. pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd grŵp y cynghorwyr fel rhan o'u rhaglen waith i edrych ar berfformiad un o bedair blaenoriaeth gwahanol Partneriaeth ym mhob cyfarfod.  Felly croesawodd grŵp y cynghorwyr Rob Phillips, sef Ymgynghorydd Strategol Partneriaeth a Matthew Stonham o Ysgol Gynradd Tycroes i’r cyfarfod.  Amlinellwyd y cynnydd a wnaed ganddynt o ran blaenoriaeth pedwar: Darparu llwybrau gyrfa ar gyfer arweinwyr, ymarferwyr a staff cymorth ar bob lefel o’r system.  Trafodwyd y meysydd canlynol:

 

       Llwybrau Dysgu Cynorthwywyr Addysgu

       Athrawon Newydd Gymhwyso (ANGau)

       Rhaglen Datblygu Arweinwyr Canol

       Rhaglen Datblygu Uwch-arweinwyr

       Rhaglen Datblygu Darpar Arweinwyr

 

Cododd grŵp y cynghorwyr y pwyntiau a ganlyn:

       Gwnaethant ddiolch i Rob Phillips a Matthew Stonham am eu diweddariad ysbrydoledig ar y flaenoriaeth hon.

       A oes llwybr i gynorthwywyr addysgu ddod yn athrawon cymwysedig?  Eglurwyd nad oes modd iddynt astudio’r cwrs TAR heb radd.  Sut ydym yn gallu denu’r rhai sy'n dyheu am fod yn athrawon y dyfodol?

Clywodd y panel nad yw’r sefyllfa ariannol y mae awdurdodau lleol, ysgolion a phawb arall yn ei hwynebu ar hyn o bryd yn argoeli’n dda ar gyfer hyn ar hyn o bryd. Mae cymwysterau cynorthwywyr addysgu lefel uwch yn cyfrif fel achrediad tuag at radd, ond cytunwyd y byddai'n dda denu mwy o'r rhai sydd awydd bod yn athrawon.

       Cytunodd y grŵp ei bod yn rhaglen ragorol a gofynnodd a oedd yr hyfforddiant yn digwydd yn ystod y diwrnod ysgol, neu’n ychwanegol iddo, ac a oes problem o ran cyflenwi athrawon pan fydd athro yn dymuno cael yr hyfforddiant?

Dywedwyd wrthynt fod yr hyfforddiant yn digwydd yn bennaf yn ystod y diwrnod ysgol. O ran cyflenwi athrawon, clywsant y gallai fod yn broblem yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ac mae hyn yn wir ar gyfer cyflenwi cynorthwywyr addysgu hefyd. Gall hefyd fod yn fater sy’n creu gwrthdaro ar adegau. Gall hyd yn oed y rhai sydd ar y rhaglen darpar benaethiaid benderfynu drostynt eu hunain i ymuno â’r rhaglen, ond efallai nid yw’r ysgol yn cytuno, neu mae pethau'n codi yn yr ysgol, ac oherwydd hyn, nid oes modd iddynt ymuno â’r rhaglen. Mae'r sesiynau'n cael eu recordio fel eu bod ar gael i wylio ar unrhyw adeg, ond nid yw hyn gystal â bod yn bresennol ar y pryd/diwrnod.

       A oes unrhyw dystiolaeth o bobl sydd mewn sefyllfa lle nad ydynt yn gallu gwneud cynnydd yn eu gyrfa oherwydd nad ydynt wedi gallu cael lle ar y cyrsiau hyn oherwydd nad oes athrawon cyflenwi, ac ati?

Dywedwyd wrth y grŵp na fu unrhyw ymchwil penodol sydd wedi gallu nodi unrhyw dueddiadau o’r fath. Clywir am achosion unigol lle mae pobl wedi dweud bod cymaint yn digwydd yn yr ysgol fel nad oes modd iddynt ymgymryd â’r rhaglen honno ar yr adeg benodol hon. Weithiau maent yn ymuno â'r rhaglen yn ddiweddarach.

 

48.

Cadeirydd y Cyd-bwyllgor a Chyfarwyddwyr o bob un o'r Cynghorau pdf eicon PDF 118 KB

The Legal agreement states that Directors of Education of each of the Councils shall all attend together and that the Chair of Joint Committee shall attend, at least once per annum.  With purpose of seeking reassurance and to consider if the Partneriaeth is operating according to the Legal Agreement, its Business Plan and that its timetable is being managed effectively.  This will done as follows:

 

1.    Chair of the Partneriaeth Joint Committee to give a view on how he believes things are going and then to discuss and provide reassurance that Partneriaeth is operating according to the Legal Agreement, its Business Plan and that its timetable is being managed effectively.

2.    Director from each local authority to give views on how it is going for their Council, what they are finding the key challenges and to seek reassurance from each council that they believe Partneriaeth is operating according to the Legal Agreement, its Business Plan and that its timetable is being managed effectively.

Cofnodion:

Mae'r cytundeb cyfreithiol yn nodi y dylai’r holl gyfarwyddwyr addysg o bob un o'r cynghorau fod yn bresennol gyda'i gilydd a dylai cadeirydd y cyd-bwyllgor fod yn bresennol, o leiaf unwaith y flwyddyn.  Er mwyn ceisio sicrwydd ac ystyried a yw Partneriaeth yn gweithredu yn unol â'r cytundeb cyfreithiol, ei chynllun busnes a bod ei amserlen yn cael ei rheoli'n effeithiol gwnaed y canlynol:

 

1.     Rhoddodd Cadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth ei farn ar sut mae pethau’n mynd yn eu blaen. Croesawodd grŵp y cynghorwyr Glynog Davies. 

 

Yna, amlinellodd ei farn fel a ganlyn:

·       Mae angen arweinyddiaeth gref ar draws y rhanbarth ac rydym yn gwerthfawrogi'r rhaglen hon a hyrwyddo'r gwaith hwn. Byddwn yn annog pob ymarferwr i ymwneud ag un o'r rhaglenni hyn.

·       Mae’n bwysig sylweddoli bod Partneriaeth yn dal yn gymharol newydd ac ar daith. 

·       Rwy’n hapus ac yn hyderus bod yr hyn sy’n digwydd yn cyd-fynd â’r cynllun busnes a’r cytundeb cyfreithiol a’i fod yn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng y tri chyngor.

 

Gofynnodd grŵp y cynghorwyr:

·       A ydym yn mynd ag athrawon gyda ni ar y daith hon i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?

­   Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn gwricwlwm diddorol iawn, ond yn y gorffennol rhoddwyd cynllun i athrawon ei ddilyn. Mae mor wahanol yn awr, ond rwy’n cael adroddiadau rhagorol.

­   Dywedodd Gareth Morgans (Sir Benfro) ei fod yn cael adborth rheolaidd oherwydd y berthynas waith agos rhwng ei swyddogion a swyddogion Partneriaeth. Mae hyn wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf a chanlyniad hyn yw bod y ddarpariaeth yn llawer mwy pwrpasol ac yn llawer mwy perthnasol i ysgolion unigol.

­   Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Arweiniol).  Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod Partneriaeth yn addasu i ofynion ac anghenion lleol.

­   Ian Altman (Swyddog Arweiniol).  Bu symudiad yn awr o gymorth lefel uchel i ddull mwy pwrpasol i ddiwallu anghenion ysgolion unigol ac mae hefyd yn ymwneud â’r math o gymorth sydd ar gael i athrawon a’r math a’r lefel gywir ohono.

·       Beth yw’r prif wahaniaeth rhwng sut mae Partneriaeth yn gweithredu nawr a sut yr oedd y bartneriaeth flaenorol yn gweithredu?  Clywodd y grŵp fel a ganlyn:

­    Mae’n broses llawer mwy cydweithredol.

­   Mae maint y sefydliad bellach yn llawer llai sy'n ei wneud yn llawer haws i'w reoli.

­   Mae'r sefydliad yn gwrando ar randdeiliaid ac, yn bwysig, yn ymateb yn bwrpasol.

­    Mae’n addasu ac yn newid i ddiwallu’r angen lleol.

­   Ceir sgyrsiau anffurfiol a ffurfiol gyda’r cyfarwyddwyr bob mis.

­   Mae’n agored, yn dryloyw ac yn barod i ymateb.

­   Glynir at y cytundeb cyfreithiol a’r cynllun busnes.

­   Mae ein hathrawon a’n harweinwyr wedi gwir werthfawrogi canolbwyntio ar ddilyniant sgiliau disgyblion ac mae cael yr arbenigedd hwnnw o fewn Partneriaeth, hy canolbwyntio’n benodol ar lythrennedd, rhifedd, gwyddoniaeth, ac ati, wedi magu hyder gwirioneddol ar draws y system ac mae hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr. Wrth gwrs, mae addysgu da yn cefnogi cwricwlwm da ac mae’r rhaglen ‘addysgu â phwrpas’ wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran dychwelyd i’r pethau sylfaenol gan wneud yn siŵr bod addysgeg dda yn arwain at gynnydd da gan ddisgyblion. Mae'r rhaglen wedi bod o gymorth mawr i ymarferwyr fyfyrio ar eu hymarfer ac i adeiladu arno.  Mae’r gefnogaeth i ysgolion uwchradd wedi’i hatgyfnerthu ymhellach ac wedi’i theilwra ymhellach ac mae’n fwy pwrpasol fyth.

 

2.     Gofynnwyd i gyfarwyddwyr unigol pob awdurdod lleol roi eu barn ar sut mae pethau yn mynd eu blaen o ran eu cyngor hwythau, beth yw’r heriau allweddol y maent yn eu hwynebu, a gofynnwyd am sicrwydd gan bob cyngor eu bod yn credu bod Partneriaeth yn gweithredu yn unol â’r cytundeb cyfreithiol, ei gynllun busnes a bod ei amserlen yn cael ei rheoli'n effeithiol.

 

Gareth Morgan – Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin

·       Mae ystod eang o gyrsiau'n cael eu cyflwyno. Mae’r heriau’n ymwneud â chyllid rhai ysgolion neu’r gallu i gael staff cyflenwi er mwyn rhyddhau ymarferwyr fel bod modd iddynt fynychu’r digwyddiadau.

·       Cafwyd digwyddiad ymarfer ar y cyd ac mae un arall wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

·       Cafwyd trafodaethau rheolaidd â chyfarwyddwyr.

·       Gall Partneriaeth fod o fudd a gall helpu awdurdodau lleol unigol i gyflawni eu hamcanion.

·       Ymchwil – gwaith da yn y maes hwn i gefnogi ein dysgwyr, mae’n bwysig rhannu’r arfer da hwnnw.

·       Mae darpariaeth leol yn cael ei thrafod; rydym i gyd yn gweithio'n agos gyda'n gilydd.

·       Rwy’n gadarnhaol ynglŷn â ble mae’r arian yn cael ei wario a’i fod yn dryloyw.

 

Helen Morgan Rees, Cyfarwyddwr Addysg Abertawe

·       Ategaf yr hyn y mae Gareth wedi’i ddweud a byddwn yn amlinellu rhai meysydd cyffredinol i’w gwella

­   Ni ddylai’r adran Adnoddau Dynol ddefnyddio brand Partneriaeth yn ddiangen

­   Llai o theori i alluogi athrawon i wneud pethau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth sydd o ddefnydd ac o werth i athrawon.

­   Rhaid i’r gwaith o ddatblygu arweinwyr y dyfodol o ansawdd uchel barhau fel elfen hanfodol ar gyfer cefnogi ein hysgolion yn y dyfodol.

­   Mae Swyddogion Gwella Ysgolion yn yr awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn allweddol o ran gallu gwella cymorth ar gyfer addysgu a dysgu yn ein hysgolion.

49.

Y Proffil Risg Diweddaraf pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Ian Altman drosolwg i grŵp y cynghorwyr o broffil risg cyffredinol y rhanbarth o ran cyflawni ei nodau a blaenoriaethau yn haf 2024. Bydd yn cael ei ddiweddaru o ystyried swyddogaethau newydd Partneriaeth o fis Medi 2024. Mae'r map gwres yn nodi'r risgiau canlynol fel rhai sy'n sgorio “tebygolrwydd canolig” ac “effaith uchel”

·       Diffyg eglurder ynglŷn â swyddogaethau Partneriaeth

·       Canfuwyd nad yw Partneriaeth yn cynnig gwerth am arian

 

Seiliwyd y proffil risg ar gynllun busnes 2023/2024. Bydd y risg yn cael ei ailysgrifennu yn unol â’n cyflawniad busnes, ond mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r argymhellion o archwiliad y llynedd a hefyd y ffaith bod holl gyllid Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i dderbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys unrhyw amrywiadau disgwyliedig. Felly, mae hynny’n golygu bod y risg ariannol o ran cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn brydlon wedi’i leihau.

 

Bydd yn edrych rhywfaint yn wahanol wrth symud ymlaen, oherwydd bydd ein cyllid ar ffurf grant awdurdod lleol oddi wrth ein hawdurdodau lleol sy’n bartneriaid i ni, yn hytrach na chael grant rhanbarthol. Felly, mae'r risg yn dangos bod tebygolrwydd canolig ac effaith uchel o'r diffyg eglurder hwnnw ynglŷn â swyddogaethau Partneriaeth eto.  Mae'n bwysig iawn felly ein bod yn glir ynghylch ein cyflawniad craidd, yn enwedig yng ngoleuni'r ailstrwythuro, yn ogystal â bod ein negeseuon yn cyd-fynd â negeseuon ein cydweithwyr yn yr awdurdod lleol.

 

Soniodd grŵp y cynghorwyr:

·       mae'r ailstrwythuro yn creu ansicrwydd i'r staff sy'n cyflwyno'r hyfforddiant, ac felly mae hynny'n risg oherwydd mae’n ddigon posibl y gallai rhai o'r staff hynny adael i gael cyflogaeth fwy sefydlog.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Arweiniol eu bod yn lliniaru'r risg hon drwy fod yn agored iawn gyda'r staff ynghylch y newid hwn a'r amserlen.  Mae'r holl staff bellach yn gwybod ble y byddant ym mis Medi.  Bydd gostyngiad o 30% yn y tîm erbyn hynny.

50.

Diweddariad ar Cwricwlwm i Gymru pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae’r adroddiad a ddarparwyd gan Swyddog Arweiniol Partneriaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a’r ddarpariaeth ranbarthol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru yn ystod 2023-2024 yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu ysgolion o ran cynnydd ac asesu. Amlinellodd:

·       Cefnogaeth cwricwlwm

·       Heriau o ran cynnydd ac asesu

51.

Rhaglen Waith Craffu Partneriaeth 2023-2024

Cofnodion:

Cytunodd grŵp y cynghorwyr i gynnwys eu barn ar yr agenda heddiw mewn llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth.

52.

Trafod y pwyntiau ar gyfer y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth sy'n deillio o'r cyfarfod hwn pdf eicon PDF 162 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith craffu.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am.

 

Llythwyr pdf eicon PDF 239 KB