Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd
R A Fogarty gysylltiad personol
â Chofnod Rhif 35 "Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol Drafft'. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y Cynghorydd R A Fogarty gysylltiad personol â chofnod 45, "Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol Drafft". |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflawni
Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023 a'u
llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Polisi Gwirfoddoli / Datblygu Strategaeth Cyngor Abertawe. (Er Gwybodaeth) PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Anthony Richards, Rheolwr Datblygu Strategaeth Tlodi a'i Atal, adroddiad
"er gwybodaeth" i amlinellu'r gwaith a wnaed mewn perthynas â
datblygu Polisi/Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe. Amlinellodd y statws ar ddechrau'r flwyddyn, y cynnydd a wnaed hyd yma a'r camau a fyddai'n cael eu cymryd i benderfynu ar y broses derfynol. |
|
Polisi Adennill Dyledion Personal Corfforaethol Drafft. (Er Gwybodaeth) PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Anthony Richards, Rheolwr Datblygu Strategaeth Tlodi a'i Atal, adroddiad
"er gwybodaeth" i amlinellu'r gwaith a wnaed o ran datblygu Polisi
Adennill Dyledion Personol Corfforaethol Drafft. Amlinellodd y statws ar ddechrau'r flwyddyn, y cynnydd a wnaed hyd yma a'r camau a fyddai'n cael eu cymryd i benderfynu ar y broses derfynol. |
|
Cynllun Gwaith 2022-2023. (Er Gwybodaeth) PDF 300 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn amlinellu'r gwaith a
wnaed yn ystod blwyddyn ddinesig 2022-2023. Diolchodd i'r holl swyddogion am y gwaith a wnaed ac i aelodau'r Pwyllgor am eu cyfraniad yn ystod y flwyddyn. |