Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd R
Fogarty gysylltiad personol
â Chofnod 35 “Polisi Adennill Dyled Corfforaethol Drafft”. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y Cynghorydd R A Fogarty gysylltiad personol â Chofnod Rhif 35 "Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol Drafft'. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflawni
Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2023 a'u
llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen y Gweithlu'r Gyfarwyddiaeth - Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 2 MB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Deborah
Reed, Prif Swyddog (Adnoddau) ac Arweinydd Gweithlu ar gyfer Rhaglen Gweithlu'r
Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyniad Powerpoint
ar y Rhaglen Gweithlu sefydledig o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau
Cymdeithasol. Amlinellodd y
cyflwyniad y canlynol: Ø
Strwythur
y rhaglen a'r prosiectau amrywiol a oedd yn gysylltiedig â rhaglen y gweithlu; Ø
Y
gwaith a wnaed o fewn rhaglen y Gyfarwyddiaeth o ran y canlynol: Ø
Recriwtio
a Chadw; Ø
Rhaglen
Prentisiaethau; Ø
Data'r
gweithlu; Ø
Absenoldeb; Ø
Hyfforddiant Ø
Prosiectau
Ychwanegol: Ø
Strategaeth
y Gweithlu gorfforaethol; Ø
Oracle
Fusion; Ø
Caffael
staff asiantaeth Ø
Y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: Ø
Lles; Ø
Datblygu
Staff; Ø
Addewid
Cymru Gyfan - Memorandwm o Gydweithredu Ø
Y
Gwasanaethau i Oedolion: Ø
Lles; Ø
Datblygu
Staff; Ø
Strwythurau Ø
Datblygiadau
yn y dyfodol: Ø
Trawma
Eilaidd/Dirprwyol - ataliaeth a chefnogaeth ar draws y gyfarwyddiaeth Ø
Cynllun
Gwobrau a Chydnabyddiaeth y Gwasanaethau i Oedolion Ø
Llwybr
Cynnydd y Gwasanaethau i Oedolion Ø
Y
Gymraeg - sicrhau ei bod wedi'i chynnwys yn holl ddatblygiadau'r rhaglen Ø
Cyflwyno'r
Addewid Cymru Gyfan yn rhanbarthol ar draws y Gwasanaethau i Oedolion Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y swyddog yn briodol iddynt. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Prif Swyddog am y cyflwyniad llawn gwybodaeth a dywedodd ei fod
yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach. |
|
Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol Drafft. PDF 241 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi adroddiad i ddatblygu a mabwysiadu polisi
sy'n ymgorffori ymagwedd gorfforaethol at reoli adennill dyledion personol. Penderfynwyd bod y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi yn cymeradwyo bod y Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol Drafft yn symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol. |
|
Polisi Gwirfoddoli/ Datblygu Strategaeth Cyngor Abertawe (Er Gwybodaeth). PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaeth Trechu Tlodi adroddiad “er gwybodaeth” i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y gwaith a wnaed hyd yma o ran llunio
Polisi/Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe. |
|
Cynllun Gwaith 2022-2023. PDF 222 KB Penderfyniad: Caiff yr eitem ganlynol ei hychwanegu at y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 27 Mawrth
2023: ·
Datblygu Arweiniad Arfer Gorau i
Gydlynwyr Ardaloedd Lleol (Diweddariad). Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2022-2023. Penderfynwyd ychwanegu’r eitem ganlynol at agenda’r
cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 27 Mawrth 2023: · Datblygu Canllaw Arfer Gorau ar gyfer Cydlynu Ardaloedd Lleol (diweddariad). |