Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflawni
Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 a'u llofnodi
fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad ar Ddatblygu Canllaw Arfer Gorau Cydlynu Ardaloedd Lleol. PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Rheolwr
y Gwasanaeth Trechu Tlodi a’r Rheolwr Gweithredu Cydlynu Ardaloedd Lleol, gyda
chefnogaeth Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau adroddiad “Er Gwybodaeth” a
oedd yn amlinellu dogfen ganllaw arfer gorau ddrafft a oedd yn ymwneud â
Chydlynu Ardaloedd Lleol (CALl) yn Abertawe. Mae’r Canllaw
Arfer Gorau drafft ar Gydlynwyr Ardaloedd Lleol yn nodi’r safonau arfer gorau
fel y’u nodir yn Atodiad A. Gofynnwyd
i'r Pwyllgor am eu barn am y ddogfen ac i wneud unrhyw argymhellion ar gyfer
gwella. Ymgynghorir â’r
holl Gynghorwyr ar y ddogfen ddrafft, yn ogystal â staff sy’n gweithio’n agos
gyda’r CALl a sefydliadau eraill fel y trydydd sector, etc. Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor nifer o gwestiynau, rhoesant awgrymiadau amrywiol i'w cynnwys ac maent yn edrych ymlaen at gael copi o'r fersiwn ddiweddaredig maes o law. |
|
Cynllun Gwaith 2022-2023. PDF 221 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2022-2023. Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith. |