Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

21.

Cofnodion: pdf eicon PDF 233 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

22.

Adroddiad ar Ddatblygu Canllaw Arfer Gorau Cydlynu Ardaloedd Lleol. pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd Lee Cambule, Jon Franklin ac Aelod y Cabinet dros Gymunedau (Cymorth) adroddiad briffio i'r Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi ar ddatblygiad canllaw arfer gorau Cyngor Abertawe sy'n ymwneud â Chydlynu Ardaloedd Lleol yn Abertawe.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno'r sefyllfa bresennol o ran rhoi Cydlynu Ardaloedd Lleol ar waith a'r cyfle i ddatblygu, cyhoeddi a hyrwyddo cyfres o ganllawiau arfer gorau er lles rhanddeiliaid, gan gynnwys aelodau, gweithwyr proffesiynol (megis ymarferwyr cyffredinol, gweithwyr cymdeithasol a rhagnodwyr lleol) ac aelodau o'n cymunedau yn Abertawe.

 

Roedd yr adroddiad yn Atodiad A yn amlinellu'r canlynol:

 

1.            Crynodeb Gweithredol

2.            Cyd-destun

3.            Cydlynu Ardaloedd Lleol yn Abertawe

4.            Yr angen am Arweiniad

5.            Cynnwys – Canllaw Arfer Gorau

6.            Ymagwedd at gydgynhyrchu

7.            Camau nesaf

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion ac Aelod y Cabinet am yr adroddiad briffio ac roedd yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariad rhywbryd yn y Flwyddyn Newydd.

23.

Cynllun Gwaith 2022-2023. pdf eicon PDF 125 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2022-2023. Esboniodd ei fod wedi cwrdd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y cyfarfod diwethaf i drafod y ffordd ymlaen mewn perthynas â "Creu gweithlu i gyflwyno rhagor o wasanaethau gofal yn uniongyrchol”.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Nodi'r cynllun gwaith yn amodol ar yr ychwanegiadau canlynol mewn perthynas â "Creu gweithlu i gyflwyno rhagor o wasanaethau gofal yn uniongyrchol”.

           

a.         Tymor byr - Cefnogi a datblygu gweithlu a Strategaeth a Chynllun Lles ar gyfer y Gyfarwyddiaeth. Arweinir gan Deb Read;

b.         Tymor canolig (mis Chwefror/mis Mawrth) - opsiynau i'r cyngor fwrw ymlaen â'r agenda ailgydbwyso yn y Gwasanaethau i Oedolion;

c.         Tymor hir (Blwyddyn ariannol newydd) - Sut bydd y cyngor yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gael gwared ar yr agenda elw yn y Gwasanaethau i Blant.