Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Datganodd y Cynghorydd H Lawson gysylltiad personol â Chofnod 17 “Datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe”. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y Cynghorydd H Lawson gysylltiad personol â Chofnod 17 "Datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe." |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion
Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 25
Gorffennaf 2022 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Ar ran Arweinydd
y Gweithlu, rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyniad ar
Raglen y Gweithlu, Gwasanaethau Cymdeithasol; Creu gweithlu i gyflwyno rhagor o
wasanaethau gofal yn uniongyrchol. Roedd y
cyflwyniad yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Ar
draws Cyfarwyddiaethau - Pethau sy'n ymwneud yn benodol â Llywodraeth Cymru; ·
Mentrau'r
Gweithlu ar draws Cyfarwyddiaethau; ·
Pethau
y mae modd eu cyflawni yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd; ·
Pethau
y mae modd eu cyflawni yn y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi Roedd
trafodaethau'n cynnwys y canlynol: ·
Prentisiaethau; ·
Cyfleoedd
llwybr carlam/cymhellion recriwtio ·
Mentora
a chefnogaeth i bob aelod o staff; ·
Recriwtio
Gweithwyr Cymdeithasol o dramor; Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am y cyflwyniad a llongyfarchodd holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol am y gwaith a wnaed yn ystod cyfnod heriol iawn. |
|
Datblygu Strategaeth Wirfoddoli Cyngor Abertawe. PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi, gyda chefnogaeth y Rheolwr
Datblygu Strategaeth Tlodi a'i Atal, adroddiad “er gwybodaeth” a oedd yn
amlinellu'r cynnydd o ran datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe. Byddai
diweddariad pellach yn cael ei roi i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod a drefnwyd ar
gyfer 28 Tachwedd 2022. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am y diweddariad. |
|
Polisi Adennill Dyled Personol Corfforaethol Drafft. PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi, gyda chefnogaeth y Rheolwr Datblygu
Strategaeth Tlodi a'i Atal, adroddiad i ddatblygu a mabwysiadu polisi sy'n
gwreiddio ymagwedd gorfforaethol at reoli adennill dyledion personol. Penderfynwyd bod y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi yn argymell bod y polisi drafft yn cael ei symud ymlaen i'r Tîm Rheoli Corfforaethol, y broses AEI ddilynol, Ymgynghoriad Cyhoeddus a'r cyngor er mwyn cymeradwyo'r polisi terfynol. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2022-2023. Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith yn amodol ar
y diwygiadau canlynol: 1)
Ychwanegu
"Datblygu Strategaeth Gwirfoddoli Cyngor Abertawe" at yr agenda ar
gyfer y cyfarfod ar 28 Tachwedd 2022; 2) Cynnal trafodaeth bellach mewn perthynas â "Rhaglen y Gweithlu - Gwasanaethau Cymdeithasol; Creu gweithlu i gyflwyno rhagor o wasanaethau gofal yn uniongyrchol”. |