Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Cyflawni
Corfforaethol Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022 a'u llofnodi
fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Diogelu Pobl a Threchu Tlodi 2022-23. PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol,
amlinelliad drafft o'r rhaglen waith ar gyfer 2022-23 i'r Pwyllgor Cyflawni
Corfforedig Diogelu Pobl a Threchu Tlodi a thynnwyd sylw at yr hyn yr oedd y
Pwyllgor am ei gyflawni o ran amcanion polisi. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
rhaglen waith arfaethedig ar gyfer 2022-23 a amlinellwyd ym mharagraff 2.2 yr
adroddiad; 2)
Y
bydd yr Asesiad Effaith yn cael ei fonitro'n barhaol er mwyn gwella’i effaith
mewn ffordd gadarnhaol; 3)
Bod
yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried yn y cyfarfodydd a drefnwyd isod: 26 Medi 2022: Ø
Creu
gweithlu i gyflwyno rhagor o wasanaethau gofal yn uniongyrchol; Ø
Strategaeth
Gwirfoddoli (diweddariad); Ø
Polisi
Dyledion Corfforaethol (diweddariad); 24 Hydref 2022: Ø
Polisi/Canllaw
Arfer Gorau Cydlynu Ardaloedd Lleol gan gynnwys recriwtio. 4) Cynhelir gweithdai yn ôl y galw. |